Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau’n wahanol.

Mae gennym gyfraith yng Nghymru sy’n ein helpu ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant.

Er mwyn ein pobl, er mwyn ein planed. Ar gyfer nawr, ac ar gyfer ein dyfodol.

Ei henw yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae 7 nod llesiant cysylltiedig ar gyfer Cymru. Sef:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Image

 

Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol yr un ansawdd bywyd o leiaf ag sydd gennym ni nawr. Mae’r ddeddf yn helpu i wneud penderfyniadau gwell drwy sicrhau bod y cyrff cyhoeddus hynny yn:

  • ystyried y tymor hir
  • helpu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu
  • defnyddio dull gweithredu integredig
  • defnyddio dull gweithredu cydweithredol
  • ystyried a chynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth
Beth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?
Beth yw ei diben a sut y mae’n gweithio.
Pa fyrddau a chyrff cyhoeddus sy’n rhaid gweithio’n wahanol?
Rhestr o’r cyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r ddeddf.
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Mae’r Comisiynydd yn cefnogi’r newid.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Darllenwch fwy am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar LLYW.CYMRU