Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu negeseuon e-bost gan unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan eu ffrindiau a'u teuluoedd, gan eu cydweithwyr neu gan ymarferwyr sy'n chwilio am gyngor proffesiynol.

Wrth ddefnyddio'r gwasanaeth tecstio i linell gymorth Byw Heb Ofn, cofiwch ofalu ei bod yn ddiogel gwneud hynny, a dileu negeseuon y gallai eraill eu gweld (gan gynnwys aelodau o'ch teulu/partner sy'n eich cam-drin).

I ddechrau sgwrs â ni drwy e-bost, yr unig beth y mae'n rhaid ichi ei wneud yw anfon e-bost o gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru, a bydd yr e-bost yn cyrraedd un o weithwyr cymorth profiadol Byw Heb Ofn sydd wedi'i hyfforddi i lefel uchel. 

Caiff e-bost unigol ei greu wedyn gan y Llinell Gymorth, a bydd aelod o staff yn ymateb o fewn 24 awr.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd adegau pan fydd un o'n gweithwyr yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'r llinell gymorth fel y gall rhywun gynnig cymorth mewn pryd. Gallwch wneud hynny ar adeg sy'n gyfleus ichi, neu os gallwch roi rhif cyswllt diogel inni, gallwn ni eich ffonio chi.