Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ac i gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd - yn cyflawni yn unol â’r themâu canlynol:

  • Rheoli tir ar raddfa fferm
  • Gwella’r amgylchedd ar ffermydd
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • Rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • Coetiroedd a choedwigaeth
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu sy’n ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw a helpu i bontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sydd ar gael i’w weld yn: https://businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Adran A: cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd. Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler 'Sut i Wneud Cais' yn adran C a'r llyfryn Sut i Lenwi.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 6 Mawrth 2024 ac yn cau ar 16 Ebrill 2024. 

Mae cyllideb o £5.0m wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd – yn gynllun cyfalaf ar gyfer helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol eu busnesau fferm. 

Y nodau yw buddsoddi mwy yn y fferm, gwella ei pherfformiad technegol, cynhyrchu yn fwy effeithiol ar y fferm, defnyddio adnoddau ar y fferm yn fwy effeithiol a defnyddio technoleg yn well i wella penderfyniadau rheoli.  

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn cefnogi buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a thechnoleg sydd wedi’u nodi ymlaen llaw fel rhai sy’n cynnig manteision clir a mesuradwy i fusnes eich fferm.  Mae’r eitemau cyfalaf a’u cost wedi’u nodi. 

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B: pwy sy’n gymwys am Grantiau Bach – Effeithlonrwydd

Rydych yn gymwys i wneud cais os: 

  • Ydych wedi wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Rhaid bodloni’r amodau isod: 
    • Rydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol 
    • Mae gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys wedi’i gofrestru gyda RPW yng Nghymru neu rydych yn 
    • Gallu profi’ch bod yn gweithio dros 550 o oriau safonol o lafur. 

Os ydych wedi cyflwyno hawliad ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol, byddwn yn gallu cadarnhau’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru. 

Os nad ydych wedi hawlio o dan y Cynllun Taliad Sylfaenol, rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda’ch Datganiad o Ddiddordeb i gadarnhau’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych naill ai 3ha o dir amaethyddol cymwys sydd wedi’i gofrestru â’r RPW yng Nghymru neu’ch bod yn gweithio 550 o oriau safonol o lafur.  Os na fyddwn wedi cael y dystiolaeth hon erbyn y dyddiad cau ar gyfer Datgan Diddordeb, caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei wrthod. 

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn gweithio yn y sectorau ffermio canlynol: 

  • âr 
  • eidion 
  • cynnyrch llaeth 
  • geifr 
  • garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg a dyfrboneg) 
  • moch 
  • dofednod 
  • defaid
  • cadw gwenyn

Nid ydych yn gymwys os ydych:

  • yn gwsmer Ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • yn gwsmer Coedwigaeth (gan gynnwys perchen ar goed yn unig)
  • yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Cymdeithas Cynhyrchwyr) 
  • ond os yw dau neu fwy o ddaliadau amaethyddol yn cael eu rheoli fel un uned neu eu bod yn eiddo i un person, neu eu bod i ryw raddau yn cael eu rheoli ar y cyd, bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, yr un da byw, peiriannau a/neu storfeydd bwydo, cânt eu cyfrif fel un busnes. 

Rhaid ichi beidio â defnyddio eitemau rydych wedi’u prynu ag arian Grantiau Bach – Effeithlonrwydd at ddiben gwaith contractio amaethyddol. 

Costau cymwys 

Dim ond ar gyfer eitemau sydd wedi’u rhestru yn y Rhestr o Eitemau Cyfalaf Cymwys yn Atodiad A y bydd grant ar gael. 

Rhaid i’r eitemau gyfateb i’r fanyleb ofynnol a ddisgrifir neu ragori arni. 

Costau anghymwys 

  • Offer ail law 
  • Defnyddiau traul (eitemau y gallwch eu gorffen, e.e. moddion ar gyfer y Gwn Drensio)

Er mwyn cael grant at gost prynu offer, byddwch wedi talu’r costau hynny’n briodol ac yn llawn a hynny cyn hawlio grant.  Felly, ni fydd grant ar gael ar gyfer offer rydych wedi’i gael o dan gytundeb hur bwrcas neu lesio neu fath arall o drefniant ariannol. 

 Cyfradd a throthwy uchaf y grant 

Y grant mwyaf y gellir ei roi i chi yw £15,000 a’r grant lleiaf yw £1,000.

 Ni fydd y ffaith eich bod wedi cael Grant Busnes Fferm o’r blaen neu wedi hawlio mewn unrhyw rowndiau blaenorol o’r Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn effeithio ar eich gallu i geisio am y grant mwyaf o £15,000. 

