Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Cyhoeddir y canllawiau statudol hyn o dan adran 146(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae adran 146(2) yn darparu bod rhaid i landlordiaid dalu sylw iddynt ac os ydynt yn penderfynu peidio â dilyn y canllawiau, dylai fod ganddynt resymau da iawn dros wneud hynny. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol hefyd i Ddarparwyr Cymorth fel y’u diffinnir yn yr eirfa ar dudalen 10.

Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo landlordiaid o dan gontractau llety â chymorth i weithredu eu gallu i wahardd dros dro ddeiliad y contract o’r eiddo am hyd at 48 awr ar y tro, ac ni chaiff wneud hynny mwy na theirgwaith mewn cyfnod o chwe mis.

Mae’r Cyflwyniad (tudalen 3) yn amlinellu’r fframwaith deddfwriaethol sy’n sail i’r canllawiau hyn.

Mae tudalennau 4 - 9 yn amlinellu’r broses y mae disgwyl i’r landlord ei dilyn wrth wahardd deiliad y contract dros dro, ac mae’n nodi’r trefniadau ar gyfer adolygiad ‘gwersi a ddysgwyd’ y dylid eu rhoi ar waith ar ôl gwaharddiad dros dro.

Cyflwyniad

1.1 Gall landlord llety â chymorth ddewis darparu cytundeb tenantiaeth neu drwydded nad yw'n gontract meddiannaeth, yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, gall y landlord gyhoeddi 'contract diogel’ neu 'gontract safonol â chymorth' ar unwaith os yw'n well ganddo. Ond, os bydd y denantiaeth neu'r drwydded gychwynnol yn parhau y tu hwnt i'r 'cyfnod perthnasol' yna bydd yn dod yn gontract meddiannaeth yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod perthnasol (gweler paragraff 1.5 isod).

1.2 Y 'cyfnod perthnasol' yw chwe mis sy'n dechrau o ddyddiad y denantiaeth neu'r drwydded. Caiff landlord estyn y cyfnod perthnasol os oes ganddo reswm da (gweler paragraff 15 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016), ond ni ellir estyn y cyfnod fwy na thri mis ar unrhyw achlysur ar wahân. Yn ogystal, ni all y landlord estyn y cyfnod perthnasol heb gydsyniad yr awdurdod tai lleol (oni bai bod y landlord yn awdurdod tai lleol).

1.3 Rhaid i'r landlord hysbysu'r tenant neu'r trwyddedai ynghylch estyn y cyfnod perthnasol cyn y gellir ei estyn. A rhaid cyflwyno'r hysbysiad hwnnw o leiaf pedair wythnos cyn y dyddiad y byddai'r cyfnod perthnasol yn dod i ben. Rhaid i’r landlord hefyd ymgynghori â’r tenant neu’r trwyddedai cyn rhoi hysbysiad am estyniad. Ni fyddem yn disgwyl i landlordiaid wneud defnydd rheolaidd o'r pŵer i estyn y cyfnod perthnasol, yn lle cyhoeddi datganiad ysgrifenedig a chontract meddiannaeth, ac mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer (Atodlen 2, Rhan 5 paragraff 15 (10)) i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn perthynas â chael cydsyniad yr awdurdod tai lleol. 

1.4 Os nad yw'r tenant neu'r trwyddedai yn cytuno â phenderfyniad y landlord i estyn y cyfnod perthnasol, cânt wneud cais i'r llys sirol am adolygiad. Rhaid gwneud y cais i'r llys o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y mae'r tenant neu'r trwyddedai'n cael yr hysbysiad ysgrifenedig i estyn y cyfnod perthnasol.

1.5 Ar ddiwedd y cyfnod perthnasol, mae'n ofynnol i'r landlord gyhoeddi contract meddiannaeth, a rhaid iddo fod naill ai'n 'gontract safonol â chymorth' neu'n 'gontract diogel' os byddai hynny’n well, er enghraifft, mewn perthynas â llety gwarchod. Mae’r contract safonol â chymorth yn seiliedig ar y contract safonol gyda phŵer statudol ychwanegol ar gyfer gwahardd dros dro, a chymal symudedd os yw’r landlord yn dewis hwnnw.

