Neidio i'r prif gynnwy

Ei nod yw:

  • darparu gwybodaeth a chanllawiau er mwyn hyrwyddo dull cyson o gael gafael ar gymorth profedigaeth
  • hyrwyddo dull integredig o weithio mewn partneriaeth
  • datblygu llwybrau cyson ar gyfer cymorth profedigaeth

1. Cefndir

1.1 Diben

Datblygwyd manyleb model y Llwybr Cenedlaethol i Gymru ar gyfer Gofal mewn Profedigaeth er mwyn gwella mynediad at ofal profedigaeth o ansawdd uchel ar gyfer pawb sydd wedi dioddef profedigaeth yng Nghymru, a hefyd er mwyn lleihau anghysondebau lleol a chenedlaethol. Nod y fanyleb yw cyflwyno gwybodaeth a chanllawiau er mwyn hyrwyddo dull cyson o gael gafael ar gymorth profedigaeth, ynghyd â hyrwyddo dull integredig o weithio mewn partneriaeth a datblygu llwybrau cyson ledled Cymru ar gyfer cymorth profedigaeth.

Mae’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru yn pennu gweledigaeth ar gyfer Cymru dosturiol lle bydd gan bawb fynediad teg at gymorth a gofal o’r radd flaenaf ar ôl dioddef profedigaeth. Mae’r Fframwaith yn nodi cyfrifoldebau comisiynwyr o ran sicrhau bod cymorth profedigaeth ar gael i bawb, yn cynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig a phobl sydd o bosibl yn cael anhawster i gael gafael ar gymorth. Gall hyn fod oherwydd amrywiaeth o resymau, yn cynnwys iaith, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu rwystrau eraill sy’n wynebu pobl, ynghyd ag ymdeimlad dilynol nad yw’r gwasanaethau “yn gweddu iddyn nhw”. Hefyd, fe fydd yna grwpiau sydd wedi dioddef profedigaeth mewn amgylchiadau eithriadol o drawmatig (e.e. rhyfel, pobl y mae terfysgaeth wedi effeithio arnynt, lladdiadau).

Bwriad y fanyleb hon yw cynorthwyo ystod o bartneriaid sydd mewn cyswllt ag unigolion sydd wedi dioddef profedigaeth, fel y gellir gweithio ar y cyd i ddatblygu a gweithredu llwybrau cymorth profedigaeth. Felly, rhaid i lwybrau cymorth integredig o’r fath gael eu teilwra er mwyn ymdrin â chyd-destun ac anghenion lleol ac adeiladu ar brofiadau ac arferion da.

1.2 Llwybrau cymorth integredig

Mae llwybr cymorth integredig yn cynnig braslun amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol o’r siwrnai y gall unigolyn ddisgwyl ei dilyn yn ystod profedigaeth, ac mae’n mapio beth fydd yn digwydd, ble, pryd a chan bwy. Caiff y gwahanol fathau o gymorth profedigaeth mewn ardal arbennig eu mapio er mwyn osgoi dyblygu gwasanaethau ac er mwyn llywio gwaith comisiynu. Bydd llwybrau cymorth yn cynorthwyo’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth trwy a/neu ar draws y tair elfen sy’n perthyn i ofal profedigaeth, gan ddibynnu ar lefel y cymorth y mae arnynt ei angen. Er y bydd llwybrau cymorth integredig yn cael eu datblygu ar gyfer mathau penodol o brofedigaeth, dylid mynd ati bob amser i deilwra’r cymorth er mwyn diwallu anghenion yr unigolyn yn dilyn asesiad priodol, yn hytrach na rhagdybio beth yw anghenion yr unigolyn dim ond ar sail y 'math' o brofedigaeth a ddioddefwyd ganddo.

