Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Mae adroddiad Llesiant Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yng Nghymru o ran cyflawni’r saith nod llesiant. Mae’n ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd a’r cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf gan gyfeirio at y 50 o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru a gwybodaeth gyd-destunol ychwanegol lle bo hynny’n briodol. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn 2017.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad atodol o'r data sydd yn adroddiad Llesiant Cymru sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Fe’i cynhyrchwyd i nodi’r dadansoddiad penodol sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc ar gyfer y defnyddwyr sydd â diddordeb mewn deall lles y grŵp hwn. Gan hynny, ni chyfeirir at bob dangosydd fel y maent yn y prif adroddiad.

Y tro diwethaf i ni gyhoeddi adroddiad ar les plant oedd yn 2018. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cynllun Plant a Phobl Ifanc sy’n nodi’r hyn y bydd y llywodraeth yn ei wneud i blant a phobl ifanc sy’n cael eu magu, yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd cynnydd yn erbyn y cynllun yn cael ei fonitro yn erbyn detholiad o ddangosyddion cenedlaethol. Yn ychwanegol at hynny, tynnodd adolygiad diweddar gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sylw at yr angen i wneud plant a phobl ifanc yn fwy gweladwy mewn ystadegau. Rydym hefyd wedi clywed drwy adborth i ymgynghoriadau ar y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir bod cynnwys a gweld data am blant yn bwysig, ac fe ddylid ei wella. Felly, nod yr adroddiad hwn yw creu darlun mwy cydlynol o’r hyn a wyddom am les plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Byddwn yn ystyried cynlluniau i’r dyfodol ar gyfer dadansoddiad pellach ar lesiant Cymru dros y misoedd nesaf. Nid ydym yn disgwyl y bydd y ffocws ar blant yn cael ei ailadrodd bob blwyddyn, ond byddwn yn ystyried a ddylid cynnal dadansoddiad tebyg ar gyfer grwpiau eraill.

Rydym am sicrhau bod ein dull o adrodd yn erbyn nodau llesiant mor effeithiol â phosibl. Rydym yn croesawu adborth ar gynnwys neu ddefnyddioldeb yr adroddiad atodol hwn neu brif adroddiad Llesiant Cymru ar unrhyw adeg. Os oes gennych chi farn, cysylltwch drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt yn yr adroddiad hwn.

Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ar gyfer themâu y gellid eu defnyddio ar gyfer mwy o adroddiadau atodol yn y dyfodol.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd