Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog wedi ymweld heddiw â dau fusnes twristiaeth yn y Gogledd fydd yn ehangu ac yn tyfu yn 2017.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth ymweld ag adeilad Gradd II y Washington Hotel yn Llandudno, cyhoeddodd y Prif Weinidog fod £190,000 o arian y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth wedi’i neilltuo i helpu i weddnewid yr adeilad eiconig hwn yn gartref i fwyty diweddaraf Dylan’s.

Dyma fydd trydydd safle’r cwmni a bydd y prosiect £1.5m yn creu hyd at 40 o swyddi newydd, gan ddod â’r cyfanswm sy’n gweithio yn nhri bwyty Dylan’s a’u cegin baratoi a’u prif swyddfa yn Llangefni i 180 o bobl.

Mae’r gwaith adeiladu wedi dechrau a’r nod yw agor y bwyty ddiwedd gwanwyn 2017.  Y bwriad yw dod ag arddull hamddenol ac anffurfiol Dylan’s o giniawa i’r dre ar safle deulawr gyda bar coctels ar wahân a theras awyr agored.

Meddai Cyfarwyddwr Dylan’s, David Evans:

“Mae’n bleser cael croesawu’r Prif Weinidog atom ar ei ymweliad â’r Gogledd, a thestun balchder mawr inni yw cael gweithio ochr yn ochr â phrosiectau pwysig eraill yn y rhanbarth sy’n cyfoethogi profiadau ymwelwyr ac yn sbarduno’r economi leol.

“Mae’r cyfuniad gwefreiddiol o fwyd lleol da, harddwch naturiol eithriadol y rhanbarth a gweithgareddau awyr agored cyffrous yn golygu bod y gogledd orllewin yn dynfa gynyddol i dwristiaid, fel y mae ystadegau diweddar yn ei ddangos mor glir.  

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu help i ailwampio’n safle newydd yn Llandudno.  Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda yn y Washington, ac rydym ni’n edrych ymlaen at agor ym mis Mai eleni.”


Cafodd y Prif Weinidog weld hefyd y gwaith sy’n digwydd yn safle Alpine Coaster newydd Zip World Fforest, y cyntaf o’r dyluniad hwn ym Mhrydain.  Mae wedi’i ddylunio i redeg ar reiliau trwy goed ar draciau ar goesau.  Mae’r math hwn o drac tobogan bob tywydd wedi cael llwyddiant mawr mewn ardaloedd sgïo ledled Ewrop, Asia ac America.  Bydd yr Alpine Coaster 1km o hyd yn agor ddechrau 2017 ac mae £320,000 o’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth wedi’i neilltuo iddo.


Dywedodd Sean Taylor, y Cyfarwyddwr Masnachol:

“Mae twristiaeth antur yn ffynnu ar y funud yn y Gogledd.  Yn wir, cymaint yw’n hyder yn y dyfodol, rydym yn buddsoddi £5.5 miliwn dros y 12 mis nesaf i helpu i gryfhau ein priod safle fel prif gartref twristiaeth antur.
“Eleni, byddwn yn agor yr Alpine Coaster gwerth £1.5 miliwn, atyniad arall gennym sy’n torri tir newydd ym Mhrydain.  Yn ôl astudiaeth ddiweddar o’u heffaith economaidd, datgelwyd bod atyniadau Zip World ers 2013 wedi dod â £121 miliwn i economi’r Gogledd gan greu rhagor na 218 o swyddi, gyda 93% o’r swyddi hynny’n mynd i bobl leol.”

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Wrth ymweld â’r ddau fusnes, cefais weld bod ansawdd ac arloesi, o wneud y gorau o’n treftadaeth a’n tirwedd, yn creu cynhyrchion cryf unigryw o Gymreig i ddiwydiant twristiaeth Cymru fydd yn denu pobl i Gymru.  Does dim rhyfedd bod y Lonely Planet wedi dweud bod y Gogledd ymhlith y deg lle gorau yn y byd i ymweld â nhw yn 2017.  Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r ddau gwmni yn y dyfodol.”