Neidio i'r prif gynnwy

Emyr George
Prif Weithredwr
Adnodd Cyfyngedig

Annwyl Emyr, 

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau Adnodd yng Nghymru: 2025 i 2026

A Senedd Cymru bellach wedi cymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025 i 2026, mae’n bleser gennyf ddarparu manylion eich trefniadau cyllid.

Y setliad cyllido ar gyfer Adnodd yn 2025 i 2026 fydd £4,502,500. Mae'r dyfarniad cyllid yn seiliedig ar setliad Cymorth Grant ariannol y gellir ei hawlio gan Lywodraeth Cymru ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026. 

Yn 2024 i 2025, sefydlwyd grwpiau strategol a gweithredol o fewn Grŵp Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg i weithio gydag Adnodd a’i gefnogi i gyflawni ei brif amcan o sicrhau adnoddau addysg dwyieithog er mwyn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau. Gallai hyn arwain at ymrwymiad i gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Telerau ac Amodau’r Cyllid 

Disgwylir y bydd defnydd Adnodd o'r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer 2025 i 2026 yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2023 i 2026, fel y nodir yn eich llythyr cylch gwaith. Mae'r llythyr cylch gwaith a'r ddogfen fframwaith a ddyroddwyd i Adnodd yn nodi amrywiol ofynion gweithredol ac yn cyfeirio at ganllawiau a pholisïau'r Llywodraeth y mae angen i Adnodd gydymffurfio â hwy, yn ogystal â'i ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau ei hun fel sefydliad cyhoeddus yng Nghymru. 

Blaenoriaethau strategol Adnodd 

  1. Datblygu Amcanion Corfforaethol Adnodd.
  2. Sicrhau bod adnoddau perthnasol, amserol a deunyddiau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ar yr un pryd, i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau.
  3. Darparu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chynhyrchu adnoddau, gan sicrhau bod adnoddau a ddatblygwyd yn cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion craidd Cwricwlwm i Gymru ac yn addas i'r diben.
  4. Datblygu'r hyrwyddo, yr ymwybyddiaeth a'r defnydd effeithiol o adnoddau.
  5. Datblygu a buddsoddi mewn sgiliau a’r gallu i greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru.

Amcanion Corfforaethol

Yn dilyn cylch recriwtio cychwynnol llwyddiannus, rwy'n fodlon bod Adnodd eisoes wedi dechrau cyflawni ei genhadaeth graidd o oruchwylio a chydlynu darpariaeth adnoddau addysgol o ansawdd uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg i gefnogi addysgu a dysgu’r Cwricwlwm i Gymru. Eleni, rwy'n disgwyl i Adnodd gyhoeddi ei strategaeth a chyrraedd ei allu gweithredol llawn. Disgwylir y bydd Adnodd yn parhau i sicrhau llywodraethiant a gwasanaethau corfforaethol effeithiol, yn ogystal â chynnal gwefan gorfforaethol. 

Deall anghenion y system

Fel rhan o waith Adnodd yn datblygu a chyhoeddi ei strategaeth yn 2025 i 2026, mae angen golwg fwy cyfannol a strategol ar adnoddau a deunyddiau ategol ledled Cymru wrth symud ymlaen. Bydd yn allweddol parhau i nodi pa adnoddau perthnasol sydd eisoes ar gael, sut y cânt eu defnyddio, beth y gellir ei addasu neu ei ddiweddaru a beth sydd angen ei gomisiynu i fynd i'r afael â meysydd blaenoriaeth. Fel sefydliad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac a arweinir gan dystiolaeth, bydd yn hanfodol i Adnodd barhau i adeiladu ar y dystiolaeth sydd ganddo o anghenion defnyddwyr, adnoddau presennol a dulliau gweithredu newydd, a hynny mewn partneriaeth â rhanddeiliaid addysg eraill. 

