Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda Pride Cymru i weinyddu'r Gronfa Balchder Llawr Gwlad llwyddiannus ar gyfer 2025 i 2026, gan sicrhau bod cymunedau LHDTC+ mewn trefi a phentrefi ledled Cymru yn parhau i elwa ar ddathliadau lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw'r cyhoeddiad ar ddiwedd mis Balchder, a welodd ddathliadau yn cael eu cynnal ledled Cymru drwy gydol mis Mehefin.

Am y tair blynedd diwethaf, mae'r gronfa wedi helpu cymunedau i ddathlu digwyddiadau Balchder ar draws Cymru, gyda £38,250 ar gael yn y rownd ddiweddaraf o gyllid.

Roedd Balchder Aberhonddu yn un o nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Daeth y dathliad â channoedd o bobl o bob rhan o ganolbarth Cymru a thu hwnt at ei gilydd ar gyfer diwrnod o berfformiadau, stondinau cymunedol a gweithgareddau i'r teulu.

Dywedodd Cadeirydd Balchder Aberhonddu, Michael Price:

Mae digwyddiadau balchder fel Balchder Aberhonddu yn cael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar gymunedau gwledig fel ein cymuned ni. Maent yn creu mannau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u dathlu, ac yn rhoi hwb i ysbryd cymunedol ar draws y rhanbarth. Gyda'r gefnogaeth ariannol hon, rydyn ni wedi gallu cyrraedd mwy o bobl a chreu ymdeimlad cryfach o berthyn.

Er mwyn gwella'r broses o ddarparu'r gronfa a'i gwneud yn fwy ymatebol i anghenion Balchder lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu partneru â Pride Cymru i weinyddu'r gronfa ar eu rhan.

Dywedodd Cadeirydd Pride Cymru, Gian Molinu:

Mae wedi bod yn wych gweld twf y mudiad Balchder dros y blynyddoedd diwethaf. Allwch chi ddim bod yr hyn na allwch ei weld, felly mae wedi bod yn wych i bobl mewn trefi a phentrefi bach weld cymunedau amrywiol Cymru yn cael eu dathlu ar garreg eu drws. Trwy weinyddu'r gronfa, rydyn ni'n gobeithio cefnogi grwpiau Balchder lleol i gynnal digwyddiadau diogel o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfiawnder â'u cymuned.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

Gall y dathliadau hyn fod yn newid bywyd i gymunedau LHDTC+ ledled Cymru. I rai, efallai mai mynychu digwyddiad Balchder yw'r tro cyntaf iddynt deimlo eu bod wir yn cael eu derbyn. Mae pob digwyddiad Balchder, mawr neu fach, yn helpu i adeiladu Cymru lle gall pawb fyw yn agored ac yn falch.

Fel y digwyddiad Balchder mwyaf a mwyaf hirhoedlog yng Nghymru, mae Pride Cymru yn dod ag arbenigedd gwerthfawr i'r broses ariannu, a bydd yn sicrhau cefnogaeth wedi'i deilwra gan drefnwyr sydd â phrofiad uniongyrchol o gynnal digwyddiadau Balchder.