Mae’r grant yn cyfrannu hyd at 40% o werth buddsoddiad cyfalaf mewn offer a pheiriannau (heb gynnwys TAW).

Bydd y grant yn gyfraniad o hyd at 40% o’r gwir gostau a anfonebwyd hyd at y costau cyfeirio uchaf a nodir yn Atodiad A. 

Er enghraifft, rydych yn cael cynnig contract a grant tuag at brynu system symudol ar gyfer trin gwartheg am bris cyfeirio o £11,061. Os byddwch yn prynu eitem sy’n cyfateb i’r fanyleb neu’n rhagor arni am £11,061 neu fwy, telir grant o £4,424 (40% o £11,061). Ond os byddwch yn prynu eitem sy’n cyfateb i’r fanyleb neu’n rhagori arni am bris llai na’r pris cyfeirio (e.e. am £10,000), caiff y grant a delir ei ostwng i £4,000 (40% o’r £10,000 a anfonebwyd)

Gall Datganiad o Ddiddordeb fod yn fwy na'r grant mwyaf drwy ychwanegu un eitem. Os caiff ei ddewis, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio i'r grant uchaf o £15,000.

Rhaid i isafswm gwerth grant eich Datganiad o Ddiddordeb fod yn £1,000 o leiaf.

Gofynion allweddol 

Rhaid prynu’r eitemau o fewn 180 diwrnod ar ôl cael cynnig y contract.

Gofalwch fod yr holl eitemau y byddwch wedi’u prynu ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’r hawliad. 

Ni all y Prosiect fynd yn ei flaen heb y grant. 

 Rhaid i’r ceisiadau ddangos hefyd bod y canlynol wedi’u bodloni. 

  • Rydych wedi cael pob cantiatâd, trwydded neu gydsyniad sydd ei angen. 
  • Rydych wedi bodloni’r safonau gofynnol a’r gofynion cyfreithiol o ran yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol. 

Adran C: gwneud cais am y cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd

RPW Ar-lein 

Rhaid Datgan Diddordeb yn Grantiau Bach – Effeithlonrwydd ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Gwener 9:00am – 16:00pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch. 

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio’ch cyfrif RPW Ar-lein. Mae ffurflen Datgan Ddiddordeb yn y Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW.  Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am Ddatgan Diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adran D: Datgan Diddordeb a’r broses ddewis

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb 

Cewch ddarllen sut i Ddatgan Diddordeb trwy RPW Ar-lein ar y ddolenhon.

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i Ddatgan Diddordeb trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau. 

Eich cyfrifoldeb chi yw Datgan eich Diddordeb yn gywir a sicrhau bod yr wybodaeth rydych wedi’i chyflwyno i gefnogi’ch prosiect yn gywir. 

Dewis datganiad o ddiddordeb llwyddiannus 

Os caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei ddewis, caiff contract ei gynnig ichi trwy'ch cyfrif RPW ar-lein. 

Rhaid ichi brynu'r holl eitemau sydd ar eich contract a hawlio arnynt trwy'ch cyfrif RPW ar-lein o fewn 180 o ddyddiau calendr ar ôl dyddiad cynnig y contract ichi.

Rhaid ichi dderbyn y contract o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad cynnig y contract ichi drwy bwyso’r botwm glas ar dudalen hafan RPW Ar-lein. Ni chewch brynu'r eitemau yn eich Datganiad o Ddiddordeb nes eich bod wedi derbyn eich contract.

Os na fyddwch wedi derbyn eich contract o fewn 30 niwrnod calendr, caiff y cynnig ei dynnu'n ôl. 

Caiff manylion llawn pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y contract a phryd y bydd yn rhaid ichi brynu'r eitemau a'u hawlio eu nodi yn eich contract.

Byddwn yn anfon nodyn i’ch atgoffa trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau fydd wedi’i nodi ar eich llythyr. 

Os byddwch yn derbyn contract Grantiau Bach – Effeithlonrwydd ac yn tynnu allan ohono ar ôl derbyn y contract neu nid ydych yn cyflwyno hawliad dilys, caiff gwerth y contract ei dynnu o’r £15,000, y grant mwyaf fydd ar gael ichi mewn unrhyw gyfnod ymgeisio yn y dyfodol. 