Meysydd blaenoriaeth

Gan gydnabod y posibilrwydd y bydd gwahanol anghenion yn dibynnu ar natur a chyfrwng iaith ysgolion, ymarferwyr a dysgwyr ledled Cymru, rwy’n disgwyl ffocws penodol ar lythrennedd, rhifedd, crefydd, gwerthoedd a moeseg, ac iechyd a lles yn 2025 i 2026. Gellid ehangu hyn i gwmpasu meysydd eraill o'r Cwricwlwm i Gymru yn 2026 i 2027 a thu hwnt. 

Parhad comisiynau 2024 i 2025 a chomisiynau a ariennir yn 2025 i 2026

Oherwydd natur comisiynu adnoddau, nid yw prosiectau bob amser yn cael eu cwblhau o fewn un flwyddyn ariannol a gallent bara dwy flynedd neu ragor. Wrth i'r cyfnod trosiannol hwn barhau i 2025 i 2026, bydd grantiau a chontractau a reolwyd cyn hyn gan Lywodraeth Cymru yn trosglwyddo i Adnodd i'w parhau neu eu cwblhau. Mae hyn yn sicrhau parhad yn y ddarpariaeth wrth i Adnodd ystyried sut y gellid cyflawni nodau'r rhaglenni yn y dyfodol. 

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026, dylai Adnodd:

  • gwblhau prosiect Rhyngom ar gyfer llyfrau sy'n seiliedig ar amrywiaeth i helpu i ddatblygu empathi mewn dysgwyr, gan weithio â Chyngor Llyfrau Cymru
  • parhau i ariannu’r map rhyngweithiol i gefnogi dysgu am hanesion cymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gan weithio gydag Atebol
  • parhau i ariannu grant BookTrust Cymru i ddarparu adnoddau darllen ar gyfer y blynyddoedd cynnar, oed cynradd a phlant sy'n derbyn gofal, wrth adolygu sut y gellid cyflawni nodau'r grant hwn o 2026 i 2027 ymlaen
  • gweithio â Chyngor Llyfrau Cymru i barhau i gyflwyno teitlau stori sydyn newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • datblygu cynllun darllen dan arweiniad yn y Gymraeg i gefnogi dysgwyr ADY rhwng 7 a 12 oed, gan weithio â Chyngor Llyfrau Cymru i gyflawni’r cynllun yn 2026 i 2027
  • parhau i gefnogi'r gwaith o addasu adnoddau Cwricwlwm i Gymru i fod yn hygyrch i ddysgwyr sy'n ddall neu’n gweld yn rhannol, gan gynnwys dysgwyr hŷn yn eu harddegau
  • darparu cefnogaeth i brosiect TANIO, gan weithio gydag Ysgol Eirias i gynnal y platfform gwyddoniaeth uwchradd dwyieithog ar gyfer y flwyddyn i ddod, wrth adolygu'r ddarpariaeth o adnoddau gwyddoniaeth yn y dyfodol
  • parhau i ddatblygu adnoddau llinell amser Hanes Cymru, i’w cwblhau o ddechrau 2026 ymlaen
  • yn unol â’r ymrwymiad yng nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ddarparu adnoddau llesiant pwrpasol sy'n canolbwyntio ar anghenion y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, dechrau datblygu adnoddau sy'n cefnogi ysgolion yn eu Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â Llesiant Emosiynol a Meddyliol a threfniadau cwricwlwm
  • cefnogi'r gwaith blynyddol o ddatblygu adnoddau dwyieithog yng nghyd-destun Cymru sydd wedi'u halinio â themâu wythnos gwrth-fwlio, gan weithio gyda'r Gynghrair Gwrth-fwlio
  • gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ddatblygiad parhaus darpariaeth Gymraeg alwedigaethol ôl-16
  • cwblhau gwaith i sicrhau adnoddau ategol ar gyfer y pynciau TGAU (Ton 1) newydd cyntaf

Meysydd blaenoriaeth eraill i'w hystyried o fewn y cynnig ariannu presennol

Mae'r meysydd diddordeb canlynol wedi'u nodi i'w hystyried ymhellach a’u datblygu o bosibl yn 2025 i 2026:

