Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi canmol Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru am eu hymateb i bandemig y coronafeirws yn ogystal â’r lefel uchel o arbenigedd sydd yn y gwasanaeth ar gyfer cynllunio a rheoli argyfyngau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn llythyr i holl staff y gwasanaethau tân, mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi diolch yn fawr iddynt am eu gwaith caled ac am roi lles pobl eraill yn gyntaf yn ystod y cyfnod hwn na welwyd mo’i debyg o’r blaen.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y llywodraeth yn cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddiogelu iechyd a diogelwch diffoddwyr tân a sicrhau bod rôl graidd y gwasanaeth yn cael ei chynnal yn ystod yr argyfwng, a’i bod wedi ymrwymo’n llwyr i hyn. Mae gwaith mewn partneriaeth â’r Prif Swyddogion a’r uwch-reolwyr i ddod o hyd i unrhyw broblemau a’u datrys yn parhau. 

Fel rhan o’r ymateb i’r coronafeirws, mae gwasanaethau tân wedi anfon unedau diheintio sy’n gallu dal nifer mawr o bobl i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni i wasanaethu fel canolfannau brysbennu dros dro. Bydd rhai diffoddwyr tân yn dechrau hyfforddi cyn hir i yrru ambiwlansys i helpu’r Gwasanaeth Ambiwlans i ymateb i ragor o alwadau.

Nid hwn yw’r tro cyntaf i’r gwasanaeth tân ymateb i’r her o ddefnyddio eu sgiliau a’u gallu unigryw ac eang i ymateb i’r argyfyngau. Roedd y rôl a chwaraeodd y diffoddwyr tân a staff y canolfannau rheoli tân yn ystod stormydd Ciara a Dennis yn gwbl hanfodol. 

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Hoffwn ddiolch o galon i bob aelod o Wasanaeth Tân ac Achub Cymru am ei wasanaeth. Mae gan ddiffoddwyr tân set sgiliau a gallu unigryw ac eang ac maen nhw’n gwbl haeddiannol o’r parch mawr sydd iddynt ymhlith aelodau’r cyhoedd.  

Mae gan ein gwasanaethau tân ac achub draddodiad hir a balch o ymateb a gweithio’n gyflym, ac yn effeithiol. Yn fwy na dim, maen nhw’n rhoi lles pob un arall yn gyntaf ar adeg argyfwng. Dydyn ni erioed wedi rhoi cymaint o brawf ar y traddodiad hwnnw ag rydyn ni’n ei wneud nawr.

Mae’r achosion o’r coronafeirws yn cynrychioli un o’r heriau mwyaf mae unrhyw un ohonon ni erioed wedi’i wynebu. Rydyn ni’n gwybod y bydd yna bwysau ychwanegol ar y gwasanaeth. Rydw i’n hyderus y bydd y gwasanaeth tân yn dal i wneud gwahaniaeth mawr wrth ymateb i’r pandemig yng Nghymru.