Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi ei fod am adolygu’r rhwydwaith o gyfleusterau chwaraeon er mwyn sicrhau y gall Cymru groesawu digwyddiadau mawr yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ond dywedodd hefyd fod Cabinet Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, ar ôl ystyried astudiaeth fanwl a’r ansicrwydd ariannol presennol, nad yw mewn sefyllfa i gynnig am gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026. 

Meddai Ken Skates: 

“Fel Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am ddigwyddiadau mawr a chwaraeon elite, rwy’n benderfynol o gryfhau enw da Cymru fel cenedl fawr yn y myd chwaraeon a sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosib i gynnal digwyddiadau mawr ym myd y campau. 

“Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â Gemau’r Gymanwlad Cymru, Chwaraeon Cymru ac eraill wedi gweithio’n galed i ystyried ymarferoldeb cynnig am Gemau’r Gymanwlad 2026.

“Mae’r gwaith hwnnw wedi cynnwys cloriannu manteision, buddiannau, risgiau, heriau a chostau gwneud cynnig o’r fath, yn ogystal ag ystyried amrywiaeth o fodelau ar gyfer cynnal y Gemau. Y model roedd Llywodraeth Cymru’n ei ffafrio oedd y cynnig ‘Cymru gyfan’ a fyddai wedi dod â buddiannau’r Gemau i Gymru gyfan. 

“Rydym bellach wedi ystyried yr astudiaeth, sy’n nodi y gallai’r cynnig Cymru gyfan gostio rhwng £1.32bn a £1.54bn. 

“Byddai’r costau hynny’n golygu ymrwymiad ariannol ychwanegol anferth i Lywodraeth Cymru dros dymor tri Chynulliad. 

“O gofio’r costau mawr, y ddealltwriaeth y byddai Cymru gyfan yn llai tebygol o gael ei gefnogi a’r ansicrwydd ariannol yn sgil y bleidlais i adael yr UE, rydym wedi penderfynu’n anfoddog na fyddai’n ymarferol cynnig i gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026. 

“Hoffwn bwysleisio nad aiff y gwaith rydym wedi’i wneud yn ofer.  Mae wedi dangos inni fod angen cynnal adolygiad o’r cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru gyda golwg ar gynyddu’r amrywiaeth sydd o safon byd.  Daw’r cyfleusterau hynny  â budd i’r gymuned leol ac i’r athletwr mwyaf dawnus fel ei gilydd, gan wella hefyd ein capasiti i gynnal digwyddiadau mawr. 

“Rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion y wlad a byddaf yn gweithio gyda’r Gweinidog Iechyd ar strategaeth i roi hynny ar waith yn y tymor hir. 

"Mae gennym ddigwyddiadau mawr ym myd y campau i ddisgwyl ymlaen atyn nhw, gyda ffeinal Champions League UEFA yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd flwyddyn nesaf a Râs Gefnforol Volvo yn dod i Gymru yn 2018.  Byddwn yn dal i geisio denu digwyddiadau mawr ym maes chwaraeon a diwylliant i Gymru. 

“Hoffwn ddiolch i Gemau’r Gymanwlad Cymru am eu holl waith ac i Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad am eu hymateb positif i’r modelau darparu rhanbarthol unigryw y gwnaethom eu hystyried.  Mae’n dal i fod yn uchelgais gennym gynnal Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol a byddwn yn trafod opsiynau darparu hyblyg ar gyfer y dyfodol.” 

Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru:

“Wrth reswm, rydyn ni’n siomedig clywed penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnig i gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026 yng Nghymru.  Ond o gofio’r sefyllfa economaidd ansicr, rydyn ni’n deall yn iawn eu rhesymau pam. 

“Rydyn ni wedi cydweithio’n glos dros y blynyddoedd diwethaf â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar ymarferoldeb cynnig am Gemau 2026.  Rydyn ni hefyd wedi cydweithio â theulu Gemau’r Gymanwlad a bu llawer o gynnwrf ynghylch ein cynigion blaengar. 

“Cafodd llawer o waith caled ei wneud i baratoi adolygiad manwl a chynhwysfawr o ymarferoldeb yr hyn a fyddai wedi bod yn gynnig cryf.  Er y drafodaeth honno, gobeithio y bydd rhai o’r manteision y byddai’r cynnig wedi esgor arnyn nhw ar gyfer Cymru gyfan yn dal yn bosib o dan weledigaeth “Cymru Egnïol” ac y caiff y gwaith a wnaed ei ddefnyddio i helpu i baratoi cynnig yn y dyfodol. 

“Mae athletwyr Cymru wedi bod yn gefnogwyr brwd i’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud a rhaid inni nawr roi ein sylw llwyr i sicrhau fod gennym safonau dewis cadarn a’n bod yn penodi timau cymorth ardderchog i greu’r amodau gorau i sicrhau perfformiadau o safon byd yng Ngemau’r Gold Coast yn 2018.”