  • Darparu offer rhifedd yn Gymraeg.
  • Ymgorffori rhifedd ym meysydd eraill y cwricwlwm.
  • Deunyddiau i helpu ymarferwyr (a dysgwyr) i ddeall elfennau sylfaenol llythrennedd.
  • Deunyddiau i gefnogi ymgorfforiad llythrennedd ar draws meysydd dysgu a phrofiad fel sgil drawsgwricwlaidd.
  • Adnoddau ar gyfer trochi hwyr yn y Gymraeg (ar gyfer dysgwyr oed ysgol uwchradd yn enwedig).
  • Cefnogi adfywio adnoddau sy'n ymwneud ag undebau a'r byd gwaith, gan weithio gyda'r TUC.

Cynigion yn ystod y flwyddyn

Yn ogystal, ac i'w hystyried yn ystod y flwyddyn, yn ystod tymor yr haf byddwn yn croesawu ystyriaethau Adnodd o ran adolygu a gwneud cynigion wedi’u costio ar gyfer cymorth TGAU pellach gyda phynciau 2026 (Ton 2) yn ogystal ag adnoddau atodol ar gyfer TGAU Ton 1 a Thon 2, ar y cyd â Cymwysterau Cymru a CBAC. Dylai hyn gynnwys y TGAU Hanes a Gwyddoniaeth newydd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Byddwn hefyd yn croesawu cynigion wedi'u costio ar gyfer darparu adnoddau ADY Cymraeg ychwanegol i’w gweithredu yn 2026 i 2027, gan gynnwys sut y gellid symud ymlaen â'r gwaith i ddigido'r cod Braille Cymraeg ar y cyd â phrosiectau technoleg eraill.

Mynediad teg at y Gymraeg 

Bydd Adnodd yn dymuno cynllunio rhywfaint o gapasiti i ymateb i'r angen parhaus am adnoddau cyfrwng Cymraeg mewn meysydd lle y mae diffyg amlwg, a lle y mae argaeledd deunydd Saesneg yn cael effaith. Mae hyn yn cynnwys y meysydd blaenoriaeth a nodir uchod. 

Arloesi

Yn unol â blaenoriaethau strategol Adnodd, rhan hanfodol o fodel gweithredu Adnodd fydd darparu cyllid cychwynnol i sbarduno ymarferwyr a chyflenwyr i gynhyrchu a datblygu syniadau ar gyfer adnoddau. Dylid neilltuo cyllid i sefydlu cronfa Arloesi fach i ddatblygu sgiliau a chapasiti wrth greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru.

Sicrhau Ansawdd

Dylid parhau’r gwaith a wnaed yn 2024 i 2025 i ddatblygu Fframwaith Sicrhau Ansawdd er mwyn sicrhau bod unrhyw adnoddau a ddatblygir yn cydweddu ag ethos ac egwyddorion craidd y Cwricwlwm i Gymru ac yn addas i'r diben. Dylai’r gwaith parhaus hwnnw gynnwys sefydlu cronfa o adolygwyr, arbenigwyr ac ymarferwyr a allai hefyd gyfrannu at adolygu a gwerthuso'r adnoddau presennol er mwyn helpu i lywio a chyfeirio cynlluniau comisiynu Adnodd.

Tîm Partneriaeth Adnodd

O 2025 i 2026, bydd tîm partneriaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei arwain gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm ac Asesu a'ch pwynt cyswllt arferol o fewn y tîm fydd y Pennaeth Cyflawni Polisi. Bydd cyfarfodydd gyda'ch tîm partneriaeth yn cael eu cynnal i gytuno ar drefniadau goruchwylio a monitro priodol. Bydd Tîm Partneriaeth Llywodraeth Cymru yn parhau i gwrdd yn rheolaidd â chydweithwyr o Adnodd fel y nodir yng Nghytundeb Fframwaith Adnodd. Dylid hawlio cyllid gan ddefnyddio'r dogfennau perthnasol a ddarperir gan y Tîm Partneriaeth.

Edrychaf ymlaen at weithio gydag Adnodd a dilyn eich cynnydd yn ystod y flwyddyn.

Yn gywir

Lynne Neagle AS/MS 
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg