Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Bob blwyddyn mae adroddiad Llesiant Cymru yn gyfle i gamu’n ôl ac edrych ar sut mae pobl a lleoedd yng Nghymru yn newid. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi’r fframwaith i ni ar gyfer gwneud hyn: y saith nod llesiant. Mae’r nodau hyn yn sail i’r penodau yn yr adroddiad hwn.

Gyda chwyddiant yn codi’n sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r effaith ar gostau byw yn ymddangos yn rheolaidd drwy gydol yr adroddiad hwn. Roedd chwyddiant wedi cyrraedd ei lefel uchaf o dros 11% ym mis Hydref 2022, gan arwain at ostyngiadau yn incwm gwirioneddol pobl. Nid yw rhai o effeithiau’r argyfwng wedi eu nodi’n llawn eto, ond mae’r adroddiad hwn yn cynnwys tystiolaeth hyd yma ar y sefyllfa yng Nghymru. Mae dadansoddiad yn awgrymu bod effaith yr argyfwng wedi cael ei theimlo’n fwyaf difrifol gan bobl ar incwm isel.

Adroddiad eleni yw’r cyntaf i gynnwys mesur o “allyriadau defnydd” sy’n cynnwys allyriadau nwyon tŷ gwydr a briodolir i eitemau a gynhyrchir y tu allan i Gymru ond a ddefnyddir yma. Ac am y tro cyntaf er 2015 mae diweddariad i’r ôl troed byd-eang, sef mesur o’r baich amgylcheddol a roddwn ar y blaned. Mae’r ddau ddangosydd hyn yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud ond y bydd angen i ni symud yn gyflymach i leihau ein heffaith fyd-eang.

Mae tystiolaeth hefyd eleni bod plant a phobl ifanc yn waeth o lawer mewn rhai ardaloedd ers y pandemig nag oedolion. Mae canran y babanod sydd â phwysau geni isel wedi codi i’w lefel uchaf eleni. Roedd llai o blant pedair oed ar y lefel ddisgwyliedig mewn mathemateg, iaith, llythrennedd a chyfathrebu na chyn y pandemig.  Roedd data ar lefelau bodlonrwydd ar fywyd wedi gostwng ymysg pobl ifanc (ond roedd wedi gwella yn achos oedolion), ac roedd llai o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Ar ben hynny, cofnododd Arolwg Chwaraeon mewn Ysgolion 2022 y lefelau isaf o gyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i’r ysgol ymysg plant, yn wahanol i’r darlun gwell o ran cyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon ymysg oedolion. Ac yn ôl Cyfrifiad 2021, plant oedd y grŵp i brofi’r gostyngiad mwyaf yn y ganran oedd yn gallu siarad Cymraeg. Gall y canfyddiadau hyn arwain at ganlyniadau hirdymor o ran y cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Ethnigrwydd a llesiant

Eleni rydym wedi cyhoeddi adroddiad atodol ochr yn ochr ag adroddiad Llesiant Cymru sy’n canolbwyntio ar ethnigrwydd a llesiant. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, roedd argaeledd data a thystiolaeth yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro. Nod yr adroddiad atodol yw dwyn ynghyd y dystiolaeth bresennol er mwyn archwilio cynnydd tuag at y nodau llesiant ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig. Ochr yn ochr â mathau eraill o dystiolaeth, gellir defnyddio hyn i helpu i lywio penderfyniadau er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal.

Newydd eleni

Adroddiad Llesiant Cymru y llynedd oedd y cyntaf i adrodd ar dargedau fesul cenhedlaeth a adwaenir fel cerrig milltir cenedlaethol. Mae adroddiad eleni yn ehangu hyn ymhellach drwy gynnwys yr ail don o gerrig milltir a osodwyd ddiwedd 2022. Mae’n ymddangos bod un o’r cerrig milltir newydd hyn, sef cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10%, wedi cael ei gyflawni yn 2022-23, ond bydd angen ei gynnal dros y blynyddoedd nesaf.

Rydym hefyd wedi gwneud rhai gwelliannau ar sail adborth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau fel rhan o’u hasesiad y llynedd o’r adroddiad hwn. Rydym wedi ceisio gwella sut rydym yn cyfleu unrhyw ansicrwydd yn y data drwy roi newidiadau tymor byr yng nghyd-destun tueddiadau hirdymor. Pan fyddwn yn defnyddio data arolwg, rydym hefyd wedi gwneud sylwadau ynghylch a yw’r newidiadau hyn yn “ystadegol arwyddocaol”, sy’n golygu eu bod yn annhebygol o fod wedi digwydd ar hap. Rydym hefyd yn datblygu fframwaith sy'n nodi sut rydym yn penderfynu pa fathau o ffynonellau data i'w defnyddio yn yr adroddiad hwn ac i fesur y dangosyddion cenedlaethol. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi cyn adroddiad y flwyddyn nesaf. Gobeithio bod hyn yn rhoi rhagor o sicrwydd ynghylch ansawdd a gwerth adroddiad Llesiant Cymru.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd