Llesiant Cymru 2025 - Cymru iachach
Crynodeb o'r cynnydd ar wella ein lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y nod ar gyfer Cymru iachach
Awdur: Dr William Perks
Cymru iachach: cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Cynnydd tuag at y nod
Ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at Gymru iachach, gyda llawer o ddangosyddion cenedlaethol yn dirywio a phandemig COVID-19 yn effeithio'n sylweddol ar dueddiadau.
Mae disgwyliad oes iach wedi gostwng ar gyfer dynion a menywod ers 2011 i 2013. Mae'r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig hefyd wedi ehangu i fenywod, gan leihau i ddechrau i ddynion hyd at 2018 i 2020 cyn ehangu eto hyd at 2020 i 2022.
Mae cyfran y babanod sengl sy'n cael eu geni gyda phwysau geni isel wedi dangos cynnydd yn ystod y degawd diwethaf, gan godi i 6.3% yn y cyfnod diweddaraf, y gyfradd uchaf a gofnodwyd.
Mae canran yr oedolion â dau ymddygiad iach neu fwy wedi gostwng rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017 a 2019 i 2020. Ers 2020 i 2021, mae'n ymddangos bod y duedd wedi gwella ychydig, er bod newidiadau yn y dulliau yn cyfyngu ar y gallu i gymharu ar draws y gyfres amser lawn.
Ymysg pobl ifanc, mae’r ganran â dau ymddygiad iach neu fwy wedi gwella ers 2017.
Roedd sgoriau llesiant meddyliol oedolion a'r bwlch rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig yn sefydlog rhwng blynyddoedd ariannol 2016 i 2017 a 2018 i 2019. Ers 2021 i 2022, mae'n ymddangos bod y duedd hefyd wedi aros yn sefydlog, er bod newidiadau yn y dulliau yn cyfyngu ar y gallu i gymharu ar draws y gyfres amser lawn.
Ar gyfer pobl ifanc, gostyngodd y sgoriau llesiant meddyliol cyfartalog ar draws y gyfres amser, gyda'r bwlch rhwng golud teuluol isel ac uchel yn cynyddu.
Mae amodau tai wedi gwella, gyda 82% o anheddau heb beryglon difrifol yn 2017 i 2018, i fyny o 71% yn 2008, ar draws pob math o dai.
Disgwyliad oes
Roedd disgwyliad oes wedi bod yn codi ers yr Ail Ryfel Byd, ond mae wedi arafu dros y degawd diwethaf.
Y prif gyfranwyr at welliannau yn y gorffennol oedd pobl 60 i 84 oed, er bod y cynnydd yn y grŵp hwn wedi arafu erbyn hyn.
Yn 2021 i 2023, cynyddodd disgwyliad oes o'i gymharu â 2020 i 2022, gan godi i 82.0 o flynyddoedd i fenywod a 78.1 o flynyddoedd i ddynion, a bellach maent yn debyg i’r cyfnod diwethaf cyn y pandemig COVID-19 (2017 i 2019).
Gostyngodd disgwyliad oes iach yn yr un cyfnod i 60.3 o flynyddoedd i ddynion a 59.6 o flynyddoedd i fenywod, y ddau yn is na 2020 i 2022 a 2011 i 2013, pan ddechreuodd y gyfres amser.
Ffigur 3.1: disgwyliad oes a disgwyliad oes iach adeg geni, yn ôl rhyw, rhwng 2001 i 2003 a 2021 i 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3.1: siart linell yn dangos bod disgwyliad oes wedi bod yn cynyddu ond wedi arafu a gostwng yn ddiweddar. Mae disgwyliad oes iach hefyd wedi gostwng, gyda gostyngiad nodedig ymysg menywod.
Ffynhonnell: Disgwyliad oes a Disgwyliadau oes a chyflwr iechyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero
Achosion marwolaethau
Yn 2024, gostyngodd nifer y marwolaethau o gymharu â 2023 ond roedd yn dal yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig.
Mae’r tueddiadau tymor hir yn dangos gostyngiad yn y cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran, sydd wedi’u haddasu ar gyfer maint a strwythur oedran y boblogaeth, er bod y rhain hefyd yn dal yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig.
Dementia a chlefyd Alzheimer a chlefyd isgemia'r galon oedd prif achosion marwolaeth.
Ffigur 3.2: cyfradd farwolaethau safonedig yn ôl oedran fesul 100,000 o bobl, 1994 i 2023
Disgrifiad o ffigur 3.2: siart linell yn dangos gwelliannau mewn cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran dros y tymor hir
Ffynhonnell: Marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr, SYG
Anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth
Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer disgwyliad oes iach yw cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch rhwng disgwyliad oes iach yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf a mwyaf gan o leiaf 15% erbyn 2050.
Mae llawer o anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth o hyd.
Rhwng 2013 i 2015 a 2020 i 2022, cynyddodd y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig i fenywod ac i ddynion, gan ostwng i ddechrau hyd at 2018 i 2020, ond gan gynyddu eto wedyn hyd at 2020 i 2022.
Mae'r bwlch disgwyliad oes yn llai na’r bwlch disgwyliad oes iach i ddynion a menywod ond mae hefyd wedi bod yn cynyddu i'r ddau, sy'n arwydd o anghydraddoldeb cynyddol.
Ffigur 3.3: bwlch absoliwt mewn disgwyliad oes a’r disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf, dynion a menywod, rhwng 2011 i 2013 a 2020 i 2022
Disgrifiad o ffigur 3.3: siart linell yn dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach wedi cynyddu i fenywod ac wedi aros yn sefydlog i ddynion. Mae'r bwlch disgwyliad oes yn llai ar gyfer dynion a menywod ond mae wedi bod yn cynyddu i’r ddau.
Ffynhonnell: Disgwyliad oes iach yn ôl amddifadedd ardal genedlaethol, Cymru, cyfres amser SYG
Babanod iach
Mae canran y babanod sengl pwysau geni isel wedi bod yn weddol sefydlog dros amser, rhwng 5% a 6%. Ond mae tuedd ar i fyny ers 2015, gyda 6.3% yn 2024 y gyfradd uchaf a gofnodwyd.
Yn 2024, roedd gan 7.0% o fabanod benywaidd a 5.6% o fabanod gwrywaidd bwysau geni isel, sy'n gyson â phatrymau tymor hir.
Ffigur 3.4: canran y genedigaethau unig blant gyda phwysau geni o lai na 2,500g, 2005 i 2024
Disgrifiad o ffigur 3.4: siart linell yn dangos bod cyfradd y babanod pwysau geni isel wedi amrywio rhwng 5% a 6%. Mae’r tuedd ar i fyny ers 2015, gyda'r gyfradd uchaf a gofnodwyd yn 2024.
Ffynhonnell: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, Llywodraeth Cymru
Ymddygiadau ffordd iach o fyw
Dyma’r cerrig milltir cenedlaethol ar ymddygiad iach oedolion a phlant o ran ffordd o fyw:
- cynyddu’r ganran sydd â dau neu fwy o ymddygiadau iach i fwy na 97% ar gyfer oedolion erbyn 2050
- cynyddu’r ganran sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% yn achos plant erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050
Addaswyd Arolwg Cenedlaethol Cymru oherwydd y pandemig, felly nid yw'n bosibl cymharu’r canlyniadau ar gyfer oedolion yn uniongyrchol o'r cyfnod cyn blwyddyn ariannol 2020 i 2021.
Cyn y pandemig, rhwng 2016 i 2018 a 2019 i 2020, roedd canran yr oedolion a ddywedodd fod ganddynt ddau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach wedi gostwng, ac roedd ychydig yn is na’r garreg filltir genedlaethol. Mae’n ymddangos bod y duedd ers 2020 i 2021 wedi gwella ychydig ond nid yw’n debyg i’r blynyddoedd blaenorol.
Yn 2024 i 2025, fe wnaeth 93.6% o oedolion ddweud eu bod yn dilyn dau ymddygiad ffordd o fyw iach neu fwy, fel peidio ag ysmygu, yfed o fewn y canllawiau, bwyta ffrwythau a llysiau, bod yn gorfforol egnïol, a chynnal pwysau iach.
Yn 2024 i 2025, roedd canran yr oedolion â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw yn is ymysg dynion, oedolion 45 i 64 oed, a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.
Ffigur 3.5: canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw, rhwng blynyddoedd ariannol 2016 i 2017 a 2024 i 2025 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]
Disgrifiad o ffigur 3.5: siart linell yn dangos bod canran yr oedolion â dau ymddygiad iach neu fwy wedi dirywio rhwng 2016 i 2017 a 2019 i 2020. Mae'n ymddangos bod y duedd ers 2020 i 2021 wedi gwella ychydig.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020 i 2021 â'r blynyddoedd blaenorol
[Nodyn 2] Mae’r canlyniadau o 2020 i 2021 ar gyfer chwarter 4 yn unig ac nid ar gyfer data blynyddol
[Nodyn 3] Ni chynhaliwyd yr Arolwg Cenedlaethol yn 2023 i 2024 felly nid oes data ar gyfer y flwyddyn honno
[Nodyn 4] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero
Ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024, cyrhaeddodd 90.7% o bobl ifanc 11 i 16 oed y garreg filltir genedlaethol ar gyfer ymddygiadau ffordd iach o fyw, sy'n welliant ar y blynyddoedd blaenorol. Mae'r ymddygiadau hyn yn cynnwys peidio ag ysmygu, yfed alcohol yn anaml, bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd, a bod yn gorfforol egnïol am o leiaf awr bob dydd.