E.e. rydych wedi Datgan Diddordeb yn y cyfnod ymgeisio hwn ac mae contract gwerth £8,000 wedi’i gynnig ichi.  Rydych yn derbyn y contract ond nid ydych yn cyflwyno hawliad dilys; y cyfanswm sydd ar gael ichi yn y cyfnod ymgeisio nesaf yw £7,000. 

Os bydd yr hawliad rydych yn ei gyflwyno’n rhannol ddilys (e.e. mae un eitem sy’n anghyson â’r fanyleb), gallai gwerth y contract nad oedd yn ddilys gael ei dynnu o’r cyfanswm fydd ar gael ichi mewn cyfnodau ymgeisio yn y dyfodol. 

Sgorio

Mae pob eitem cyfalaf wedi cael ei sgorio gan aseswyr annibynnol ar sail pedwar maen prawf ac mae’r pwysoliadau canlynol wedi’u defnyddio: 

Meini Prawf SgorioPwysoliad
Defnyddio Adnoddau’n EffeithiolX3
Effeithlonrwydd TechnegolX2
Iechyd a Lles AnifeiliaidX2
Iechyd a LlesX1

Dangosir y sgôr yn y Rhestr o Eitemau Cyfalaf Cymwyswrth bob eitem unigol.  Mae’r ddogfen hon ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Mae gofyn i ymgeiswyr ddewis eitemau cyfalaf hyd at werth y grant mwyaf o £15,000, neu un eitem ychwanegol sy’n fwy na hyn. Bydd y system yn cyfrif sgôr yr ymgeisydd yn awtomatig trwy gyfrif nifer y pwyntiau sydd wrth bob eitem unigol a chyfrif cyfartaledd sgoriau’r eitemau unigol y gofynnwyd amdanynt. 

Caiff y Datganiadau o Ddiddordeb eu sgorio a’u rhoi yn eu trefn. Caiff trothwy ei osod yn ôl maint y gyllideb a chynigir contractau i’r Datganiadau o Ddiddordeb sy’n cael y sgoriau uchaf. 

Os bydd dau ymgeisydd yn cael yr un sgôr, y cais isaf ei werth gaiff ei ddewis gyntaf. 

Os bydd dau ymgeisydd yn cael yr un sgôr a’u bod o’r un gwerth ac ar yr un safle o safbwynt trothwy’r gyllideb, mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i dderbyn neu wrthod y ceisiadau hyn, gan ddibynnu ar faint o’r gyllideb sydd ar gael. 

Pwrpas y broses sgorio yw i Lywodraeth Cymru allu rhoi'r Datganiadau o Ddiddordeb yn eu trefn yn ôl faint o arian sydd ar gael ym mhob cyfnod ymgeisio.

Tynnu datganiad o ddiddordeb yn ôl

Unwaith y mae busnes wedi Datgan Diddordeb yn y cynllun Grantiau Bach, a oes modd ei dynnu'n ôl?

  1. Oes – os yw’r cyfnod Datgan Diddordeb dal ar agor.

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy’r sgrin “Fy Negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein; cewch gyflwyno cais arall cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben.

  1. Oes, ar ôl i’r cyfnod Datgan Diddordeb ddod i ben OND cyn i’r busnes gael y contract.

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy’r sgrin “Fy Negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Os ydych wedi dewis yr eitemau anghywir neu wedi newid eich meddwl am yr eitemau rydych wedi'u dewis neu os ydych heb gynnwys yr eitemau roeddech am eu dewis, rhaid ichi dynnu'r cais yn ôl a gwneud cais arall yn y rownd nesaf. 

Cofiwch fod y broses yn un gystadleuol ac nad oes sicrwydd y byddwch yn llwyddiannus y tro nesaf.

  1.  Nac oes – pan fydd y busnes wedi’i ddewis a’ch bod wedi cael cynnig contract. 

Ni chewch dynnu Datganiad o Ddiddordeb yn ôl ar ôl i gontract gael ei gynnig i chi. 

Ni chewch newid yr eitemau sydd ar y contract ar y pwynt hwn. Cewch brynu fersiwn well o'r un eitem, ond dyna'r unig fath o newid a ganiateir.

Adran E: amodau’r grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd (gweler Adran K). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r cynnig o grant Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac yn yr ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Byddwch wedi prynu'r offer a chysylltu ag RPW trwy RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn y contract a gynigir. Os na fyddwch wedi cysylltu ag RPW erbyn hynny, caiff y cynnig grant ei wrthod.

