Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Medi 2015.

Cyfnod ymgynghori:
1 Gorffennaf 2015 i 23 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 317 KB

PDF
317 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn am y fersiwn ddrafft o'r Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Pasiwyd Deddf Tai (Cymru) 2014 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2014 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014.

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd i fynd i’r afael â digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd gan gynnwys pwyslais mwy o lawer ar atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Cyflawnwyd hyn trwy gryfhau rôl atal yn nyletswyddau Awdurdodau Lleol tuag at bobl ddigartref.

Mae Adran 70 o’r Ddeddf yn nodi’r categorïau angen blaenoriaethol ar gyfer y rhai ac arnynt angen cymorth ychwanegol. O ganlyniad i a.70 nid yw’r rhai a ryddhawyd o ddalfa’n gymwys yn awtomatig ar gyfer angen blaenoriaethol mwyach.

Mewn ymateb i bryderon ynghylch y newid hwn mewn deddfwriaeth aeth y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd ati i sefydlu’r Gweithgor Llety ac Ailsefydlu Carcharorion i sicrhau y byddai gan y rhai sy’n cael eu cadw mewn dalfa fynediad at wasanaethau atal cyn cael eu rhyddhau.

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn am y fersiwn ddrafft o’r  Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel a gynhyrchwyd gan y Gweithgor mewn ymateb i bryderon ynghylch mynediad at wasanaethau atal.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 525 KB

PDF
525 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.