Neidio i'r prif gynnwy

Y strategaeth ‘Geiriau’n Galw - Rhifau’n Cyfri’ yw ein strategaeth i wella llythrennedd a rhifedd yng Nghymru.

Dyma’r ail strategaeth sgiliau sylfaenol ar gyfer Cymru a chaiff ei darparu gan ‘Sgiliau Sylfaenol Cymru’.

Fel rhan o’n gwaith o fewn ysgolion, rydym wedi bod yn gweithio gyda ‘Cynnal’ (gwasanaeth cynghori ar gyfer awdurdodau Gwynedd a Môn) er mwyn llunio adnodd Llythrennedd Ariannol i’w ddefnyddio o fewn y Fframwaith ABCh. Mae’r adnodd hwn ar gael ar ffurf CD ROM ac mae’n targedu dysgwyr sydd â sgiliau sylfaenol sy’n is na lefel 1, yng Nghyfnod Allweddol 4.

Rydym yn credu bod yr adnodd yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd a sgiliau ariannol yr unigolion hynny fydd yn gadael byd addysg prif ffrwd maes o law ac sydd ar fin dechrau gweithio neu dderbyn addysg bellach.

Adroddiadau

Llythrennedd ariannol yn y fframwaith ABCh , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 201 KB

PDF
201 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.