Byddwch yn deall y bydd angen i Lywodraeth Cymru o bosibl ddiweddaru’r rheolau a’r amodau yng ngoleuni newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Byddwch yn cytuno hefyd i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Byddwch yn cytuno i gydymffurfio â’r holl gyfreithiau neu reoliadau domestig neu ryngwladol neu gyfarwyddebau swyddogol cymwys.

Ni chewch newid prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru

Bydd yn rhaid ichi gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru i gael gwared ar, trosglwyddo a gwerthu unrhyw offer a brynir gyda chymorth y grant am bum mlynedd o ddyddiad diwedd y contract. Bydd yn rhaid ichi dalu’r grant yn ôl yn llawn.

Mae gofyn i’r ymgeisydd ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Mae’r manylion rydych wedi’i rhoi yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn gywir ac yn gyflawn. 

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r ceisiadau, a'ch bod yn llwyr gyfrifol am y penderfyniadau busnes a wneir. 

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yng Nghanllawiau’r Cynllun. 

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio’r ffurflen ar dudalen Hawlio Grant RPW Ar-lein a rhaid atodi’r holl ddogfennau sydd eu hangen o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y contract. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi’u clirio o gyfrif banc.

Rhaid ichi ysgwyddo unrhyw ymrwymiadau sydd ynghlwm wrth gael caniatâd cynllunio yn ôl y gofyn. 

Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw rai o'r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi roi cadarnhad nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall.  Os daw’n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolwyr gael mynediad i dir ac archwilio tir ac unrhyw offer perthnasol. Ar gais, rhaid i chi ganiatáu iddynt weld gwybodaeth a/neu ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). 

Adran F: taliadau

Hawliadau

Bydd yn rhaid ichi hawlio'r Grantiau Bach – Effeithlonrwydd ar dudalen Hawlio Grantiau eich cyfrif RPW Ar-lein. Chewch chi ddim mo'ch talu nes bod eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn derbyn Grantiau Bach – Effeithlonrwydd, rhaid ichi:

  • Dderbyn contract cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a chadw at yr holl ofynion.
  • Sicrhau na fyddwch yn prynu eitemau a restrir yn eich contract tan ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
  • Sicrhau eich bod wedi prynu’r holl eitemau a restrir yn eich contract. 
  • Sicrhau bod yr holl eitemau a brynwyd ar y safle ar adeg cyflwyno’ch hawliad ac wedi eu gosod a/neu sy’n barod i’w defnyddio i fodloni y fanyleb grant o fewn 6 mis i gyflwyno’r cais. 
  • Cyflwyno’r hawliad trwy ddefnyddio’r dudalen Hawlio Grant yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio, sef 180 diwrnod ar ôl rhoi’r contract a chyflwyno’r holl ddogfennau ategol. 

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy’r dudalen Hawlio Grantiau ar RPW Ar-lein gyda’r holl ddogfennau ategol. 

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl i’r buddsoddiad gyrraedd ar eich daliad, a rhaid i hynny fod cyn dyddiad cau yr hawliad. 

Ni roddir unrhyw estyniadau ar ôl 31 Mawrth 2025.

Dogfennau ategol 

Rhaid ichi gyflwyno’r canlynol gyda’ch hawliad: 

  • Tystiolaeth eich bod wedi gwario arian ar yr holl eitemau rydych yn eu hawlio
  • Anfonebau’r holl eitemau rydych yn eu hawlio.
  • Tystiolaeth bod yr eitemau rydych wedi’u prynu yn cyfateb i fanylebau’r grant. 
  • Ffotograffau â geotag o’r eitemau ar eich safle

Rhaid i bob eitem unigol a’i chost fod yn glir ar yr anfoneb.

Rhaid ichi ddangos tystiolaeth bod yr eitem yn cyfateb i’r fanyleb neu’n rhagori arni. 

Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu bod yr eitemau sydd wedi’u prynu yn cyfateb i fanyleb y grant yn Atodiad A a rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol i brofi hynny. 

Er enghraifft, os ydych yn hawlio ar gyfer System Symudol ar gyfer Trin Gwartheg: 

Rhedfa. System symudol ar gyfer trin gwartheg, yn cynnwys:

  • Craets, ddim llai na 720mm o led tu fewn. 
  • Ochrau’n agor i’r anifail allu mynd i mewn iddo
  • Corlan ar gyfer o leiaf 25 o wartheg (24 mis +)
  • Treilar integredig sy’n gyfreithlon i fod ar y ffordd fawr
  • Bar ffolen sy’n cael ei gweithio o’r tu allan i’r craets a’r rhedfa. 
  • Iau pen, y gellir ei addasu
  • Metel wedi’i alfaneiddio neu ei beintio â phaent powdr

Rhaid i’r anfoneb ddangos bod y System Symudol ar gyfer Trin Gwartheg yn ateb pob un o’r gofynion hyn. 