1.6 Os bydd cymal symudedd yn cael ei gynnwys mewn contract safonol â chymorth, mae’r cymal yn caniatáu i landlordiaid ail-leoli unigolyn mewn adeilad (gweler Adran 5 isod). Er enghraifft, gellir defnyddio hyn i osgoi gwrthdaro â meddiannydd fflat cyfagos. Gellir gwneud hyn heb ddiweddu un contract a dechrau un arall. 

1.7 Mae’r pŵer i wahardd dros dro yn galluogi landlordiaid dan amgylchiadau penodol i wahardd unigolyn o’i lety am hyd at 48 awr, ond ni chaiff wneud hyn fwy na thair gwaith mewn cyfnod (treigl) o chwe mis. Dim ond pan fydd pethau wedi mynd i’r pen y dylid arfer y pŵer hwn a, lle bo’n bosibl, dylai’r gwaharddiad dros dro bara llai na 48 awr (gweler adran 145 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016).

1.8 Gallai landlord ystyried ei bod yn ddiangen neu'n amhriodol cynnwys cymal symudedd a theler sy'n ymwneud â gwahardd dros dro o fewn y contract safonol â chymorth, er enghraifft, ar gyfer lleoliadau tai gwarchod. 

1.9 Er bod y teler ar wahardd dros dro a ddarperir o dan adran 145 o'r Ddeddf yn deler sylfaenol, gall y landlord a deiliad y contract gytuno i beidio ag ymgorffori hwnnw yn y contract safonol â chymorth (gan y byddai ei hepgor yn well o ran sefyllfa deiliad y contract, yn unol ag adran 20 o'r Ddeddf).

1.10 Pe bai'r teler ar wahardd dros dro yn cael ei gynnwys mewn contract safonol â chymorth, mae'r canllawiau hyn yn rhoi manylion y weithdrefn y dylai landlord ei dilyn i wahardd unigolyn dros dro. Wrth ystyried gwaharddiad dros dro dylai landlord hefyd roi sylw i unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n ddyledus i'r unigolyn o dan unrhyw gyfraith berthnasol (er enghraifft, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Trefniadau statudol 

2.1 Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’r pwerau a nodwyd yn adran 145 o Ddeddf 2016.

2.2 Mae adran 145 yn darparu, os bydd landlord contract safonol â chymorth o'r farn resymol bod deiliad y contract wedi ymddwyn mewn modd a nodir ym mharagraff 2.3 isod, y gall y landlord ei gwneud yn ofynnol iddo adael yr annedd a pheidio â dychwelyd am hyd at 48 awr.

2.3 Dyma’r mathau o ymddygiad sydd dan sylw:

  • defnyddio trais yn erbyn unrhyw berson yn yr annedd;
  • gwneud rhywbeth yn yr annedd sy’n creu risg o niwed sylweddol i unrhyw berson; ac
  • ymddwyn yn yr annedd mewn ffordd sy’n amharu’n ddifrifol ar allu preswylydd arall mewn llety â chymorth a ddarperir gan y landlord i fanteisio ar y cymorth a ddarperir mewn cysylltiad â’r llety hwnnw.

2.4 Mae’r Ddeddf yn nodi bod rhaid i landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi’r rhesymau pam y mae’n ofynnol iddo adael yr annedd, a bod rhaid iddo wneud hynny wrth ei gwneud yn ofynnol iddo adael neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny. Caiff hysbysiad penodol ei ddatblygu i’r diben hwn.

