Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi cadarnhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae prosiect arloesol gwerth £9 miliwn i greu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru  wedi symud gryn dipyn yn nes at gael ei wireddu, ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau cymorth o £1 miliwn.  

Heddiw, cytunodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar ddiwygiadau i'r prosiect, a fu'n destun trafodaethau diweddar rhwng y Llyfrgell Genedlaethol, BBC Cymru Wales a Llywodraeth Cymru.  

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei chefnogaeth yn gyson ar gyfer uchelgais y Llyfrgell Genedlaethol i sefydlu archif ddarlledu genedlaethol.  Rwy'n gwerthfawrogi'r ymdrechion a wnaed dros yr wythnosau diwethaf i ddatrys y problemau a'r pryderon a oedd angen sylw, ac rwy'n falch iawn y gall y prosiect symud yn ei flaen."

Ychwanegodd Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas: 

“Rydym yn falch iawn  bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno i gefnogi’r prosiect arloesol hwn, sydd yn golygu y gallwn bellach gyflwyno ein cais terfynol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.  Fel cartref casgliadau helaeth o ddelweddau sain a delweddau symudol, a chyda deunydd gan ITV Cymru eisoes yn y Llyfrgell, rydym yn bwriadu diogelu'r ffynhonnell hanfodol hon o dreftadaeth ein cenedl ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu ein cynlluniau ac i BBC Cymru Wales am eu haelioni wrth roi'r archif i'r Llyfrgell."

Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: 

“Mae archif BBC Cymru yn gronicl cyfoethog o hanes y genedl ac rwy’n hynod falch o weld y prosiect cyffrous ac arloesol hwn yn symud i’r cam nesaf. Drwy weithio gyda’n partneriaid bydd yr Archif Ddarlledu Genedlaethol yn sicrhau bod trysorau’r gorffennol ar gael i bawb am flynyddoedd maith."

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Wales yn bwriadu datblygu cynllun uchelgeisiol i roi mynediad i'r cyhoedd i archif BBC Cymru mewn pedair canolfan dreftadaeth ddigidol, a leolir yn Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd. Yn ogystal, bydd 1,500 o glipiau digidol, gan gynnwys rhaglenni cyfan, ar gael ar-lein at ddefnydd y gymuned.

Mae'r archif, sydd â thua 180,000 o recordiau yn dyddio’n ôl i'r 1930au hwyr, yn gronicl unigryw a gwerthfawr o fywyd y genedl ar ôl yr ail ryfel byd. Mae hyn yn cynnwys Aberfan, streic y glowyr, brwydrau gwleidyddol dros ddatganoli, campau chwaraeon, ffilmiau a eitemau newyddion, sy’n cofnodi’r digwyddiadau allweddol ar gyfer pobl a lleoedd yn hanes Cymru.