Os nad yw’r anfoneb yn dangos hyn, rhaid cyflwyno manyleb fanwl sy’n cadarnhau bod y gofynion wedi’u bodloni. 

I brofi bod yr eitem yn cyfateb i’r fanyleb, dylech roi’r wybodaeth ychwanegol ganlynol os oes angen:

  • Enw’r gwneuthurwr, rhif y model, y rhif cyfresol ac ati os nad ydyn nhw wedi’u nodi ar yr anfoneb. 
  • Rhestr fanwl o’r fanyleb, os nad yw wedi’i chynnwys yn yr anfoneb, neu ddisgrifiad o’r eitem sy’n esbonio sut y mae’n cyfateb i’r fanyleb. 

Mae’n rhaid i chi gyflwyno cyfriflenni banc fel tystiolaeth bod gwariant wedi’i wneud ar gyfer pob eitem o gyfarpar yn eich contract. 

Gallwch gyflwyno’r anfonebau a’r cyfriflenni banc trwy eu sganio a’u hanfon trwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Rhaid ichi gyflwyno ffotograff â geotag o’r eitem ar eich safle

Ffotograff sy’n cynnwys gwybodaeth am ei leoliad yn ei ddata yw ffotograff â geotag.  Bydd y rhan fwyaf o ffonau symudol sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd a chamera yn cofnodi’r cyfesurynnau GPS yn awtomatig.  Maen nhw hefyd yn cofnodi dyddiad ac amser tynnu’r ffotograff. 

Fe welwch esboniad manwl ynghylch ffotograffau â geotag a sut i’w cyflwyno ar y wefan yn y cam hawlio. 

Rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth fod yr eitem yn cyfateb i’r fanyleb neu’n rhagori arni

Eitemau sydd heb eu darparu 

Os ydy’r cyflenwr/gwneuthurwr wedi rhoi gwybod ichi na fydd modd iddo gael yr eitemau i chi erbyn y dyddiad hawlio, bydd gofyn ichi gysylltu â ni trwy “Fy Negeseuon” ar eich cyfrif RPW Ar-lein i esbonio’r broblem i ni. 

Bydd gofyn ichi ofyn am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer hawlio a rhoi prawf eich bod wedi archebu’r eitem a thystiolaeth ddogfennol gan eich cyflenwr i gadarnhau nad yw’n gallu dod â’r eitem ichi. 

Rhaid cyflwyno’r wybodaeth cyn y terfyn hawlio gwreiddiol o 180 o ddyddiau a dangos eich bod wedi ceisio cael yr eitem i’ch daliad erbyn y dyddiad cau gwreiddiol.

Ni roddir estyniadau y tu hwnt i 31 Mawrth 2025.

Cam-hawlio a chosbau

Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliad yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon. 

Bydd yr holl eitemau wedi’u prynu ar ôl cynnig y contract i chi.

 Byddwch wedi cam-hawlio os: 

  • ydych yn prynu eitemau cyn i’r contract gael ei gynnig i chi.
  • nad ydych wedi prynu'r holl eitemau yn y contract. 
  • nad yw’r eitemau’n cyfateb i’r fanyleb.
  • nad ydych wedi cyflwyno’r hawliad na’r dogfennau ategol erbyn y dyddiad hawlio.
  • nad yw’r eitemau ar eich daliad yn ystod archwiliad. 

Rhaid i chi hawlio ar yr holl eitemau a restrir yn eich contract.

Os na fyddwch wedi hawlio ar yr holl eitemau, caiff eich hawliad ei wrthod. 

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y byddwn yn tynnu eitemau.

Os gwelwn nad ydych wedi prynu eitemau neu nad ydyn nhw’n cyfateb i’w manylebau, caiff y taliad ei leihau i swm yr eitemau sydd yn cyfateb i’r manylebau. 

Os gwelir bod yr eitemau sy’n anghymwys yn werth mwy na 10% o’r costau cymwys, caiff swm sy’n cyfateb i werth yr eitemau anghymwys ei dynnu o’ch taliad.

Er enghraifft 

Mae cwsmer yn hawlio eitemau canlynol y Grantiau Bach – Effeithlonrwydd. Cyfanswm gwerth y grant yw £7,960.