2.5 Byddai’r gwaharddiad hefyd yn berthnasol i unrhyw rannau cyffredin o’r annedd.

2.6 Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu:

  • lefel y sawl sy’n gwneud y penderfyniad i wahardd;
  • yr angen i gynnal adolygiad o’r holl waharddiadau dros dro a wnaed o dan adran 145 a natur yr adolygiad hwnnw; ac
  • y camau y dylai’r landlord eu cymryd i leihau’r potensial i’r unigolyn a waharddwyd fod yn ddigartref ar y stryd yn ystod cyfnod y gwaharddiad dros dro.

Defnyddio gwaharddiadau dros dro 

3.1 Ni fwriedir i waharddiadau dros dro gael eu defnyddio i gosbi deiliad y contract. Y bwriad yw eu defnyddio i sicrhau diogelwch preswylwyr eraill a staff prosiect neu i atal deiliad y contract rhag cael ei droi allan o lety a rhoi cyfle iddo feddwl am yr ymddygiad sydd wedi arwain at y gwaharddiad dros dro.

3.2 Dylai landlordiaid sy’n bwriadu defnyddio’r pŵer i wahardd dros dro gael polisi ar gyfer ei ddefnyddio cyn y gellir defnyddio’r pŵer gwahardd. Dylai’r polisi gynnwys y camau y bydd landlordiaid yn eu cymryd i osgoi defnyddio gwaharddiadau dros dro, yn ogystal â’r trefniadau y byddant yn eu rhoi ar waith i atal digartrefedd ar y stryd yn ystod gwaharddiad dros dro.

3.3 Rhaid i landlordiaid gofnodi pob cam a gymerwyd i osgoi’r angen i arfer y pŵer gwahardd dros dro er mwyn rhoi tystiolaeth fod y pŵer wedi’i ddefnyddio fel dewis olaf ar ôl i bob dim arall fethu. Bydd y dogfennau hyn yn rhan o’r broses adolygu.

3.4 Gall y gwaharddiad dros dro ddod i rym yn syth ac mae’n rhaid i ddeiliad/deiliaid y contract adael yr annedd pan ofynnir iddo/iddynt wneud hynny.

3.5 O gofio bod deiliaid y contract y mae'r Canllawiau hyn yn effeithio arnynt yn byw mewn Llety â Chymorth, mae’n debygol y byddant rywfaint yn agored i niwed. Wrth ystyried gwaharddiad dros dro, dylai landlordiaid a’u cynrychiolwyr, i’r graddau hynny y gallant yn rhesymol, ystyried anghenion tai a chymorth deiliad y contract sy’n wynebu gwaharddiad dros dro ac unrhyw risg i’w ddiogelwch, iechyd a llesiant.

Y Penderfynwr 

4.1 Dylai’r penderfyniad i wahardd unigolyn dros dro gael ei wneud gan reolwr neu rywun sydd â phrofiad addas neu ar lefel uwch addas sy’n gyfrifol am drefniadau rheoli gweithredol y Llety â Chymorth. Dylai polisi gwahardd dros dro landlordiaid gyfeirio at radd neu deitl swydd y sawl sy’n gallu gwneud y penderfyniad i wahardd dros dro, gan gofio y dylai aelod annibynnol ac uwch o staff fod yn rhan o'r broses adolygu (gweler yr adran Adolygiad o’r Gwersi a Ddysgwyd i gael mwy o fanylion)

4.2 Os nad oes aelod profiadol ac uwch addas o staff (fel y darparwyd ar ei gyfer ym mholisi’r landlord) ar gael ar y safle pan fo angen gwneud penderfyniad (er enghraifft, os oes trafferth yng nghanol nos neu ar benwythnos), dylai aelodau staff allu cysylltu ag ef neu hi dros y ffôn neu dylai fod ar ddyletswydd er mwyn gwneud y penderfyniad.