Nododd pobl ifanc lefelau isel o ysmygu (4.2%) ac yfed alcohol (35.6%) ond hefyd lefelau isel o fwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd (46.5%) neu fod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy bob dydd (18.3%). Ers 2017, mae ysmygu ac alcohol wedi gwella, ond mae deiet a gweithgarwch corfforol wedi aros yr un fath.
Ffigur 3.6: canran y bobl ifanc 11 i 16 oed gyda dau neu ragor o ymddygiadau iach, 2017 i 2018 (blwyddyn academaidd) i 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3.6: siart linell yn dangos bod canran y bobl ifanc â dau ymddygiad iach neu fwy wedi gwella rhwng 2017 i 2018 a 2023 i 2024.
Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero
Iechyd meddwl a llesiant
Y garreg filltir genedlaethol ar lesiant meddyliol yw gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yng Nghymru erbyn 2050
Addaswyd Arolwg Cenedlaethol Cymru oherwydd y pandemig, felly nid yw'n bosibl cymharu’r canlyniadau ar gyfer oedolion yn uniongyrchol o'r cyfnod cyn 2020 i 2021.
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, y sgôr llesiant meddyliol cyfartalog ymysg oedolion oedd 48.4 ar Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS), sy'n dangos llesiant canolig, yn debyg i'r flwyddyn flaenorol.
Roedd 33% o sgoriau oedolion yn cyfateb i lesiant meddyliol isel, 52% i lesiant meddyliol canolig a 15% i lesiant meddyliol uchel.
Mae’r bwlch yn sgôr gyfartalog WEMWBS rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi aros yn debyg ers 2021 i 2022.
Ffigur 3.7: Sgôr Gyfartalog Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion, yn ôl amddifadedd, rhwng 2016 i 2017 a 2024 i 2025 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o ffigur 3.7: siart linell yn dangos na wnaeth y sgôr llesiant meddyliol cyfartalog ddangos newid sylweddol cyn 2018 i 2019 nac ers 2021 i 2022.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2021 i 2022 â'r blynyddoedd blaenorol
[Nodyn 2] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero
Gan ddefnyddio Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (SWEMWBS), mae’r sgôr llesiant meddyliol cyfartalog ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed wedi gostwng o 24 yn 2017 i 2018 i 23.5 yn 2023 i 2024, gan nodi gostyngiad mewn llesiant meddyliol.
Mae sgoriau o’r SWEMWBS yn seiliedig ar set fyrrach o gwestiynau i’r WEMWBS oedolion ac felly nid yw’r sgoriau’n cyfateb yn uniongyrchol.
Mae'r bwlch rhwng grwpiau o olud teuluol isel ac uchel wedi ehangu o 1.7 yn 2017 i 2018 i 2.0 yn 2023 i 2024.
Pobl ifanc oedd ddim yn ystyried eu hunain yn fechgyn nac yn ferched oedd â'r lefel llesiant isaf, yna merched, gyda bechgyn yn nodi'r lefel uchaf. Roedd llesiant meddyliol hefyd yn gostwng yn ôl oedran.
Ffigur 3.8: Sgôr Gyfartalog Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed, yn ôl golud, rhwng blwyddyn academaidd 2017 i 2018 a 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3.8: siart linell yn dangos bod y sgôr llesiant meddyliol cyfartalog ar gyfer pobl ifanc wedi gostwng rhwng 2017 i 2018 a 2023 i 2024. Mae'r bwlch rhwng y rhai o olud teuluol isel ac uchel wedi ehangu.
Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero
Tai peryglus
Mae amrywiaeth o ffactorau'n dylanwadu ar iechyd, gan gynnwys cyflogaeth, llygredd aer, a thai. Mae cyflwr tai wedi gwella dros y degawd hyd at blwyddyn ariannol 2017 i 2018, gan leihau risgiau iechyd.
Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf yn 2017 i 2018 nad oedd gan 82% o gartrefi beryglon difrifol (categori 1), i fyny o 71% yn 2008, gyda gwelliannau ar draws pob math o dai.
Mae tai hefyd yn cael eu hasesu gan ddefnyddio'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS), yn y sector rhentu preifat yn bennaf ac fel arfer mewn ymateb i gwynion. O'r herwydd, nid oes modd cymharu'r ffigurau hyn yn uniongyrchol ag Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn ehangach. Yn 2023 i 2024, nid oedd peryglon categori 1 yn bresennol yn 66% o’r asesiadau hyn, sy'n gyson â blynyddoedd blaenorol.