1.3 Manteision sy’n perthyn i lwybrau cymorth integredig

Mae yna fanteision lu yn perthyn i lwybrau cymorth integredig, a chânt eu crynhoi isod. Mae llwybrau cymorth integredig yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi pobl sydd wedi dioddef profedigaeth wrth galon a chraidd y gwasanaeth a chynnig gwybodaeth ac arweiniad (trwy gyfrwng gwahanol ddulliau e.e. wyneb yn wyneb, dros y ffôn, trwy e-bost etc.) yn ymwneud â sut fath o gymorth a gofal sydd ar gael a beth yw’r cynnydd a’r canlyniadau y gellir eu disgwyl yn ystod pob cam o’r siwrnai.
  • Hwyluso dull system gyfan, di-dor o ymdrin â phrofedigaeth trwy gefnogi parhad ar draws gwahanol wasanaethau ac asiantaethau.
  • Helpu i egluro’r rolau, yr arlwy o wasanaethau ac argaeledd yr arbenigedd, ac annog yr arfer o ddatblygu gwasanaethau cymorth newydd a ffyrdd newydd o weithio.
  • Sicrhau y rhoddir dull cyson a chydradd ar waith ledled Cymru.
  • Lleihau unrhyw ddyblygu a chanfod bylchau mewn gwasanaethau er mwyn helpu i wneud defnydd gwell o adnoddau prin ac er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r gwaith o gomisiynu cymorth ac ymyriadau amlasiantaethol.
  • Cynnig ffordd o wella, monitro ac archwilio ansawdd yn barhaus.

2. Cydweithio effeithiol er mwyn darparu llwybrau cymorth integredig

Rhywbeth sydd ymhlyg yn y dasg o weithredu llwybrau cymorth integredig yw’r angen i’r holl asiantaethau partner weithio’n effeithiol gyda’i gilydd. Mae paragraffau 2.1 i 2.8 isod yn crynhoi’r materion allweddol sydd wedi deillio o’r dystiolaeth ar gyfer gweithio integredig – sef materion y mae angen eu hystyried cyn ac yn ystod y cam cynllunio.

2.1 Rôl byrddau iechyd

Nod cyffredinol byrddau iechyd yw gwella a chryfhau trefniadau ar gyfer cynllunio, comisiynu a rheoli perfformiad gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru. Dylai byrddau iechyd ddarparu fforwm lle gellir dwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r holl asiantaethau partner sy’n gysylltiedig â chynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau profedigaeth. Y bwriad yw y bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio gyda phartneriaid perthnasol eraill i gyflawni eu cyfrifoldeb statudol trwy ddarparu ffordd o gyfuno arbenigedd ac adnoddau prin er mwyn cyflawni’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru. Ymhellach, bydd byrddau iechyd yn allweddol o ran sicrhau y gellir darparu gwasanaethau integredig ar gyfer unigolion sydd wedi dioddef profedigaeth. Mae hyn yn cynnwys datblygu systemau a dulliau priodol i ategu llwybrau profedigaeth integredig, yn cynnwys:

  • manylebau gwasanaethau
  • protocolau rhannu gwybodaeth, gan weithio gyda thimau Llywodraethu Gwybodaeth i hwyluso hyn, a chan sicrhau trefniadau llywodraethu mewnol ac allanol
  • systemau rheoli perfformiad, yn cynnwys gwirio ansawdd;
  • datblygu’r gweithlu, megis mentrau hyfforddi ar y cyd
  • protocolau’n ymwneud ag atebolrwydd a chyfrifoldeb

2.2 Safonau profedigaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi trosolwg lefel uchel o’r safonau craidd y mae angen eu rhoi ar waith ar gyfer darparwyr a chomisiynwyr gwasanaethau profedigaeth fel rhan o’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru. Wrth ddatblygu llwybrau cymorth integredig, rhaid ystyried gofynion sylfaenol y safonau profedigaeth.

2.3 Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Er mwyn cynllunio, gweithredu a chyflawni nodau unrhyw lwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth, rhaid cael prosesau cyfathrebu rhagorol oddi mewn/rhwng y sefydliadau a’r asiantaethau. Mae angen datblygu protocolau a systemau technoleg gwybodaeth sy’n ategu’r arfer o rannu gwybodaeth trwy weithio ar y cyd. Ymhellach, mae datblygu llwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth yn cynnig cyfle i sefydliadau ac asiantaethau gyfnewid sgiliau a gwybodaeth er mwyn hwyluso’r ystod o gymorth y gellir ei ddarparu ar draws y tair elfen ‘gofal profedigaeth’ a nodir gan NICE.