4.3 Dylai’r penderfynwr gofnodi’r gwaharddiad dros dro, a’r rheswm drosto, yng Nghynllun Cymorth deiliad y contract a llunio Cofnod Digwyddiad adeg y gwaharddiad dros dro gan y bydd angen hwn fel sail i’r adolygiad o‘ wersi a ddysgwyd’. Gall hwn gael ei gwblhau gan aelod staff ar y safle os cafwyd awdurdodiad y penderfynwr o bell (e.e. dros y ffôn os nad oedd y penderfynwr ar y safle) a’i wirio a’i lofnodi gan y penderfynwr pan mae dychwelyd i’r safle. Dylai sefydliadau nad ydynt yn cwblhau Cofnodion Digwyddiadau ar hyn o bryd fabwysiadu arferion da gan eraill yn y sector.

Osgoi Digartrefedd

5.1 Cyn arfer y pŵer gwahardd dros dro, dylai’r landlord ystyried yn gyntaf a yw hi’n bosibl / priodol ail-leoli deiliad y contract o fewn y Llety â Chymorth, gan ddefnyddio’r cymal symudedd (pan fo’r contract meddiannaeth yn cynnwys un). Gallai hyn osgoi gwaharddiad dros dro. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus a sicrhau na fydd preswylwyr eraill yn cael eu heffeithio’n andwyol gan ymddygiad deiliad y contract sy’n cael ei symud.

5.2 Dylai holl landlordiaid y sector ddatblygu trefniadau cyfatebol rhanbarthol a fyddai’n galluogi unigolion sydd wedi’u gwahardd dros dro i dderbyn llety gan landlord arall. Dylai’r trefniadau hyn gael eu cofnodi ym mholisi gwahardd dros dro’r landlord, a dylai nodi hefyd ai llety’n unig fyddai’n cael ei ddarparu neu a fyddai hyn yn helpu unigolyn i osgoi mynd yn ddigartref ar y stryd yn ystod y cyfnod gwahardd. Dylai awdurdodau tai lleol weithio gyda landlordiaid a Darparwyr Cymorth yn eu hardal i annog a hwyluso cydweithrediad.

5.3 Dylai landlordiaid sicrhau bod ganddynt systemau atgyfeirio da hefyd gyda chysylltiadau penodol yng Ngwasanaeth Cyngor Digartrefedd yr awdurdod lleol a dylent gytuno ar drefniadau gyda’u timau Atebion Tai lleol ar reoli gwaharddiadau dros dro yn lleol. Dylai landlordiaid hysbysu’r Gwasanaeth Cyngor ar Ddigartrefedd pan gaiff deiliad y contract ei wahardd. Dylai landlordiaid roi gwybod hefyd, lle bo’n briodol, i weithiwr cymdeithasol neu weithiwr cymorth dynodedig, perthynas agosaf deiliad y contract a/neu ei swyddog prawf. 

5.4 Dylid darparu gwybodaeth ysgrifenedig i unigolyn sy’n cael ei wahardd fel y gall droi at y Gwasanaeth Cyngor Digartrefedd a llochesi/hostelau ieuenctid. Dylai’r wybodaeth hon gael ei hegluro ar lafar hefyd os oes gan rywun anawsterau llythrennedd neu fe ddylid ei darparu mewn fformat sy’n briodol i anghenion deiliad y contract. Dylai’r wybodaeth hon gael ei hadolygu’n rheolaidd i sicrhau ei bod yn gyfredol.

5.5 Dylai landlordiaid ddatblygu a chreu perthynas â chysylltiadau penodol mewn hostelau lleol a sefydliadau eraill er mwyn ceisio gofalu na fydd deiliad y contract yn ddigartref yn ystod cyfnod y gwaharddiad dros dro. 

5.6 Dylai landlordiaid sicrhau eu bod yn ymwybodol o sut bydd gwaharddiad dros dro, ac unrhyw lety amgen sy’n cael ei ddarparu yn sgil hynny, yn effeithio ar hawliad budd-dal tai deiliad y contract (lle bo’n berthnasol). Mae gwybodaeth o’r fath y tu hwnt i gylch gwaith y canllawiau hyn, ond mae manylion pellach ar gael yn www.gov.uk/housing-benefit/overview. 
 

