Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda'r cwmni deallusrwydd artiffisial sofran Cosine i helpu i wella sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio yn Gymraeg.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd â Cosine i helpu i wella sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio yn Gymraeg.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu data, adnoddau ac arbenigedd i gefnogi deallusrwydd artiffisial Cymraeg.
- Nod hyn yw gwella technoleg i helpu mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu data, adnoddau ac arbenigedd i helpu i wella sut mae model Lumen AI Cosine yn deall ac yn prosesu'r Gymraeg.
Mae'r bartneriaeth yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr oes ddigidol, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.
Mae hefyd yn cefnogi gwaith y llywodraeth i sicrhau bod technolegau newydd yn cydnabod, deall a chefnogi dwyieithrwydd, gan adlewyrchu sut mae cymunedau amlieithog ledled y byd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial bob dydd.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cosine, Alistair Pullen:
"Mae'r Gymraeg yn rhan hanfodol o gynfas ieithyddol y Deyrnas Unedig. Mae'r gwaith hwn gyda Llywodraeth Cymru yn ein helpu i adeiladu sylfaen gryfach i Lumen, a rhoi gwell cynrychiolaeth o'r ieithoedd a'r cyd-destun cyhoeddus sy'n bwysig ledled y Deyrnas Unedig."
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:
"Mae'r Gymraeg yn perthyn inni i gyd. Mae'n rhan o'n hunaniaeth fel cenedl. Rydym am greu mwy o gyfleoedd i bobl ei ddefnyddio ym mhob agwedd ar fywyd.
"Mae'n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei chynrychioli'n llawn yn y technolegau y mae pobl yn eu defnyddio i gael gafael ar wybodaeth, dysgu, gweithio a chyfathrebu. Mae'r bartneriaeth newydd hon yn helpu i gryfhau gallu'r Gymraeg mewn deallusrwydd artiffisial, gan greu mwy o gyfleoedd i bawb ddefnyddio'u Cymraeg yn hyderus bob dydd a chefnogi dyfodol yr iaith yn yr oes ddigidol sydd ohoni."
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
"Mae potensial yma i ddeallusrwydd artiffisial ddod â manteision gwirioneddol i'n heconomi, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau. Drwy gydweithio â chwmnïau deallusrwydd artiffisial sofran fel Cosine, gallwn helpu i feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a'r gallu sydd eu hangen ar Gymru i wneud y gorau o'r technolegau hyn, a hynny wrth gefnogi arloesedd sy'n adlewyrchu ein blaenoriaethau cenedlaethol.
"Bydd hyn yn helpu i gryfhau sefyllfa hirdymor Cymru ym maes deallusrwydd artiffisial, ac mae hyn yn arbennig o bwysig i'r iaith Gymraeg, gan helpu i sicrhau bod technolegau newydd yn gweithio i bobl yn yr iaith y maent yn ei dewis."
