Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps tafladwy ac yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i godi'r oedran smygu a chyfyngu ar werthu fêps.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad pedair gwlad ‘Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc’ heddiw (dydd Llun 29 Ionawr).

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Rhagfyr, a daeth 27,921 o ymatebion i law, 1,018 ohonynt o Gymru.

Felly, bydd Llywodraeth y DU nawr yn cyflwyno Bil Tybaco a Fêps cyn gynted â phosibl a fydd yn cymryd camau i:

  • newid yr oedran gwerthu ar gyfer pob cynnyrch tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion smygu llysieuol fel na chaniateir gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un sydd wedi’i eni ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny (a’u gwahardd rhag prynu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon yn yr Alban yn ogystal) ochr yn ochr â gwahardd gwerthiant procsi, a newid hysbysiadau rhybuddio
  • cyflwyno pwerau rheoleiddio i gyfyngu ar flasau, mannau gwerthu a phecynnu ar gyfer cynhyrchion fepio (nicotin a heb nicotin) yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr
  • cyflwyno pwerau gorfodi newydd ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer tybaco a fêps (nicotin a heb nicotin) a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i weithredu gwaharddiad ar fêps tafladwy, gan gynnwys cynhyrchion nicotin a chynhyrchion heb nicotin, o ganlyniad i’r effaith sylweddol y maent yn ei chael ar yr amgylchedd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

Smygu yw’r prif beth sy’n achosi salwch ataliadwy a marwolaethau cyn pryd yng Nghymru.  Yn y Deyrnas Unedig, mae'n achosi chwarter o'r holl farwolaethau canser, ac yn gyfrifol am 80,000 o farwolaethau y gellir eu hatal bob blwyddyn, gyda 5,600 o’r rhain yng Nghymru.

Er y gall fêps fod yn ddefnyddiol i rai smygwyr i'w helpu i roi'r gorau i smygu, mae data'n dangos bod nifer y plant sy'n fepio wedi treblu yn ystod y tair blynedd diwethaf. Oherwydd eu bod yn cynnwys nicotin ac oherwydd nad yw’r niwed hirdymor y gallent ei achosi yn hysbys ar hyn o bryd, mae fêps yn peri risg o niwed i iechyd plant ynghyd â risg o ddibyniaeth.

Mae’r defnydd o fêps tafladwy hefyd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bellach mae bron i 5 miliwn yn cael eu taflu bob wythnos. Yn ogystal â bod yn wastraffus iawn oherwydd eu cydrannau anodd eu hailgylchu, gwyddom fod plant yn defnyddio fêps tafladwy, a phan fyddant yn cael eu taflu gallant ryddhau cemegion gwenwynig i’r amgylchedd.

Rydym am gymryd pob cam posibl i atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf, i atal fepio ymhlith pobl ifanc a mynd i’r afael â’r effaith y mae fêps tafladwy yn ei chael ar yr amgylchedd.

Rwy'n ddiolchgar i bawb o Gymru sydd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad hwn. Byddwn nawr yn cydweithio â'r gwledydd eraill ac yn cymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â'r niwed a achosir gan smygu a fepio ymhlith pobl ifanc ym mhob rhan o'r DU.