Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford a  Fiona Hyslop, wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at yr Sajid Javid, yn mynegi eu pryderon ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog yn dilyn Ymadawiad y DU â'r UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y llythyr, mae'r ddau Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am sicrhau yr ymgynghorir yn llawn â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch y rheolau sy'n ymwneud â statws preswylydd sefydlog cyn eu cyhoeddi. Yn ogystal, maent yn gofyn am gyfarfod brys i drafod pryderon sydd heb eu datrys ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog ar gyfer dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn dilyn Ymadawiad y DU â'r UE.

Mae'r llythyr cyfan i'w weld isod.

Annwyl Sajid

Rydym yn ysgrifennu atoch i gyfleu ein pryderon difrifol ynghylch nifer o faterion yn ymwneud â mewnfudo sy'n achosi cryn ansicrwydd yng Nghymru a'r Alban. Er bod mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl, mae gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ddiddordeb amlwg yn y ffordd y mae'r system fewnfudo yn gweithio, o ystyried cyfraniad gwerthfawr mewnfudwyr i'n heconomïau, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau.

Rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau helaeth â dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yng Nghymru a'r Alban ers canlyniad refferendwm yr UE, a thema amlwg ym mhob un o'r trafodaethau hynny oedd y dymuniad i gael eglurder ynghylch y Cynllun Statws Preswylydd Sefydlog. Mae'n bosibl bod niferoedd sylweddol o bobl yn wynebu risg o golli eu statws preswylydd sefydlog yn syml oherwydd nad ydynt yn gallu, neu nad ydynt yn ymwybodol y gallant ymgeisio am y statws hwn, a bod angen iddynt wneud hynny. Mae'r diffyg manylion parhaus yn fater difrifol i'r ddwy Lywodraeth, ac mae'n amlwg o bryder mawr i ddinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd, yn gwbl ddealladwy, yn bryderus ynghylch sut y bydd Brexit yn effeithio ar eu dyfodol nhw a dyfodol eu teuluoedd.

Rydym yn deall bod ein swyddogion, ynghyd â chynrychiolwyr o lywodraeth leol, yn rhan o gyfarfodydd y Swyddfa Gartref i sicrhau bod dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cael gwybodaeth am y Cynllun Statws Preswylydd Sefydlog, ac i sicrhau bod y Cynllun hwn yn hygyrch i'r holl ymgeiswyr. Yn y cyfarfodydd sydd wedi'u cynnal hyd yma, fodd bynnag, mae diffyg manylion difrifol ynghylch unrhyw strategaeth gyfathrebu, ymgysylltu neu allgymorth trosfwaol i gefnogi'r Cynllun. Nid oes gwybodaeth fanwl ychwaith wedi'i chynnwys am unrhyw gynlluniau a allai fodoli ai peidio i ddarparu cymorth ymarferol i'r rheini yng Nghymru a'r Alban a allai wynebu anawsterau wrth ymgeisio, megis y Gwasanaeth Digidol â Chymorth.

Hoffem hefyd eich atgoffa bod y cyfrifoldeb cyffredinol dros bolisi, strategaeth a chyllido llywodraeth leol yng Nghymru a'r Alban wedi'i ddatganoli. Mae'n gwbl annerbyniol i'ch Adran ystyried gosod cyfrifoldebau ychwanegol ar lywodraeth leol heb gynnal ymgynghoriad a thrafodaethau rhynglywodraethol priodol. Mae hefyd yn annerbyniol i ymgysylltu â llywodraeth leol ar swyddogaethau sy'n gwbl ddatganoledig heb gysylltu â'ch Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn gyntaf. Gan fod hwn yn faich newydd, ein disgwyliad clir yw y dylai Llywodraeth y DU ariannu'n llawn gostau unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol arfaethedig, ac y dylid cynnal ymgynghoriad llawn â ni a'n partneriaid mewn llywodraeth leol i bennu'r costau hynny a chytuno arnynt.

Rydym yn bryderus ynghylch y diffyg eglurder yn ymwneud â rôl ddisgwyliedig llywodraeth leol mewn cysylltiad â’r Cynllun Statws Preswylydd Sefydlog, o ran rhoi gwybod i ddinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd am y cynllun, ac o ran eu cefnogi drwy'r broses ymgeisio. Mae angen canllawiau a negeseuon clir ar awdurdodau lleol ynghylch yr hyn sydd i'w ddisgwyl ganddynt, gan gynnwys eglurder ynghylch yr adnoddau a fydd ar gael i'r awdurdodau i gefnogi unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol. Rydym yn eich annog yn gryf i wella eich trefniadau ymgysylltu â llywodraeth leol ar lefel wleidyddol ac ymysg y swyddogion wrth weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban i sicrhau y caiff y diffyg eglurder hwn ei unioni. Mae hefyd angen ymgysylltu'n ystyrlon â'r Trydydd Sector yn y gwaith hwn, a hoffem ofyn i'ch Adran gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb â'r rhanddeiliaid hyn yng Nghymru a'r Alban.

Rydym yn deall bod Llywodraeth y DU yn bwriadu darparu rhagor o fanylion am y Cynllun cyn yr haf, gan gynnwys rheolau drafft ar fewnfudo, a hoffem ofyn am weld y rhain ymlaen llaw, ynghyd â chael cadarnhad y bydd y Gweinyddiaethau Datganoledig yn rhan o ymgynghoriad ystyrlon ar y cynnwys cyn eu cyhoeddi.

Os yw Llywodraeth y DU am gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, llywodraethau lleol Cymru a'r Alban a'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ar gyfer y broses Statws Preswylydd Sefydlog, yna mae angen eglurhad arnom am y broses honno, y gofyniad ar lywodraeth leol a’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ynghyd â'r cymorth a fydd yn cael ei roi i ddinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn y ddwy wlad.

Yn olaf, rydym yn dal yn bryderus nad ydym eto wedi gweld unrhyw fanylion am y Bil Mewnfudo na’r Papur Gwyn sydd wedi'i ddal yn ôl cyhyd. Mae'r oedi hwn yn ymestyn yr ansicrwydd dros fwriad Llywodraeth y DU mewn perthynas â phobl yn dod i'r DU ar ôl y cyfnod pontio. Mae hyn yn ychwanegu at yr ansicrwydd i unigolion ynghyd â'n pryder ynghylch yr effaith ar ein heconomïau a'n gwasanaethau cyhoeddus.

Oherwydd y diffyg ymgysylltu ystyrlon â'n llywodraethau hyd yn hyn, gobeithiwn y bydd y pryderon a'r ceisiadau hyn yn cael eu hystyried o ddifrif ac y byddwch yn ymateb iddynt ar fyrder.

Rydym yn anfon copi o'r llythyr hwn at David Sterling, Pennaeth Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Fiona Hyslop MSP
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant,
Twristiaeth a Materion Allanol
Cabinet Secretary for Culture,
Tourism and External Affairs

Mark Drakeford AC/AM
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Cabinet Secretary for Finance