Neidio i'r prif gynnwy

Y nod dros Gymru gydnerth

Awdur: Luned Jones

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae llawer o’r dangosyddion cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at y nod hwn yn ddangosyddion tymor hir sy’n mesur newid graddol. Felly, caiff y dangosyddion hyn eu diweddaru o bryd i’w gilydd yn hytrach nag unwaith y flwyddyn.

O’r dangosyddion cenedlaethol a ddiweddarwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

  • roedd cynnydd bach yng nghyfran y cyrff dŵr wyneb a dŵr daear a gafodd statws da neu well yn 2021
  • gostyngodd y crynodiadau cyfartalog o nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol y mae pobl yn agored iddynt rhwng 2019 a 2020; gall amrywiadau blynyddol fod oherwydd sawl ffactor gan gynnwys y tywydd
  • roedd gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen, rhwng 2012 a 2019
  • parhaodd y gyfradd ailgylchu i gynyddu gyda bron i ddwy ran o dair o wastraff trefol yn cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2020-21. Roedd faint o wastraff trefol a gynhyrchwyd yr isaf a gofnodwyd
  • mae capasiti trydan wedi ei osod a chapasiti gwres wedi ei osod o ynni adnewyddadwy wedi cynyddu mymryn, ond yn arafach nag yn y blynyddoedd diwethaf; mae’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu dros hanner (56%) y trydan sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at y nod Cymru gydnerth ar lefel fyd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau tymor hir i ansawdd aer, mwy o gapasiti ynni adnewyddadwy, llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu a gwelliannau sylweddol mewn cyfraddau ailgylchu. Fodd bynnag, mae dangosyddion eraill yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan a bod y rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth yn ystod y can mlynedd diwethaf.

Mae’r asesiad cynhwysfawr diweddaraf o adnoddau naturiol Cymru yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan.

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen.

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol.

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o ran cynhyrchu gwastraff a gwelliannau sylweddol yng nghyfraddau ailgylchu gwastraff, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Mae capasiti trydan wedi ei osod o ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu ond yn arafach nag yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ogystal â’r dangosyddion cenedlaethol, mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn darparu asesiad cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Bioamrywiaeth

Mae colli bioamrywiaeth yn cyflymu’n fyd-eang ac ar gyfraddau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Er bod gwelliant wedi bod yn statws poblogaethau rhai rhywogaethau yng Nghymru, mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn dangos bod bioamrywiaeth yn dirywio ar y cyfan. Roedd dangosydd arbrofol ar Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros y tymor hir ond ei fod yn sefydlog yn fwy diweddar. Mae dadansoddiad pellach o’r pwnc hwn ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2021.

Yn ogystal â’r dangosydd cenedlaethol ar fioamrywiaeth, mae cynlluniau ar waith sy’n monitro rhywogaethau penodol. Mae Cynllun Monitro Glöynnod Byw y Deyrnas Unedig yn gynllun monitro tymor hir. Mae’r tueddiadau ar gyfer rhywogaethau glöynnod byw y Deyrnas Unedig yn amrywio, gyda thua traean o’r rhywogaethau a aseswyd yn y Deyrnas Unedig yn dangos gostyngiad hirdymor sylweddol mewn niferoedd (34%), o’i gymharu â 29% yn dangos cynnydd hirdymor sylweddol. Fodd bynnag, dros y degawd diwethaf mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau’n sefydlog, gyda 7 rhywogaeth (13%) yn dangos cynnydd sy'n arwyddocaol yn ystadegol a dim un rhywogaeth yn dangos dirywiad sylweddol.

Mae’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am ddirywiad hirdymor mewn niferoedd yn cynnwys newidiadau o ran graddfa, cyflwr a darnio cynefinoedd a ddaw yn sgil dwysau ffermio, newidiadau mewn arferion coedwigaeth, datblygiadau trefol, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Mae rhai gyrwyr, fel newid yn yr hinsawdd, yn debygol o gael effeithiau cymysg yn dibynnu ar y rhywogaethau.

