Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd gwerthusiad mewnol i asesu effeithiolrwydd y cynllun peilot hwn, ac i gyfrannu at benderfyniadau polisi a chyflawni yn y dyfodol er mwyn mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau yn y tymor byr.

Mae rhoi bwyd i blant yn ystod gwyliau'r ysgol, pan nad yw clybiau brecwast a phrydau ysgol am ddim ar gael, yn her i rai teuluoedd.  Yn 2019-20, roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £100,000 i gynllun peilot i brofi dichonoldeb mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau drwy leoliadau chwarae a chymunedol.

Trwy’r peilot darparwyd mwy na 13,000 o brydau bwyd ar draws 98 o safleoedd, yn ystod gwyliau Haf a hanner tymor yr Hydref. Dywedodd bron i hanner y plant a gwblhaodd arolygon yn y lleoliadau eu bod yn teimlo'n llai llwglyd yn mynychu'r peilot. Dywedodd dros hanner eu bod wedi rhoi cynnig ar fwydydd newydd, a dywedodd bron i un o bob pedwar plentyn eu bod wedi bwyta mwy o ffrwythau a llysiau. Dywedodd traean o rieni plant a fynychodd y peilot a arolygwyd fod y peilot wedi helpu gyda chostau, ac yn benodol gyda chost bwyd yn ystod y gwyliau. Nododd y gwerthusiad fuddion ychwanegol y peilot hefyd, fel plant yn yfed mwy o ddŵr, ymarfer mwy, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, a chael hwyl.

Mae'r cynllun yn rhoi cymorth ariannol i gynnig bwyd fel gwasanaeth ychwanegol, neu i wella neu estyn gwasanaeth sy'n rhan o ddarpariaeth gwaith chwarae a ariennir sydd eisoes yn bodoli ac ar gael am ddim i blant sydd mewn perygl o lwgu yn ystod y gwyliau. Ymddengys fod hynny'n ffordd gost-effeithiol o fynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau. Mae'r cynllun yn cyd-fynd â chynlluniau eraill sy'n cael eu gweithredu, yn cynnwys Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £ 1m yn 2020-2021 i'r cynllun hwn a bydd y ddysgu o'r peilot yn cael ei defnyddio i lywio'r cynllunio.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Gynllun Peilot Gwaith Chwarae 2019: Llwgu yn ystod y Gwyliau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Gynllun Peilot Gwaith Chwarae 2019: llwgu yn ystod y Gwyliau (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Faye Gracey

Rhif ffôn: 0300 025 7459

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.