5.7 Er gwaethaf ymdrechion gorau'r landlord ac o ganlyniad uniongyrchol i ymddygiad deiliad y contract yn aml, cydnabyddir na ellir trefnu llety dros dro i ddeiliad y contract am gyfnod y gwaharddiad dros dro ym mhob achos. Mewn achosion o'r fath, gallai deiliad y contract fynd yn ddigartref ar y stryd yn ystod cyfnod y gwaharddiad dros dro. Dylai’r landlord ddarparu manylion yn y Cynllun Cymorth a’r Cofnod Digwyddiadau o’r ymdrechion a wnaed i osgoi’r sefyllfa hon.

5.8 Dylai deiliaid y contract gael eu hysbysu am bolisi gwahardd dros dro'r landlord cyn gynted ag y bo’n meddiannu’r llety. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod deiliaid y contract yn ymwybodol o bolisi’r landlord cyn gynted â phosib.

5.9 Dylid cynnal asesiadau risg gyda phob deiliad y contract (cyn neu yn fuan ar ôl symud i’r llety), a lle nodir bod yna risg ddigonol (ym marn y landlord), dylai gynnwys nodi lle(oedd) diogel y gall yr unigolyn fynd iddynt os caiff waharddiad dros dro.

Adolygiad ‘gwersi a ddysgwyd’ o’r gwaharddiad dros dro

6.1 Dylid cynnal adolygiad o’r holl waharddiadau dros dro o fewn 14 diwrnod i’r gwaharddiad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod amgylchiadau’r digwyddiad yn aros yn glir yng nghof y rhai sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad, ond dylai hefyd roi amser iddynt ystyried y mater mewn paratoad ar gyfer yr adolygiad.

6.2 Pwrpas yr adolygiad yw ystyried y penderfyniad i sicrhau ei fod yn briodol ac yn weithdrefnol gywir; llywio arferion y dyfodol a nodi meysydd lle gellir gwella polisi gwahardd dros dro’r landlord. Bydd yr adolygiad hefyd yn gyfle i’r unigolyn a waharddwyd gyfrannu unrhyw wybodaeth am ei brofiad o’r gwaharddiad. Dylid nodi nad proses apêl yw’r adolygiad, ac ni ellir dileu’r gwaharddiad dros dro o gofnod deiliad y contract.

6.3 Dylai’r adolygiad fod yn gyfarfod wyneb-yn-wyneb. Dylai deiliad y contract gael y cyfle i fynychu’r adolygiad (er enghraifft, i gyflwyno ei achos os yw’n credu bod y gwaharddiad dros dro yn anghywir), ac mae’n rhaid iddo gael gwybod am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf wythnos ymlaen llaw. Dylai deiliad y contract gael cyflwyno tystiolaeth lafar neu ysgrifenedig i’r panel adolygu a dylid ei gyfeirio at wasanaethau eiriolaeth (e.e. Cyngor ar Bopeth Cymru, Shelter Cymru, gweithwyr cymorth heb gysylltiad â’r llety neu elusennau cyffuriau neu alcohol) i’w helpu i gyflwyno tystiolaeth o’r fath. Dylid hysbysu deiliad y contract y gall ddod â ffrind, aelod o’r teulu neu berson arall (e.e. cynghorydd Cyngor ar Bopeth Cymru neu Shelter Cymru) i’r cyfarfod adolygu.
 
6.4 Nid yw aelodaeth y panel adolygu wedi’i nodi yn y canllawiau hyn ond dylid ei nodi ym mholisi gwahardd dros dro'r landlord. Fodd bynnag, dylai gynnwys:

  • person (A) sy’n uwch na’r person a gymerodd y penderfyniad gwahardd, sydd â’r awdurdod i newid neu ddiweddaru polisi ac arferion gwahardd dros dro'r landlord, ac nad oedd yn rhan o’r broses benderfynu;
  • person annibynnol arall (B) o’r sefydliad nad oedd yn rhan o’r broses benderfynu; a
  • chynrychiolydd (C) o’r awdurdod tai lleol lle bo’n bosibl.

