Neidio i'r prif gynnwy

Y nod i Gymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Datblygiad plant adeg dechrau yn yr ysgol gynradd

Caiff plant yng Nghymru eu hasesu drwy Broffil y Cyfnod Sylfaen yn ystod eu 6 wythnos gyntaf ar ôl dechrau yn yr ysgol gynradd (dosbarth derbyn). Mae hwn yn cael ei ddefnyddio i bennu’r cyfnod datblygu a diddordebau’r plentyn yn unol â fframwaith a Phroffil y Cyfnod Sylfaen. Mae cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o fis Medi 2022. O ganlyniad, data ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022 sy'n ymwneud â chwricwlwm Cymru 2008 fydd yr olaf yn y gyfres ar gyfer y dangosydd hwn.

Mae’r data’n adlewyrchu’r ystod eang o aeddfedrwydd datblygiadol a ddisgwylir yn yr oed hwn. Mae hyn o fewn yr ystod arferol ar gyfer plant sy’n dechrau yn yr ysgol, yn enwedig gyda’r amrywioldeb o ran oed bryd hynny. Yn y flwyddyn academaidd 2021/22 roedd 54% o ddisgyblion 4 oed wedi cyrraedd cam datblygiad mewn mathemateg a fyddai'n gyson â'u hoedran yn ôl fframwaith y Cyfnod Sylfaen neu’n well, gydag 87% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed. Mewn iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Saesneg roedd 53% o ddisgyblion wedi cyrraedd cam datblygiad a fyddai'n gyson â'u hoedran neu'n well, gydag 85% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed.  Mae'r ffigyrau yma'n is nag yn 2019. 

Mae’r darlun yn wahanol ar gyfer iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Gymraeg, lle’r oedd 27% o blant ar gam a oedd yn gyson â’u datblygiad. Mae hyn oherwydd bod plant o deuluoedd di-Gymraeg wedi cofrestru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ar gyfer pob maes dysgu, roedd dosbarthiad gwahanol o ran cynnydd datblygiadol i fechgyn o’i gymharu â menywod, gan eu bod yn aeddfedu ar gyflymder gwahanol, ac ar gyfartaledd roedd menywod wedi cyrraedd cam datblygu uwch.

Un o’r meysydd lle mae plant yn cael eu hasesu yw datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol. Yn y maes dysgu hwn, roedd 64% o ddisgyblion wedi cyrraedd cyfnod datblygu a fyddai’n gyson â’u hoedran, neu’n well na hynny, yn ôl y fframwaith, gydag oddeutu 87% disgybl o fewn un cyfnod datblygu yn gyson â’u hoedran.

Cyrhaeddiad mewn ysgolion cynradd ac uwchradd

Cododd cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.

Ar ôl canslo arholiadau cyhoeddus yn ystod haf 2020 a 2021, cafodd yr holl raddau a fyddai wedi cael eu dyfarnu ar ôl arholiad eu disodli gan radd a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan. Mae’r canlyniadau ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 (diwedd addysg orfodol) yn dangos fod canran y ceisiadau a gafodd ystod graddau A* i A wedi cynyddu o 19.5%% yn 2019 i 29.5% yn 2021. Mae’r canlyniadau yn yr ystod graddau A* i C wedi gweld cynnydd tebyg yn yr un cyfnod amser, o 65.1% i 75.1%.

Mae’r cymariaethau rhyngwladol a wnaed o dan asesiadau PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn awgrymu bod pobl ifanc 15 oed yng Nghymru yn dal ar ei hôl hi o ran darllen o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. O ran PISA 2018, nid oes gwahaniaeth sylweddol rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon na’r Alban mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Yn rhyngwladol, nid yw Cymru bellach yn perfformio’n is na chyfartaledd gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Cyfranogiad mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant

Gan ddefnyddio’r prif fesur o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, bu gostyngiad yn y grŵp oedran 16 i 18 ac 19 i 24 rhwng 2017 a 2019. Yna, cynyddodd y gyfran ar gyfer y ddau grŵp yn 2020. Ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, roedd hyn yn dilyn cyfnod lle’r oedd y gyfran wedi aros yn sefydlog ar oddeutu 89-90% rhwng 2012 a 2018.