2.4 Rolau a chyfrifoldebau

Un flaenoriaeth allweddol wrth gynllunio llwybrau cymorth profedigaeth yw egluro a diffinio’r rolau, yr arlwy o wasanaethau a’r cyfrifoldebau sydd gan yr asiantaethau a’r sefydliadau o dan sylw. Yn yr un modd, rhaid i aelodau’r gweithlu ddeall beth yw arlwy gwasanaethau, rolau a sgiliau eu cydweithwyr, a sut mae’r rhain yn cyfrannu at y gofal a roddir i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth. Bydd hyn yn helpu i bennu argaeledd arbenigedd ac atal camddealltwriaeth o du sefydliadau a gweithwyr proffesiynol a chanddynt safbwyntiau gwahanol. Trwy egluro rolau a chyfrifoldebau, bydd modd hyrwyddo cydymddiriedaeth a pharch rhwng aelodau’r gweithlu, a bydd modd eu galluogi i sylweddoli pa mor ddefnyddiol yw eu cyfraniad a sut mae’r cyfraniad hwnnw’n cyd-fynd â siwrnai’r sawl sydd wedi dioddef profedigaeth.

2.5 Rheoli

Er mwyn sicrhau y bydd modd cydweithio’n effeithiol, mae aelodau’r gweithlu angen llinellau cyfrifoldeb ac atebolrwydd clir, gyda phrosesau llywodraethu ac uwchgyfeirio / adborth clir. Rhaid cadarnhau hyn ar ôl i unigolion gael eu pennu, fel y gellir cydgysylltu a rheoli llwybrau cymorth profedigaeth. Hefyd, bydd angen canfod ffynonellau cymorth priodol ar gyfer y gweithlu.

2.6 Addysg, hyfforddiant a goruchwyliaeth

Rhaid i sefydliadau ac asiantaethau sicrhau bod eu gweithwyr yn meddu ar gymwysterau priodol a’u bod yn gymwys i ddarparu’r gofal a nodir yn y llwybr cymorth profedigaeth. Mae addysgu a hyfforddi ar y cyd yn fuddiol, ac argymhellir yn gryf bod hyn yn arfer da. Gall hyn hyrwyddo ymdeimlad o feithrin tîm; gall gyfarwyddo’r staff trwy’r broses o ddatblygu llwybr cymorth profedigaeth; gall helpu’r staff i baratoi ar gyfer gweithredu’r llwybr cymorth profedigaeth e.e. defnyddio dogfennau; a gall gynnig llwyfan ar gyfer cytuno ar nodau ac amcanion llwybrau cymorth profedigaeth, prosesau mynediad ac atgyfeirio, cymorth ac ymyriadau, a phrotocolau rhannu gwybodaeth. Rhaid i’r asiantaethau a’r sefydliadau sicrhau bod trefniadau goruchwylio digonol a pharhaus ar waith er mwyn helpu eu staff i ddarparu gofal ac er mwyn cefnogi eu llesiant a’u datblygiad. Mewn achosion pan na fydd asiantaethau a sefydliadau llai â sgiliau ac adnoddau digonol ar gyfer goruchwylio’u staff, gellir rhannu’r cyfrifoldeb hwn.

2.7 Cydgysylltu gofal/asesu

Dylid cael mynediad clir a chyhoeddedig at gymorth profedigaeth. Y bwriad yw ymgysylltu â’r bobl sydd wedi dioddef profedigaeth cyn gynted ag y bo modd; o’r herwydd, dylai’r asesiad fod yn gymesur â’u hanghenion. Efallai y byddai’n fwy priodol cynnal asesiadau cynyddol dros amser yn hytrach na gorlwytho unigolion ag asesiad dwys yn ystod y cyswllt cyntaf. Dylai hyn, ynghyd â threfniadau trosglwyddo clir rhwng asiantaethau, helpu i osgoi unrhyw ddyblygu yn y broses asesu ac osgoi trallod diangen i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth.

Dylid ystyried bod yr asesiad yn ymarfer cydweithredol rhwng yr unigolyn a’r sefydliad, fel y gellir datblygu cynllun gofal sy’n adeiladu ar gryfderau a chydnerthedd yr unigolyn, ei anghenion (ar y pryd ac yn y tymor byr / hir), a’r cymorth sydd ar gael gan ei deulu a’i gymuned, fel y bo’n briodol. Bydd hyn yn grymuso unigolion i ymgysylltu â gwasanaethau yr ystyriant eu bod yn angenrheidiol yn ystod eu siwrnai trwy brofedigaeth. Mae’r staff a fydd yn mynd i’r afael â’r dasg bwysig hon angen gwybodaeth, sgiliau, cymhwysedd a barn broffesiynol er mwyn iddynt allu pennu anghenion pob unigolyn. Bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu a chytuno ar gynlluniau cymorth gyda’r unigolion, ynghyd â phennu’r problemau a’r materion amlycaf y mae angen darparu cymorth ar eu cyfer a gweithredu ar eu sail yn ddi-oed. Dylid adolygu cynnydd ac anghenion yr unigolyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod ei anghenion cymorth yn cael eu diwallu.

2.8 Monitro a llywodraethu

Y bwrdd iechyd a fydd yn gyfrifol am gadarnhau llwybrau cymorth profedigaeth, yn cynnwys gwaith monitro a threfniadau llywodraethu. Rhaid datblygu protocol ar y cychwyn cyntaf er mwyn nodi llinellau cyfrifoldeb ac atebolrwydd ynghyd â disgwyliadau darparwyr gwasanaethau.

3. Datblygu llwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth

3.1 Egwyddorion cyffredinol

Rhaid i’r gwaith o ddatblygu llwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth yng Nghymru gychwyn ar sail y ddealltwriaeth bod yn rhaid i ddarparwyr lleol gytuno arnynt a bod yn rhaid eu hymgorffori mewn manylebau gwasanaethau a chytundebau lefel gwasanaeth. Rhaid datblygu llwybrau cymorth o fewn/rhwng y tair elfen sy’n perthyn i ofal profedigaeth. Cyn rhoi llwybrau cymorth ar waith, rhaid i fyrddau iechyd eu cymeradwyo. Rhaid i’r llwybrau fod yn ddigon cynhwysfawr a rhaid iddynt gynnwys yr holl elfennau gofal a chymorth y mae’r unigolyn eu hangen. Hefyd, dylai llwybrau cymorth profedigaeth nodi disgwyliadau’r unigolyn, rolau a chyfrifoldebau’r staff o ran y gofal a gaiff yr unigolyn, ynghyd â’r ymyriadau cymorth seiliedig ar dystiolaeth, y triniaethau a’r canlyniadau y gall yr unigolyn sydd wedi dioddef profedigaeth eu disgwyl.

3.2 Pennu a blaenoriaethu meysydd mewn perthynas â llwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth

Er mwyn datblygu llwybrau cymorth integredig priodol ar gyfer profedigaeth, rhaid i fyrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau fapio a phennu anghenion lleol, yn cynnwys gofynion o ran ffydd a gofynion diwylliannol. Wrth wneud hyn, dylid ystyried unrhyw wasanaethau ychwanegol a ddarperir o ganlyniad i Grant Cymorth Profedigaeth Llywodraeth Cymru, sef £1 miliwn y flwyddyn o 2021-24. Bydd angen adolygu arferion a phrosesau lleol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn perthynas â chymorth profedigaeth, yn ogystal ag adolygu adborth gan randdeiliaid allweddol, megis unigolion a gofalwyr, comisiynwyr/cynllunwyr, aelodau o’r gweithlu profedigaeth, y gwasanaethau perthnasol a’r unigolion perthnasol sy’n gweithio mewn gwasanaethau generig. Trwy hyn, bydd modd gweld a yw’r darpariaethau presennol yn ddigonol ar gyfer datblygu llwybrau cymorth profedigaeth cynhwysfawr i ddiwallu anghenion lleol. Os daw bylchau i’r amlwg, efallai y bydd angen comisiynu rhagor o wasanaethau, neu gyfuno adnoddau pan fo capasiti yn caniatáu.

