Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi gwahodd porthladdoedd ledled Cymru i gyflwyno ceisiadau am gyfran o gyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu porthladdoedd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Gronfa Datblygu Porthladdoedd yn cefnogi twf porthladdoedd Cymru, gan helpu i sicrhau eu bod yn parhau i gyfrannu’n allweddol at dwf yr economi ac yn darparu cyfleoedd gwaith newydd yn y diwydiant. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae’n amlwg bod parhau i wella cysylltiadau o fewn Cymru ac â gweddill y byd yr un mor bwysig heddiw ag y bu erioed, ac mae ein porthladdoedd yn chwarae rôl bwysig yn hyn o beth. 

“Rydym eisiau gweld ein porthladdoedd yn parhau i gyfrannu ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol gan helpu i ysgogi economi fwy ffyniannus ac unedig i Gymru. Rwy wrth fy modd yn cael cyhoeddi’r gronfa newydd. Bydd ein porthladdoedd nawr yn cael cyflwyno cynigion ar gyfer y ffordd orau o ddefnyddio  arian cyhoeddus i gyflawni’r amcanion hyn. 

“Edrychaf ymlaen at weld y cynigion a pharau i gydweithio â phorthladdoedd ledled Cymru i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn amlwg, gan sicrhau eu bod yn barod i oresgyn unrhyw heriau a manteisio i’r eithaf ar bob cyfle.”