Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi dros £12.5m o gyllid cyfalaf newydd i wella adeiladau ysgolion a cholegau trwy Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y pecyn cyllido yn cynnwys £2.56m i dalu am gostau'r gwaith adfer ym mhob ysgol lle mae concrit awyredig awtoclafedig cyfnerth (RAAC) wedi'i ganfod.

Bydd £10m pellach ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf cynnal a chadw ar raddfa fawr i ganolbwyntio ar fesurau arbed ynni. Mae hyn yn cynnwys ailosod toeau, ffenestri, gwaith gwresogi ac awyru a systemau trydanol.

Dim ond pum ysgol yng Nghymru sydd wedi cael eu henwi fel rhai sydd wedi eu heffeithio gan RAAC, sef Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi ar Ynys Môn; Ysgol Maes Owen yng Nghonwy; Ysgol Trefnant yn Sir Ddinbych ac Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd, a hynny o gymharu â mwy na 230 o achosion yn Lloegr a 39 o achosion yn yr Alban. Mae pob ysgol yng Nghymru ar agor i ddisgyblion.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

Mae'r ffaith bod cyn lleied o achosion o RAAC wedi'u canfod yn ein hystâd addysg yn dyst i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ysgolion dros nifer o flynyddoedd, trwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac yn ehangach.

Rwy' am sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cyflawni ei botensial, a bod eu haddysg yn cael ei darparu mewn amgylcheddau sy'n addas i'r diben. Bydd y pecyn cyllido cyfalaf rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn galluogi awdurdodau lleol a cholegau i wneud gwaith cynnal a chadw i sicrhau bod yr ystâd addysg yng Nghymru yn ddiogel ac yn effeithlon.

Mae awdurdodau lleol sydd ag ysgolion sydd wedi'u heffeithio gan RAAC wedi croesawu'r cyllid o £2.56m i dalu am y costau adfer.

Dywedodd Arweinydd Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi:

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid yma sydd wir ei angen ac am y gefnogaeth ragweithiol gafwyd wrth i ni ymateb i’r argyfwng RAAC.

Mae’r misoedd diwethaf yma wedi bod yn anodd iawn i’r ysgolion sydd wedi eu heffeithio, Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Mae gwaith trwsio sylweddol eisoes wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod y ddwy ysgol wedi gallu croesawu disgyblion yn ôl i’w hadeiladau ar gyfer addysg wyneb yn wyneb.

Hoffwn ddiolch i holl staff, disgyblion a rhieni a gwarcheidwaid yr ysgolion hynny am eu hamynedd, eu cydweithrediad a’u cefnogaeth yn ystod cyfnod heriol iawn. 

Mae gwaith pellach angen ei wneud ac mae’n bwysig bod hynny’n digwydd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod holl ardaloedd o fewn adeiladau’r ysgolion yn ddiogel i’w defnyddio. Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn ein galluogi ni i gwblhau’r gwaith yma a chwrdd â chostau eraill yn gysylltiedig â RAAC, heb orfod defnyddio ein harian wrth gefn prin ein hunain.