Rhaid cael cytundeb rhwng yr holl randdeiliaid ynglŷn â ble mae angen llwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth ac ynglŷn â’r penderfyniadau a wneir ynghylch y blaenoriaethau. Oherwydd natur profedigaeth a’r amrywiannau o ran anghenion pob unigolyn, doeth o beth fyddai datblygu llwybrau cymorth profedigaeth ar draws yr elfennau sy’n perthyn i ofal profedigaeth. Elfen 1 NICE (Cyffredinol – ar gael i bawb sydd wedi dioddef profedigaeth) ar gyfer y mwyafrif, ar y cychwyn, gydag un pwynt cyswllt, lle darperir gwybodaeth gan y darparwr gofal a oedd yn bennaf gysylltiedig â rheoli’r farwolaeth (ysbyty, hosbis/gofal lliniarol yn y gymuned, meddyg teulu fel y bo’n briodol), cyn datblygu llwybrau mwy arbenigol a chymhleth.

Dylid pennu pwy fydd yn datblygu’r llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth. Wrth ddatblygu a gweithredu llwybrau cymorth, bydd angen cynnwys staff gweithredol o bob sefydliad ac asiantaeth sy’n darparu gofal profedigaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol, er mwyn meithrin perchnogaeth o lwybrau cymorth. Bydd modd i rai aelodau o staff fynd ati i ddatblygu’r llwybr cymorth integredig, tra bydd modd ymgynghori â staff eraill er mwyn cael eu barn arbenigol. Dylid cynnwys unigolion a gofalwyr yn y ddau weithgaredd.

3.3 Creu gweledigaeth

Y cam nesaf yn y broses yw llunio gweledigaeth gyffredin ar gyfer y siwrnai trwy brofedigaeth. Bydd y weledigaeth hon yn sail i’r llwybr cymorth integredig. Bydd modd i ddarparwyr gwasanaethau a darpar ddarparwyr gwasanaethau yn yr ardal bennu eu rôl o fewn y llwybr a nodi pa adnoddau y gallant eu cynnig i’r llwybr. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen gwybodaeth gywir a dibynadwy gan bob sefydliad ac asiantaeth sy’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gysylltiedig â chynorthwyo unigolion mewn profedigaeth, er mwyn galluogi’r tîm i bennu bylchau yn y ddarpariaeth gofal a chymorth. Efallai y bydd angen gwaith allgymorth er mwyn gallu gwneud defnydd o gymorth sydd eisoes yn bodoli yn y gymuned, e.e. grwpiau ffydd neu grwpiau cymunedol.

3.4 Datblygu llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth

Dylid cymryd nifer o gamau wrth ddatblygu llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth. Nodir y rhain ym mharagraffau 3.4.1 i 3.4.3 isod.

3.4.1 Ymgynghori ag unigolion a sefydliadau/darparwyr sy’n darparu cymorth profedigaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol er mwyn:

  • trafod newidiadau posibl i arferion presennol a chytuno ar y newidiadau hyn
  • pennu meysydd arbenigedd y gellir eu rhannu
  • nodi’r rhai a allai ddarparu gofal (ond nad ydynt yn darparu gofal ar hyn o bryd, efallai)
  • pennu bylchau mewn gwasanaethau ac adnoddau

3.4.2 Drafftio’r siwrnai trwy brofedigaeth:

  • diffinio diben ac amcanion y llwybr profedigaeth
  • sicrhau asesiadau cynyddol a phriodol, yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn
  • datblygu systemau i ategu’r arfer o rannu gwybodaeth, er enghraifft systemau technoleg gwybodaeth priodol
  • nodi data sylfaenol a ddefnyddir i archwilio a gwerthuso’r llwybr cymorth integredig 
  • sicrhau bod y llwybrau cymorth parhaus yn briodol a’u bod ar waith, a hefyd sicrhau eu bod yn cynnwys gwasanaethau generig a gwasanaethau profedigaeth cyffredinol eraill, megis tai a thrais domestig
  • nodi canlyniadau dymunol a chefnogi nodau triniaeth, gan nodi sut y bydd y rhain yn cael eu mesur
  • sicrhau bod y gwasanaethau’n hygyrch, eu bod wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigolion a’u bod wedi’u seilio ar dystiolaeth ac arferion gorau
  • nodi sut bydd y llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth yn cael ei werthuso ar sail y safonau profedigaeth
  • sicrhau bod dull ar waith ar gyfer adrodd am amrywiannau yn y llwybr cymorth integredig
  • nodi pwy fydd yn mynd i’r afael â phob tasg, ymyriad ac asesiad

