Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cafcass Cymru yn croesawu'r cyfle i fod yn rhan o'r fenter a arweinir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yng Ngogledd Cymru sydd wedi'i anelu at wella profiad a chanlyniadau teuluoedd wedi gwahanu a'u plant.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cafcass Cymru yn croesawu'r cyfle i fod yn rhan o'r fenter a arweinir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yng Ngogledd Cymru sydd wedi'i anelu at wella profiad a chanlyniadau teuluoedd wedi gwahanu a'u plant yn y llys teulu.  Gan weithio gydag asiantaethau allweddol eraill, gan gynnwys y Farnwriaeth, gwasanaethau cymorth cam-drin domestig, yr awdurdodau lleol a'r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, bydd y cynllun peilot yn treialu'r dulliau newydd o helpu teuluoedd sydd wedi'u gwahanu ac sy'n dod o flaen y llys i gytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant. 

Bydd y cynllun peilot yn gweithredu argymhellion Panel Arbenigol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Niwed a llywydd Gweithgor Cyfraith Breifat yr Is-adran Deulu yn y llysoedd teulu. Bydd hyn yn cwmpasu'r holl geisiadau am drefniadau plant ac achosion cyfraith breifat benodol eraill a'r nod yw cyflawni'r canlynol:

  • Cydlynu ymateb yr holl asiantaethau sy'n rhan o'r achosion llys teulu er mwyn diwallu anghenion y plant a'u teuluoedd yn well.
  • Cyflwyno dull o ddatrys problemau sy'n rhoi'r plentyn wrth wraidd pob cam o broses y llys.
  • Darparu cymorth a chanlyniadau gwell a diogelach i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gan gam-drin domestig.
  • Lleihau nifer y weithiau y mae gorchmynion terfynol yn cael eu torri neu deuluoedd yn dychwelyd i'r llys drwy sicrhau bod proses y llys yn fwy effeithiol wrth ddiwallu eu hanghenion pan maent yn gwneud cais i'r llys am y tro cyntaf.
  • Lleihau amser achosion llys er mwyn atal unrhyw effaith negyddol y gallai hynny ei gael ar deuluoedd.

Mae'r dull newydd hefyd yn cael ei dreialu am ddwy flynedd yn Dorset yn Lloegr a bydd yn cael ei adolygu yn y cyfnod hwnnw i helpu i ddeall a yw'r dull newydd yn gwella canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd.

Dywedodd Nigel Brown, Prif Weithredwr Cafcass Cymru:

"Rwy'n falch iawn bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cytuno i dreialu'r dull newydd cyffrous hwn yng Nghymru, gan nodi y bydd y dull hwn hefyd yn cael ei dreialu yn Dorset yn Lloegr. Bydd y cynllun peilot yn treialu ffyrdd newydd o weithio a bydd yn rhoi diogelwch y plentyn yn gyntaf wrth geisio lleihau nifer y gwrandawiadau llys cyn bod y llys yn gwneud ei benderfyniad terfynol.  Mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo’n angerddol i chwarae rhan mewn sicrhau bod y cynllun peilot hwn yn llwyddiant a helpu i roi plant a'u teuluoedd wrth galon y dull hwn."