Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Mae’r adroddiad Llesiant Cymru blynyddol yn gyfle gwerthfawr i edrych yn fanwl ar gynnydd ein cenedl tuag at y saith nod llesiant. Daw adroddiad eleni ar adeg gythryblus. Er bod cyfnod prysuraf pandemig y coronafeirws wedi mynd heibio, mae’r effaith yn dal i gael ei theimlo’n fawr iawn. Ar ben hynny, mae’r argyfwng costau byw a’r goresgyniad yn Wcráin yn creu ansicrwydd a phryder yn y cartref ac yn rhyngwladol. Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae’r digwyddiadau hyn yn dal i esblygu a bydd yn cymryd blynyddoedd lawer cyn y bydd eu heffaith lawn yn hysbys (er ein bod wedi gwneud sylwadau arnynt yn yr adroddiad hwn lle bo hynny’n bosibl).

Dros ddwy flynedd ar ôl dechrau’r pandemig, gallwn nawr fonitro ystod ehangach o’i effeithiau a gweld a yw’r newid y gwnaeth ei greu yn parhau. Er enghraifft, gwelsom rai newidiadau cadarnhaol mewn pynciau fel cydlyniant cymunedol a gwneud penderfyniadau lleol yn gynnar yn y pandemig. Er bod y data diweddaraf yn dangos bod rhai o’r mesurau hyn yn dechrau gostwng, maen nhw’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig. A allai hyn fod yn enghraifft o newid parhaus neu, ymhen amser, a fyddant yn dychwelyd i’w lefelau blaenorol?

Mae’n amlwg bod effeithiau wedi bod ar sawl elfen o’n llesiant cenedlaethol. Mae pennod Cymru Iachach o’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at gynnydd araf tuag at y nod llesiant, gyda llesiant meddwl sy’n gwaethygu mewn oedolion a phlant hŷn yn arbennig o nodedig eleni. Un o’r themâu a ddaeth i’r amlwg o adroddiad y llynedd oedd nifer yr enghreifftiau o anghydraddoldeb cynyddol. Mae hyn yn parhau i fod yn nodwedd eleni, gydag ychydig o arwyddion o’r bylchau’n gwrthdroi. Mae’r argyfwng costau byw wedi ychwanegu at yr heriau sy’n codi yn sgil y twf isel iawn mewn safonau byw, sy’n cael ei sbarduno gan dwf gwan iawn mewn cynhyrchiant, fel sy’n digwydd ledled y Deyrnas Unedig ers adeg yr argyfwng ariannol. Disgwylir y bydd hyn yn gwaethygu anghydraddoldebau ymhellach, gyda phobl ar incwm isel yn debygol o gael eu heffeithio’n benodol.

Ond mae arwyddion o newid cadarnhaol hefyd. Ym maes gwaith teg, mae’r bwlch cyflog amser llawn rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf, mae cynnydd diweddar yn nifer y bobl ar gontractau parhaol sy’n cael y cyflog byw gwirioneddol, ac mae cyflogau mwy o bobl bellach yn cael eu pennu drwy gydfargeinio. Yn y flwyddyn ddiweddaraf, gostyngodd nifer y babanod pwysau geni isel am y tro cyntaf ers 2014. Ac mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi parhau i wella (yn sgil effaith y pandemig) ac mae faint o wastraff nad yw’n cael ei ailgylchu yn parhau i ddisgyn.

Cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol newydd

Ddiwedd 2021, gosodwyd set wedi ei diweddaru o ddangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd, gan ehangu’r set o 46 o ddangosyddion i 50. Cafodd pynciau newydd fel cyfiawnder, fforddiadwyedd tai, trafnidiaeth a chynhwysiant digidol eu hychwanegu am y tro cyntaf, ochr yn ochr â rhai newidiadau i’r dangosyddion cenedlaethol presennol. Mae adroddiad Llesiant Cymru eleni yn cyflwyno data ar rai o’r dangosyddion newydd a diweddaraf hyn am y tro cyntaf. Edrychaf ymlaen at adrodd ar fwy o’r dangosyddion hyn wrth i ffynonellau data newydd ddod ar gael dros y blynyddoedd nesaf.

Adroddiad eleni hefyd yw’r cyntaf i roi sylw i’r cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Cafodd y naw carreg filltir genedlaethol gyntaf eu gosod ddiwedd 2021, gydag wyth arall yn cael eu datblygu. Mae dadansoddiad o adroddiad eleni yn dangos cynnydd cymysg ar draws yr wyth carreg filltir gyntaf, gyda chynnydd tymor hir cadarnhaol o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y gyfradd gyflogaeth, cymwysterau lefel 3 ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond naill ai’n ddigyfnewid neu’n dirywio ar gyfer cerrig milltir eraill.

Sut i ddefnyddio'r adroddiad hwn?

Eleni, rhoddwyd statws Ystadegau Gwladol i adroddiad Llesiant Cymru. Mae hyn yn golygu ei fod wedi cael ei asesu’n annibynnol i fodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cadw at y safonau hyn ac, os ydych chi’n darllen yr adroddiad hwn, gallwch chi ein helpu ni i wneud hyn. Rydyn ni eisiau clywed sut rydych chi’n defnyddio’r adroddiad a’r dangosyddion cenedlaethol, beth rydych chi’n ei hoffi amdano a beth hoffech chi ei weld yn cael ei wella. Os hoffech chi gyfrannu, rydyn ni’n bwriadu defnyddio blog Llunio Dyfodol Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a gofyn am eich barn.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd