Neidio i'r prif gynnwy

Ar 1 Mehefin, cynhaliwyd y Gwobrau GO Cenedlaethol yn voco St John’s Solihull – gan ddathlu rhagoriaeth ym maes caffael cyhoeddus a’r gadwyn gyflenwi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r gwobrau'n cydnabod llwyddiant wrth ddarparu gwasanaethau sector cyhoeddus ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Roedd tîm Cyflawni Masnachol a thîm Diwygio’r Broses Gaffael Llywodraeth Cymru (y ddau’n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol) ar y rhestr fer ar gyfer 4 gwobr yn seremoni eleni.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y gwaith ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y system brynu ddeinamig ar gyfer offerynnau cerdd wedi’i ganmol yn fawr yng nghategori Llywodraeth Ganolog y gwobr Cyflawni Caffael. Roeddem hefyd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr y fenter gaffael gydweithredol, a’r wobr gwerth cymdeithasol.

Mae astudiaeth achos fideo ar gyfer ein DPS offerynnau cerdd ar gael yma.

Dywedodd John Coyne, Cyfarwyddwr Caffael a Masnachol:

"Gyntaf oll, roedd hi’n bleser mynychu Gwobrau GO Cenedlaethol eleni. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael ein canmol yn fawr am ein cais yn y categori Cyflawni Caffael yn seremoni eleni. Mae'r wobr hon yn tynnu sylw at y berthynas waith gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru a'n hymgais a'n hawydd i fabwysiadu ymagwedd greadigol at gaffael. Bydd y cytundeb creadigol hwn yn sicrhau bod plant Cymru yn elwa drwy gael mynediad am ddim i offerynnau cerdd yn yr ysgol, gan wneud gwahaniaeth i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Da iawn i bawb fu ynghlwm â’r gwaith!"

I gael gwybod rhagor am yr holl enillwyr a'r rhai a gafodd ganmoliaeth uchel ar draws y 18 categori, ewch i wefan Gwobrau GO.