Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo dros £7 miliwn o gyllid buddsoddi fel rhan o fenter i helpu i Awdurdodau ddefnyddio ynni yn fwy effeithiol, lleihau allyriadau carbon ac arbed arian.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn derbyn £4.5 miliwn o gyllid drwy gynllun Buddsoddi i Arbed - Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru, gan ganiatáu i’r cyngor redeg ei barc solar ei hun ar dir y cyngor.  

Mae’n bosib i Fferm Solar Oak Grove yn Sir Fynwy gynhyrchu digon o drydan i ddarparu ynni i oddeutu 1,400 o dai.  Bydd hefyd yn arbed dros 2,000 tunnell o CO2e y flwyddyn drwy gynhyrchu ynni glan, adnewyddadwy.  

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn £3.13 miliwn ar gyfer prosiect uchelgeisiol i uwchraddio 11,000 o oleuadau stryd yn oleuadau LED, gan arbed oddeutu £360,000 y flwyddyn i’r awdurdod lleol.  

Bydd y newid hefyd yn golygu y bydd mwy o olau, ac yn lleihau nifer y namau sy’n digwydd ar y rhwydwaith bob blwyddyn, gan dorri costau cynnal a chadw o ganlyniad i hynny.  

Mae’r cyllid a gymeradwywyd yn dod â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru trwy ei menter Twf Gwyrdd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf i £14 miliwn.  Mae’r cyllid hwn yn helpu Awdurdodau Lleol i ddefnyddio ynni yn fwy effeithiol ac i arbed arian.  

Bydd yr incwm a’r arbedion sy’n cael eu creu gan Awdurdodau Lleol o’r prosiectau hefyd yn cael eu defnyddio i ad-dalu’r buddsoddiad, helpu prosiectau cymunedol lleol a sicrhau bod gan y cyngor incwm net.  

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwleidg, Lesley Griffiths:

“Trwy ein menter Twf Gwyrdd Cymru, rydym yn cefnogi datblygiad prosiectau i ddefnyddio ynni yn effeithiol a phrosiectau ynni adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus.  Rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gefnogi’r prosiectau uchelgeisiol hyn, fydd yn arbed arian sylweddol yn y dyfodol. Mae gan y proseictau hyn bosibiliadau enfawr a dylai pob corff cyhoeddus ddatblygu prosiectau twf gwyrdd fel hyn er mwyn gweld proses o ddatgarboneiddio yng Nghymru.”  

Meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:  

“Mewn cyfnod o leihau cyllidebau, mae angen i’r gwasanaethau cyhoeddus feddwl a gweithio yn wahanol.  Rwy’n falch iawn o weld y bydd y gronfa nid yn unig yn golygu y gall y cyngor arbed arian ond hefyd ddefnyddio ynni yn fwy effeithiol, a gwella lles cymunedau ledled y wlad.”