Mae’r Arolwg Adar Nythu yn gynllun monitro gwyddoniaeth y bobl sydd wedi bod ar waith ers 1994. Ledled y Deyrnas Unedig, mae 39 rhywogaeth wedi dangos cynnydd arwyddocaol yn ystadegol yn y tymor hir, ac mae 43 o rywogaethau wedi gweld dirywiad sylweddol yn y tymor hir. Mae cynnydd mewn poblogaethau yn cynnwys ymlediad cytrefwyr diweddar a rhywogaethau anfrodorol. Yng Nghymru, mae 17 o rywogaethau wedi gweld cynnydd arwyddocaol yn ystadegol yn y tymor hir ac 14 rhywogaeth wedi gweld dirywiad sylweddol yn y tymor hir.

Cynefinoedd a phridd

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen.

Yn adroddiad Llesiant Cymru 2019, fe wnaethom adrodd bod 31% o’n tir yn cael ei ystyried yn lled-naturiol. Defnyddir y dangosydd cenedlaethol hwn i asesu cyfran ein tir sydd â chynefinoedd lled-naturiol, wedi eu haddasu llai gan mai’r rhain sydd fwyaf tebygol o ffurfio ecosystemau iach a chryf. Bydd dangosydd wedi ei ddiweddaru ar gael yn 2023.

Mae’r rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig yn cynnwys 50% o ddyfroedd mewndirol ac alltraeth Cymru ac yn gwarchod cyfres gynrychioladol o gynefinoedd a rhywogaethau morol. Felly, mae sicrhau cyflwr ffafriol y safleoedd hyn yn allweddol i sicrhau cadernid cyffredinol moroedd Cymru. Ym mis Ionawr 2018, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiadau cyflwr dangosol ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol yng Nghymru. Aseswyd bod 46% o nodweddion morol mewn cyflwr boddhaol, 45% mewn cyflwr anfoddhaol a 9% yn anhysbys, gyda lefelau hyder sylfaenol yn cael eu haseinio i bob asesiad.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr asesiad sylfaenol o safleoedd gwarchodedig Daearol a Dŵr Croyw yn 2021. Roedd gan oddeutu hanner y nodweddion ar y safleoedd hyn ddigon o wybodaeth i’w hasesu. Amcangyfrifir bod 20% o’r holl nodweddion mewn cyflwr boddhaol; mae tua 30% mewn cyflwr anfoddhaol ac mae tua 50% heb fod mewn cyflwr boddhaol.

Bydd pridd sy’n cael ei reoli’n dda yn diogelu’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, yn cynnal cynefinoedd, yn helpu i reoli’r perygl o lifogydd ac yn lleihau costau trin dŵr. Mae’r dangosydd cenedlaethol ar bridd yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein pridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir cynefin lle gwelwyd colli carbon yn ddiweddar.

Ansawdd dŵr a pherygl llifogydd

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol.

Mae dŵr yn un o adnoddau naturiol Cymru rydym yn dibynnu arno’n gyson, gan gynnwys ar gyfer dŵr yfed, yr economi, diwydiant, trin carthffosiaeth ac amaethyddiaeth.

Yn 2021-22 roedd Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi darparu tua 900 megalitr y dydd (Ml/d) o ddŵr yfed i ateb y galw, gyda mwy o alw yn ystod y cyfnodau prysuraf fel yn ystod tywydd sych a phoeth neu fannau poblogaidd ymysg twristiaid. Amcangyfrifir bod cyfanswm y dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat (heb fod ar y prif gyflenwad) yn 13.8 Ml/d.

O ran statws cyffredinol ledled Cymru, roedd 40% o’r 933 o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear â statws da neu well yn 2021. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 3 pwynt canran o’r hyn a adroddwyd yn 2015 a gwelliant o 8 pwynt canran ers 2009.

Mae dyfroedd ymdrochi o ansawdd da yn bwysig iawn i gymunedau'r arfordir, ymwelwyr a’r economi yng Nghymru. Mae ansawdd dŵr ymdrochi yn cael ei fonitro mewn 105 o safleoedd dynodedig ar hyd arfordir Cymru. Yn 2021, ar gyfer y pedwerydd tymor yn olynol, roedd holl ddyfroedd ymdrochi Cymru yn bodloni’r safonau a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi. Dyfarnwyd bod 85 yn rhagorol, 14 wedi cyflawni sgôr dda a 6 wedi cyrraedd y safon sylfaenol, ddigonol.

Image
Siart gylch yn dangos bod y rhan fwyaf o'r dyfroedd ymdrochi yng Nghymru (81%) wedi'u hasesu fel rhai rhagorol yn 2021.

Mae’r asesiad risg llifogydd diweddaraf yn dangos bod rhai cartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd oherwydd moroedd, afonydd a dŵr wyneb, gyda rhai mewn perygl o lifogydd oherwydd mwy nag un math o lifogi.

Yn 2019, roedd bron i 42,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd o afonydd a mwy na 60,000 o eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd llanw. Mae hyn yn cynnwys eiddo preswyl ac amhreswyl. O’r rhain, mae dros 20,000 yn elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd afonydd a thros 50,000 ar amddiffynfeydd rhag llifogydd llanw. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl ystyried tueddiadau dros amser oherwydd newidiadau yn y fethodoleg.

Ansawdd aer

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar allyriadau nitrogen deuocsid (NO2) yn dangos bod y lefelau crynodiad cyfartalog y mae pobl yn agored iddynt wedi bod yn gostwng ar y cyfan dros y degawd diwethaf. Ar ôl cyfnod o sefydlogrwydd cymharol rhwng 2017 a 2019 (tua 9 µg/m3), gostyngodd y crynodiad cyfartalog i 7 µg/m3 yn 2020. Mae hyn yn cyd-fynd â’r gostyngiad mewn lefelau traffig ar y ffyrdd yn ystod cyfyngiadau COVID-19.  Gostyngodd y crynodiadau cyfartalog o ddeunydd gronynnol (PM10 a PM2.5) y mae pobl yn agored iddynt hefyd rhwng 2019 a 2020.

Ceir y crynodiadau uchaf o allyriadau nitrogen deuocsid mewn ardaloedd trefol a ger ffyrdd prysur, sy’n adlewyrchu cyfraniad traffig a gweithgareddau trefol at ansawdd aer gwael.

Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae 44 o ardaloedd rheoli ansawdd aer yng Nghymru. Dynodwyd un ohonynt oherwydd y risg i lefelau deunydd gronynnol PM10 fynd yn uwch na’r amcan ansawdd aer cymedrig dyddiol 24 awr ar gyfer PM10, a dynodwyd y gweddill lle bo lefelau NO2 yn uwch, neu â’r posibilrwydd o fod yn uwch, na'r amcanion ansawdd aer ar gyfer NO2.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod baich dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor hir yn cyfateb i 1,000 i 1,400 o farwolaethau (ar oedrannau nodweddiadol) bob blwyddyn.

Image
Siart linell yn dangos bod ansawdd yr aer wedi gwella'n fawr ers y 1970au, er ei fod wedi aros yn gymharol sefydlog yn y blynyddoedd diwethaf.

Gwastraff ac ailgylchu

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli gwastraff dros y degawd diwethaf drwy gynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, a lleihau faint sy’n cael ei waredu. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Roedd gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen, rhwng 2012 a 2019 (o 794kg i 523kg).  Mae swm y gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu wedi gostwng ar gyfer pob un o’r tair elfen yn y dangosydd cenedlaethol hwn:

  1. gwastraff cartrefi
  2. gwastraff diwydiannol a masnachol
  3. gwastraff adeiladu a dymchwel

Gostyngodd cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir yn y sectorau diwydiannol a masnachol rhwng arolygon 2012 a 2018, gyda dwy ran o dair o’r gwastraff hwn yn cael ei baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio.

Roedd cyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd yn y sectorau adeiladu a dymchwel yn debyg yn arolygon 2012 a 2019, gyda chynnydd bach yng nghyfran y gwastraff a baratowyd ar gyfer ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio.

