Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffigurau  yn dangos rhagor o lwyddiant i dwristiaeth yn 2016  - gyda cynnydd aruthrol o 44.1% yng ngwariant  ymweliadau undydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a gyhoeddwyd heddiw yn dangos yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2016, cafwyd 98.5 miliwn o ymweliadau dydd gan dwristiaid â Chymru, gyda gwariant cysylltiol o £3.8 biliwn. 

Mae nifer yr ymweliadau undydd gan dwristiaid â Chymru yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2016 wedi cynyddu bron 33.1% o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol, tra bod y swm a wariwyd wedi cynyddu 44.1%.

Er bod nifer y teithiau hefyd wedi cynyddu 13% ar lefel Brydeinig, cynnydd o 33% fu yng Nghymru. Mae lefel gwariant pob ymweliad bellach yn uwch yng Nghymru nag ym Mhrydain yn gyffredinol, gyda gwariant cyfartalog o £39 yr ymweliad yng Nghymru, o'i gymharu â £34 yr ymweliad ar draws Prydain. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 

"Fel un o'r ffyrdd rydym yn mesur perfformiad twristiaeth, bu'n newyddion da iawn bod cynnydd mor fawr o ran y nifer o bobl sy'n dod yma ar ymweliad undydd a faint y mae'r ymwelwyr hynny’n ei wario.   Rwy'n falch iawn bod tueddiadau cynnydd cadarnhaol yr haf a'r hydref bellach yn parhau i fisoedd y gaeaf.  

"Mae hyn yn golygu bod ein gwaith marchnata, ymrwymiad ein diwydiant a'r cynnyrch arloesol yr ydym wedi'u datblygu, yn cael effaith. 2016 oedd ein Blwyddyn Antur ac mae'r ffigurau hyn yn dangos bod yr ymgyrch wedi rhoi ffocws ar gyfer datblygu cynnyrch a hyrwyddo Cymru a rhoddodd resymau da iawn i bobl ymweld â Chymru.  Wrth i ni lansio Blwyddyn Chwedlau 2017 yn ein prif farchnadoedd, byddwn yn gweithio i gynnal y ffigurau hyn."