Esiampl
Eitem Grantiau Bach – EffeithlonrwyddNiferGwerth y Grant
Craets gwasgu gwartheg sy’n gweithio drwy system hydrolig1£4,470
Baddonau traed awtomatig1£2,278
Gât i ddal buwch sy'n bwrw llo1£208
Offer trin defaid1£1,004
Cyfanswm £7,960

Yn yr enghraifft hon, nid yw’r gât i ddal buwch sy'n bwrw lloi sy’n werth £208 yn cyfateb i’r fanyleb. Y cyfanswm a hawlir yw £7,960 a gwerth yr eitem anghymwys yw £208. Gan fod yr eitem anghymwys yn werth llai na 10% o’r costau cymwys (£7,752), y cyfanswm a delir yw £7,752. 

Ond, beth os nad yw’r offer trin defaid, sy’n werth £1,004, yn cyfateb i’r fanyleb. Y cyfanswm a hawlir yw £7,960 a gwerth yr eitem anghymwys yw £1,004. Tynnir gwerth yr eitem anghymwys, £1,004, o'r hawliad gwreiddiol o £7,960, gan adael swm sy'n weddill o £6,956. Gan fod yr eitem anghymwys yn werth mwy na 10% o’r costau cymwys (£6.956), caiff swm sy’n cyfateb i werth yr eitem anghymwys, £1,004, ei dynnu o weddill y taliad a’r cyfanswm a delir felly yw £5,952. 

Os nad ydych yn sicr ynghylch beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich contract, mae’n hanfodol eich bod yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn ichi dalu amdano. 

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Grantiau Bach - Effeithlonrwydd. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran G: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn deddfwriaeth (gan gynnwys newid dehongliad)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt. 

Newidiadau i reolau neu gontract y cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen. 

Adran H: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli 

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl i chi talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’ch cais a’ch hawliad i gyd yn cael eu archwilio. 

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae'n ofyn fod yr holl grantiau yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur. 

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect ar unrhyw adeg resymol o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

Bydd ymweliadau â safleoedd canran o’r prosiectau a gymeradwywyd yn cael eu cynnal o fewn pum mlynedd ar ôl cwblhau’r prosiect (Dyddiad Diwedd y Prosiect) er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn parhau i fod yn berchen ar y cyfarpar a brynwyd gyda’r grant, a’i ddefnyddio, a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl. 

Un o ofynion y grant yw bod angen cadw’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant ar eich daliad, gan sicrhau ei fod yn gweithio ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau oes hir i’r prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect. 

Cadw cofnodion 

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

 Bydd gofyn ichi hefyd:

  • Roi unrhyw wybodaeth am eich Contract Grantiau Bach - Effeithlonrwydd i Lywodraeth Cymru a hynny’n brydlon yn unol â chais Llywodraeth Cymru amdani.
  • Gofalu bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am eich contract Grantiau Bach – Effeithlonrwydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld. Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Adran I: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio  

Nid oes sail dros apelio yn y cam Datgan Diddordeb.

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

 Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  •  Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.

Y drefn gwyno 

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

E-bost: complaints@gov.wales

Gwefan : Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan : Ombwdsmon (ar www.ombudsman.wales)

Adran J: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu o wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwyster efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw’ch manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol.
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Cardiff
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan : https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

 

Adran K: gofynion cyfreithiol

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod , yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (a elwir bellach yn ‘Gyfraith a Gymathwyd’) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd). 

Rhoddir cyfraith a gymathwyd yr UE ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • meithrin cystadleurwydd amaethyddiaeth;
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
  • sicrhau cadernid rhag yr hinsawdd;
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol i’r Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd;
  • arloesi
  • yr amgylchedd 
    • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd 

Fel rhan o’r cais, gofynnir i chi ddisgrifio sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.

Hefyd, bydd y Cynllun yn gofyn i ymgeiswyr nodi sut y bydd eu prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol 
  • Y Gymraeg 

Yn ogystal, bydd ceisiadau i’r Cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru. 

Bydd gweithgareddau yn berthnasol i o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn 

amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig;

  1. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a

hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli

coedwigoedd;

  1. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes

amaethyddiaeth;

  1. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  2. hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  3. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd

mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran L: cysylltiadau

Ymholiadau – y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid 

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig 

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. I gofrestru, ewch i hysbysiadau Llywodraeth Cymru  neu cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth.