Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr OECD, sy'n cyhoeddi asesiadau blynyddol PISA a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn edrych ar y strategaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith ers adroddiad diwethaf OECD am Gymru...

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr OECD, sy'n cyhoeddi asesiadau blynyddol PISA a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn edrych ar y strategaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith ers adroddiad diwethaf OECD am Gymru yn 2014. Byddant yn cynnig barn am ba mor addas y mae'r strategaethau ac am y cynnydd a wnaed fel canlyniad iddynt.

Ar ddechrau mis Medi roedd yr Ysgrifennydd Addysg wedi teithio i gyfarfod ag Andreas Schleicher, Cyfarwyddwr Cyfarwyddiaeth Addysg a Sgiliau OECD i drafod y diwygiadau ym maes addysg yng Nghymru, a chytunwyd ar yr adolygiad newydd.

Dywedodd Kirsty Williams:

 “Rwy o blaid dilyn tystiolaeth ryngwladol. Dyna pam rwy wedi gofyn i'r OECD edrych ar ein diwygiadau a rhoi gwybod inni a ydyn ni ar y trywydd iawn ac a yw'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn briodol.

 “Ers dros ddegawd, mae'r OECD wedi bod ar flaen y gad yn darparu'r dystiolaeth ryngwladol orau sydd ar gael. Dyna pam ro'n i wedi manteisio ar y cyfle i ymweld â'u pencadlys ym mis Medi.

“Roedd fy nghyfarfodydd ag Andreas Schleicher ac eraill, wedi pwysleisio pam y mae'n hollbwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar roi sgiliau ystyrlon ar gyfer bywyd i'n pobl ifanc, gan gynnwys rhai digidol wrth gwrs.

“Dyw hi ddim yn ddigon da i gyfyngu ar ein huchelgeisiau drwy edrych ar yr hyn sy'n digwydd ar draws y ffin yn unig. Rhaid inni anelu at fod ymhlith y gorau yn y byd. Felly, pan gwrddais i â'r OECD, gofynnais iddynt roi gwybod imi a yw'r strategaethau iawn gyda ni ar waith erbyn hyn ers eu Hadolygiad yn 2014.

“Rhaid inni sicrhau bod gan bob un o'n disgyblion y sgiliau a'r wybodaeth, yr uchelgais, yr hyder a'r cymwysterau i lwyddo fel unigolion ac inni lwyddo fel cenedl. Efallai y bydd PISA yn achosi amrywiaeth barn, ond PISA yw'r meincnod ar gyfer sgiliau sy'n cael ei gydnabod yn ryngwladol.”