Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cael 84 o gerbydau gweithredol newydd, diolch i fuddsoddiad o £10.9M gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cerbydau newydd yn cael eu defnyddio yn lle hen gerbydau’r gwasanaeth. Bydd y modelau newydd yn helpu i leihau allyriadau, a bydd yn bosibl gwefru eu batris drwy baneli solar.

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, hefyd wedi cyhoeddi bod £1.6m yn rhagor wedi cael ei neilltuo ar gyfer ehangu’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) i weithredu bedair awr ar hugain, saith diwrnod yr wythnos, a sefydlu’r Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol. Mae hwn yn gyllid sy’n ychwanegol at yr £1.7m sydd wedi ei roi i’r gwasanaeth eisoes. Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu ar lefel genedlaethol i drosglwyddo oedolion sy’n ddifrifol wael.

Mae EMRTS yn darparu gofal critigol cyn i glaf gael ei dderbyn i’r ysbyty. Darperir y gofal hwn ar draws Cymru gan feddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol. Cafodd y gwasanaeth ei lansio ddiwedd Ebrill 2015, ac mae’n bartneriaeth rhwng yr elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Llywodraeth Cymru, a GIG Cymru.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ariannu tri ambiwlans gofal critigol arbenigol, a bydd cyllid yn cael ei fuddsoddiad mewn cyfarpar er mwyn i EMRTS allu ehangu ei wasanaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

Bu cynnydd anferth yn y galwadau am gymorth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oherwydd y pandemig COVID-19. Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn caniatáu i’r gwasanaeth uwchraddio ei ambiwlansys, er mwyn cynnig y gofal gorau posibl i bobl Cymru.

Hefyd, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod rhagor o gyllid wedi cael ei neilltuo ar gyfer sefydlu Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol newydd, ac ehangu gwasanaeth EMRTS i fod yn wasanaeth sy’n gweithredu bedair awr ar hugain, saith diwrnod yr wythnos, mewn partneriaeth ag elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Chris Turley, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

Mae’r ambiwlansys a’r ceir ymateb yng Nghymru ymysg y cerbydau sydd â’r cyfarpar gorau ym Mhrydain, a bydd y cyllid hwn yn caniatáu inni gael cerbydau newydd yn lle’r hen rai wrth iddyn nhw ddechrau cyrraedd diwedd eu hoes.

Mae’n rhaid cael ambiwlansys modern er mwyn inni allu parhau i ddarparu’r driniaeth a’r profiad gorau i’r claf. Hefyd, mae’n bwysig i’r staff sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u diwrnod gwaith allan yn y gymuned.

Mae’n bwysicach nag erioed cael cerbydau sy’n gallu cadw olwynion ein gwasanaeth i droi, ac rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth barhaus.

Dywedodd yr Athro David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS:

Mae’r cyllid wedi caniatáu inni ehangu ein darpariaeth gofal critigol i fod yn wasanaeth sy’n gweithredu bedair awr ar hugain, saith diwrnod yr wythnos. Mae hynny, gyda’n partneriaeth ag elusen Ambiwlans Awyr Cymru, wedi ein helpu i wella cydraddoldeb drwy fod mynediad cyflym at ofal o safon adran frys ar gael ym mhob rhan o’r wlad.  

Hefyd bydd y cyllid ar gyfer tri ambiwlans gofal critigol arbenigol yn rhoi’r gallu inni helpu ein cydweithwyr yn GIG Cymru, drwy ddefnyddio’r ffyrdd i drosglwyddo cleifion sy’n ddifrifol wael rhwng ysbytai.   

Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, sydd wedi caniatáu i’r gwasanaeth hwn dyfu a gwneud cyfraniad sylweddol i ofal critigol yng Nghymru.