Cynhelir yr Arolwg Pobl Gwasanaeth Sifil gyda thua 100 sefydliad ledled y DU, a’i nod yw i fesur ymgysylltiad gweithwyr a boddhâd staff rhwng 12 Medi a 8 Hydref 2024.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Pobl Llywodraeth Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae’r arolwg yn holi barn staff am eu profiad o weithio yn Llywodraeth Cymru, sy’n ein helpu i ddeall beth y mae angen inni ei wneud i sicrhau bod y sefydliad yn lle gwych i weithio ynddo ac i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl a chymunedau Cymru.
Cyhoeddir y canlyniadau llawn gan Swyddfa’r Cabinet.