Mae faint o wastraff trefol awdurdodau lleol a gynhyrchir yng Nghymru wedi gostwng yn raddol ers dechrau’r 2000au, gyda gostyngiad o 3% rhwng 2019-20 a 2020-21, i’r ffigur isaf i gael ei gofnodi hyd yma. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol gan nad yw’n glir pa effeithiau sy’n rhai tymor byr oherwydd y pandemig a pha rai sy’n rhai tymor hwy. 

Cydnabyddir mai Cymru sydd â’r gyfradd ailgylchu gwastraff cartrefi uchaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r data diweddaraf yn dangos bod bron i ddwy ran o dair (65.4%) o wastraff trefol awdurdodau lleol wedi cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2020-21, sy’n debyg i’r gyfran flwyddyn yn gynharach.

Image
Siart far yn dangos bod canran y gwastraff trefol sydd wedi cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio yng Nghymru wedi cynyddu ar y cyfan o 32.4% yn 2012-13 i 65.4% yn 2020-21.

Fel rhan o Arolwg Cenedlaethol 2021-22, gofynnwyd i bobl am ymddygiad amgylcheddol fel rhan o fywyd bob dydd. Roedd bron i hanner (46%) y bobl yn prynu llai o eitemau newydd sbon. O’r rhain, dywedodd bron i draean (30%) mai cost oedd y prif reswm, nid oedd dros hanner (54%) angen prynu cynifer o bethau newydd, neu roeddent yn ffafrio trwsio a phrynu eitemau ail-law. Dywedodd 15% arall mai cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd oedd y prif reswm dros brynu llai o eitemau newydd.

Mae’r mwyafrif helaeth o bobl (92%) naill ai wedi gwerthu neu roi eitemau i ffwrdd yn ystod y 12 mis blaenorol, gyda’r rhan fwyaf o ddulliau gwerthu neu roi eitemau i ffwrdd yn dangos cynnydd ers i’r cwestiynau gael eu gofyn ddiwethaf yn 2018-19. Mae dwy ran o dair o bobl naill ai wedi derbyn neu brynu eitemau ail-law yn ystod y 12 mis diwethaf (cynnydd o 57% yn 2018-19).

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Mae capasiti prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru (trydan a gwres) wedi codi bron i bedair gwaith yn uwch yn y degawd diwethaf, er bod y cynnydd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd tua 33% o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy yn 2020. Mae’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yn cyfateb i tua 56% o'r trydan sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Ar ddiwedd 2020, roedd y capasiti trydan wedi ei osod ar gyfer ynni adnewyddadwy yn 3,417 megawat (MW). Mae hyn 1% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a thros ddwywaith y capasiti yn 2012. Mae ynni gwynt yn cyfrif am bron i 59% y capasiti trydan adnewyddadwy a 69% o’r trydan adnewyddadwy a gynhyrchir.

Mae Cymru’n cynhyrchu 67% yn fwy o drydan nac y mae’n ei ddefnyddio, sy’n golygu ei bod yn allforiwr net trydan.

Ar ddiwedd 2020, roedd cyfanswm y capasiti gwres adnewyddadwy yng Nghymru yn 716 MW. Mae hyn 4% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a thros ddeuddeg gwaith y capasiti gwres yn 2012.

Image
Siart far yn dangos cynnydd sylweddol mewn capasiti gwres a thrydan adnewyddadwy yng Nghymru rhwng 2012 a 2020.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd 62% o bobl yn defnyddio llai o ynni yn eu cartrefi. O’r rhain, cost oedd y rheswm a roddwyd gan 62% o bobl. Dywedodd chwarter o bobl mai cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd oedd y rheswm dros ddefnyddio llai o ynni. Gofynnwyd y cwestiynau hyn cyn y codiadau diweddar mewn prisiau ynni.

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o:

  • llifogydd
  • tlodi tanwydd
  • cynefinoedd lled-naturiol
  • bioamrywiaeth
  • mannau gwyrdd
  • ansawdd pridd
  • effeithlonrwydd ynni cartrefi

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn darparu asesiad cynhwysfawr o’r graddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data ar safbwyntiau pobl ar faterion amgylcheddol.

Nature Positive 2030 Evidence Report: a gynhyrchwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot a’r Northern Ireland Environment Agency. 

Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Ffynonellau data