Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £660,000 mewn ymchwil a datblygu arloesol i helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru
Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi y bydd £666,327 o Gyllid Grant Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru ar gael i Tata Steel i helpu’r cwmni ddatblygu cynnyrch dur arloesol cryfach ar ei safleoedd ym Mhort Talbot a Llanwern.
Mae’r cyllid grant yn ychwanegol i fuddsoddiad Tata eu hunain yn y prosiect dwy flynedd, a bydd yn galluogi’r cwmni i ddatblygu a phrofi mathau newydd o ddur sy’n perfformio’n well ac sydd â manylebau technegol gwell.
Bydd y buddsoddiad yn y prosiect yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i’r galw yn y farchnad fyd-eang am nwyddau dur newydd a gwell ar gyfer y sectorau moduro ac adeiladu, a bydd yn golygu y bydd Cymru yn fwy cystadleuol yn y dyfodol.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i gefnogi gweithwyr dur Cymru ac mae’r cynnig diweddaraf hwn yn dangos ein ymrwymiad parhaus i ddiogelu dyfodol hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.
“Bydd sicrhau bod mwy o waith ymchwil a datblygu yn digwydd yng Nghymru yn hollbwysig os ydym i fodloni’r galw yn y farchnad a sicrhau dyfodol hirdymor dur yng Nghymru.
“Nid yn unig bydd y cynnydd mewn ymchwil a datblygu yn golygu y gallwn ddatblygu cynnyrch newydd yma yng Nghymru, ond bydd hefyd yn ein gwneud yn fwy cystadleuol, yn helpu i leihau costau ac yn golygu bod modd inni leihau ein allyriadau carbon.
“Yn y pen draw, mae’n rhan o’n hymdrechion parhaus i sicrhau dyfodol hirdymor ein gweithwyr dur, eu teuluoedd a’r diwydiant cyfan.”
Mae’r cytundeb ariannu diweddaraf hwn yn rhan o becyn ehangach o gymorth i Tata gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys £4 miliwn tuag at ddatblygu gweithgarwch datblygu sgiliau ar draws gweithrediadau Tata yng Nghymru, ac £8 miliwn arall yn ei weithfeydd ym Mhort Talbot, fydd yn lleihau costau ynni ac allyriadau carbon. Ar wahân i’r cyllid ar gyfer sgiliau, bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn amodol ar gytuno gyda Tata ar amodau cyfreithiol.