6.5 Dylai’r adolygiad ystyried y materion canlynol, fel y bo’n briodol:

  • pwy wnaeth y penderfyniad gwahardd a’i lefel a’i hyfforddiant/profiad i wneud hynny;
  • a oes tystiolaeth o ymddygiad annerbyniol gan ddeiliad y contract;
  • a oedd yr ymddygiad yn ddigon difrifol i gyfiawnhau’r gwaharddiad dros dro;
  • a gafodd deiliad y contract wybod am y polisi gwahardd dros dro ar ddechrau’r contract meddiannaeth;
  • a oedd hi’n rhesymol gwahardd ac a ystyriwyd yr holl amgylchiadau, yn cynnwys mesurau eraill priodol;
  • a roddwyd ystyriaeth i symud deiliad y contract i rywle arall o fewn y cynllun llety â chymorth (os yw’r contract meddiannaeth yn cynnwys cymal symudedd) er mwyn osgoi gwaharddiad dros dro;
  • ar ôl cymryd y penderfyniad i wahardd deiliad y contract dros dro, a ystyriwyd rhoi deiliad y contract mewn cynllun llety â chymorth addas arall am gyfnod y gwaharddiad, fel ffordd o atal deiliad y contract rhag bod yn ddigartref;
  • pa fygythiad, os o gwbl, oedd i breswylwyr eraill a staff; 
  • nifer y gwaharddiadau dros dro blaenorol a roddwyd i ddeiliad y contract, os o gwbl, a’u manylion;
  • a gafodd yr heddlu eu galw;
  • a oedd y landlord neu Ddarparwr Cymorth arall yn gallu darparu cartref arall i ddeiliad y contract yn ystod cyfnod y gwaharddiad dros dro;
  • a oedd deiliad y contract wedi’i atgyfeirio i Wasanaeth Cyngor Digartrefedd yr awdurdod lleol;
  • a ddarparwyd llety argyfwng;
  • ble roedd deiliad y contract yn byw yn ystod cyfnod y gwaharddiad dros dro;
  • a ddarparwyd hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi’r rhesymau dros y gwaharddiad dros dro, a phryd;
  • a gwblhawyd y Cofnod Digwyddiadau yn briodol;
  • a ddilynwyd polisi’r landlord ar wahardd dros dro yn gywir;
  • a oes cyfle i wella polisi'r landlord yn dilyn y digwyddiad.

6.6 Dylid cwblhau ffurflen safonol i gofnodi’r cyfarfod adolygu a dylai’r ffurflen gael ei llofnodi gan y sawl sy’n cadeirio’r adolygiad. Dylai’r ffurflen ddarparu manylion llawn am ganlyniad yr adolygiad ac a yw polisi neu arferion gwahardd dros dro'r landlord wedi cael eu newid neu eu diweddaru yn sgil yr adolygiad. Dylid cofnodi nifer y gwaharddiadau blaenorol a gafodd deiliad y contract a phryd ddigwyddodd hynny.

6.7 Pan fydd deiliad y contract wedi’i wahardd dros dro dair gwaith mewn cyfnod o chwe mis dylid cofnodi hyn ar ei Gynllun Cymorth. Ni ellir ei wahardd dros dro eto nes bydd digon o amser wedi pasio i sicrhau na fydd y rheol ynghylch yr uchafswm o dri gwaharddiad dros dro mewn unrhyw gyfnod o chwe mis yn cael ei thorri.

6.8 Dylid cofnodi gwybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth ar y ffurflen hefyd. Dylai’r landlord adolygu’r holl waharddiadau dros dro bob hyn a hyn i helpu i sicrhau nad yw egwyddorion cydraddoldeb yn cael eu torri.

6.9 Dylid cadw’r ffurflen ar ffeil yn unol â pholisi cadw pob sefydliad. Fodd bynnag, dylai’r cyfnod hwn fod yn ddeuddeg mis o leiaf, er mwyn helpu i sicrhau nad yw’r rheol ynghylch yr uchafswm o waharddiadau’n cael ei thorri.

6.10 Dylid anfon copi o’r ffurflen neu, yn amodol ar gytundeb gyda’r awdurdod lleol perthnasol, fersiwn gryno ohoni, i Dîm Cymorth Tai a Thîm Cyngor Digartrefedd yr awdurdod lleol. Mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am fonitro tueddiadau o’r wybodaeth a roddir a gweithredu fel a phryd y bo’n briodol. Nid yw’r broses ymyrryd hon wedi’i nodi yn y canllawiau hyn ond dylai fod gan Awdurdodau Lleol bolisi monitro ac ymgysylltu ar waith i ymyrryd os bydd unrhyw bryderon ynghylch tueddiadau sy’n dod i’r amlwg. Dylai timau Cefnogi Pobl ddefnyddio data monitro gwaharddiadau dros dro wrth gomisiynu gwasanaethau hefyd.

6.11 Dylai copi o’r ffurflen gael ei roi i ddeiliad y contract hefyd. Dylid trafod yr ymddygiad a arweiniodd at waharddiad dros dro a chanlyniad y cyfarfod adolygu dilynol mewn sesiynau cymorth y dyfodol fel bod unigolion yn cael cymorth i fynd i’r afael â’r ymddygiad ac osgoi’r posibilrwydd o waharddiadau dros dro pellach.

6.12 Dylid cyflwyno ffurflen ystadegol chwarterol i’r awdurdod lleol. Dylai hon nodi cyfanswm y gwaharddiadau dros dro a’r rhesymau drostynt, wedi’u categoreiddio yn ôl y mathau o ymddygiad a nodwyd yn adran 2.3. Dylai’r ffurflen gynnwys dadansoddiad o nodweddion cydraddoldeb ac amrywiaeth y deiliaid contract a gafodd eu gwahardd. Nid yw fformat y ffurflen chwarterol wedi’i nodi. 

Geirfa

Llety â Chymorth

Mae llety yn llety â chymorth os:

  • yw’n cael ei ddarparu gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,
  • os yw’r landlord neu’r elusen (neu berson sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r elusen) yn darparu gwasanaethau cymorth i berson sydd â hawl i fyw yn y llety, ac
  • os oes cysylltiad rhwng darparu llety a darparu gwasanaethau cymorth.

Gwasanaethau Cymorth

Mae Gwasanaethau Cymorth yn cynnwys:

  • cymorth i reoli neu oresgyn dibyniaeth;
  • cymorth i ddod o hyd i waith neu lety arall; a
  • chymorth i rywun sy’n ei chael hi’n anodd byw’n annibynnol oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw reswm arall.

Mae “cymorth” yn cynnwys darparu cyngor, hyfforddiant, arweiniad a chwnsela.

Darparwr Cymorth

Landlord y Llety â Chymorth, neu berson sy’n gweithredu ar ran y landlord, sy’n darparu Gwasanaethau Cymorth i berson sydd â hawl i fyw yn y llety.

Partner Rheoli

Sefydliad, y Darparwr Cymorth fel arfer, sy’n derbyn cyllid gan y landlord i ddarparu gwasanaeth rheoli tai i breswylwyr sy’n byw yn y llety â chymorth.

Cynllun Cymorth

Cofnod o anghenion cymorth pob preswylydd a’r amcanion cymorth / camau gweithredu sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae’r Cynllun Cymorth hefyd yn cynnwys cofnod o gynnydd yn erbyn amcanion cymorth.

Cofnod Digwyddiadau

System reoli i gofnodi digwyddiadau mawr a chamau gweithredu a gymerwyd gan staff i fynd i’r afael â nhw.

Gwasanaeth Cyngor Digartrefedd

Tîm Opsiynau Tai / Atebion Tai awdurdod lleol.