Roedd y grŵp oedran 19 i 24 yn teimlo effaith dirwasgiad 2008 yn fwy amlwg. Ers hynny a hyd at 2017, mae’r gyfran mewn addysg neu’r farchnad lafur wedi cynyddu’n raddol. Ar ddiwedd 2020, y cynnydd cyntaf ers 2017, roedd y gyfradd yn 84.8%, tua 8 pwynt canran yn uwch nag yn 2012.

Image
Siart linell yn dangos bod canran y bobl 16-18 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi aros ar oddeutu 89-90% dros y 15 mlynedd diwethaf, gyda chyfran gyfatebol o bobl ifanc 19-24 oed yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd a oedd yn arwain at y pandemig

Tlodi incwm cymharol

Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rhai sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif).

Mae plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol. Roedd cynnydd bychan yng nghyfradd y plant mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai) yn y data mwyaf diweddar sydd ar gael ar gyfer Cymru, hyd at 31% yn 2017 i 2020. 

Yn y cyfnod diweddaraf rhwng 2017 i 2020, roedd 71% o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd sy’n gweithio (tua 140,000 o blant). Mae hyn wedi cynyddu yn ystod y pum cyfnod diwethaf, o 60% yn y cyfnod rhwng 2012-2015.

Ystyrir bod person mewn tlodi parhaus os ydynt mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Roedd tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2016 a 2020 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 13%.

Image
Siart yn dangos canran yr holl unigolion, plant, oedolion oed gweithio a phensiynwyr yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn y cyfnod rhwng 1994 a 2020. Mae plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na'r boblogaeth yn gyffredinol. Cyn pandemig Covid-19 roedd canran y bobl sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 15 mlynedd.

Roedd aelwydydd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd; roedd 49% o aelwydydd un rhiant mewn amddifadedd materol yn 2021-22 o’i gymharu â 14% o aelwydydd â dau oedolyn a phlant, a 6% aelwydydd sy’n cynnwys dau oedolyn heb blant.

O’r rhai sy’n rhieni, mae gan 6% blant a fyddai’n cael eu hystyried yn rhai sydd mewn amddifadedd materol. Roedd plant sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na’r rhai mewn tai rhent preifat neu dai yn eiddo i berchen-feddianwyr.

Mae tystiolaeth flaenorol o Arolwg Cenedlaethol 2018-19 yn awgrymu hyd yn oed pan fydd rhieni mewn amddifadedd materol, mae’n ymddangos eu bod yn ceisio amddiffyn eu plant rhag y profiad o amddifadedd materol sy’n benodol i blant.

Aelwydydd heb waith

I blant, mae cysylltiad cryf rhwng y tebygolrwydd o fod mewn tlodi incwm cymharol a statws cyflogaeth oedolion yn yr aelwyd. Yng Nghymru, roedd 11.0% o blant yn byw mewn aelwyd heb waith yn 2020, o’i gymharu â 9.9% o blant yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, gwelwyd gostyngiad ers 2016 (14%), a gostyngiad sylweddol o’r uchafbwynt o 20.0% yn 2009. Mae 24.4% o blant yng Nghymru yn byw mewn aelwyd lle mae o leiaf un oedolyn (ond nid pob un) yn gweithio, ac mae 64.5% yn byw mewn aelwyd lle mae pob oedolyn yn gweithio. 

Image
Siart llinell yn dangos canran y plant sy'n byw mewn cartrefi di-waith yng Nghymru a'r DU, rhwng 2004 a 2020. Mae canran y plant sy'n byw mewn cartrefi di-waith wedi bod yn uwch yng Nghymru na'r DU ers 2004, ond mae'r bwlch wedi lleihau yn 2020.

Ffynonellau data a darllen pellach