3.4.3 Hyrwyddo a hybu’r llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth er mwyn:

  • sicrhau bod y staff yn deall y cysyniad sydd ynghlwm wrth lwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth, a sut i’w rhoi ar waith
  • sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth ac asiantaethau partner yn ymwybodol o’r llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth, a’u bod yn ei ddeall
  • sicrhau bod cymorth ar gael yn y Gymraeg bob amser, ac y darperir ar gyfer ieithoedd eraill fel bo’r angen (e.e. trwy gomisiynu mynediad at wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd)
  • sicrhau bod y deunyddiau ar gael mewn amryfal fformatau ac ieithoedd, ac yn defnyddio iaith gynhwysol er mwyn diwallu anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig, fel bo’r angen

3.5 Gweithredu’r llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth

Dylid cylchredeg y llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth, y dogfennau ategol a’r protocolau perthnasol ymhlith y sefydliadau a’r asiantaethau sy’n cynorthwyo unigolion mewn profedigaeth. Er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn dilyn athroniaeth a nodau’r llwybr cymorth integredig ar gyfer profedigaeth, efallai y bydd angen cymorth, goruchwyliaeth a hyfforddiant parhaus yn ystod y cyfnod gweithredu.

Bydd angen cael dull / fforwm ar gyfer rhoi gwybod am broblemau ac ymholiadau, oherwydd mae’n hanfodol i’r rhai sy’n gweithredu’r llwybr gael cyfle i leisio’u barn ac mae’n hanfodol ymdrin â’u pryderon a’u cwestiynau, gan fynd ati wedyn i newid prosesau pe bai angen. Rhaid caniatáu amser ar gyfer hyn, a hefyd rhaid caniatáu amser i’r staff ddeall manteision posibl y llwybr. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i fyrddau iechyd cyfagos gymryd rhan yn y dulliau/fforymau hyn, er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu ac er mwyn i’r naill allu cynorthwyo’r llall.

3.6 Adolygu llwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth

Ar ôl rhoi llwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth ar waith, rhaid eu hadolygu’n barhaus a’u haddasu fel y bo’n briodol. Mae’n bwysig mynd ati i ddadansoddi’r data (yn cynnwys data gan unigolion ac aelodau o’r gweithlu), a gweithredu ar ei sail. Rhaid adolygu’r rhesymau dros amrywiannau. Er mwyn sicrhau ansawdd, bydd angen monitro dangosyddion perfformiad a chadw at safonau profedigaeth craidd. Gellir cyflawni hyn trwy gyfrwng cytundebau lefel gwasanaeth.

3.7 Llunio fersiynau ‘hawdd eu defnyddio’ o’r llwybrau cymorth

Gellir llunio fersiynau ‘hawdd eu defnyddio’ o’r llwybrau cymorth er mwyn rhoi gwybod i unigolion beth fydd yn digwydd, ble, pryd a chan bwy (er enghraifft, trwy ddefnyddio siart lif a fydd yn nodi siwrnai’r unigolyn sydd wedi dioddef profedigaeth). Bydd hyn yn dangos yn glir i’r unigolyn beth yw natur y gofal a gynigir a pha lwybrau cymorth sydd ar gael.

4 Llwybrau cymorth integredig ar gyfer profedigaeth y dylai byrddau iechyd lleol eu rhoi ar waith

Llwybr cymorth uniongyrchol i deuluoedd sydd wedi dioddef marwolaeth annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc.

Bydd angen ychwanegu llwybrau eraill, oherwydd nid ydynt wedi cael eu datblygu eto.

5 Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2021) Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru.

NICE (2016) End of life care for infants, children and young people with life-limiting conditions: planning and management.

NICE (2018) Preventing suicide in community and custodial settings.

National Bereavement Care Pathway for Pregnancy and Baby Loss (2017).