Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith dymchwel ar hen adeilad sydd wedi anharddu Harlech ers amser yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, gan sicrhau y gall y gwaith gael ei gwblhau yn gyflym er lles y gymuned a'r economi leol, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ddymchwel Gwesty Dewi Sant yn Harlech, sydd wedi bod yn wag am sawl blwyddyn. Bu pryderon yn y gymuned leol ynghylch effaith yr hen adeilad ar y gymuned a thwristiaeth yn ogystal â iechyd a diogelwch.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid wrth gefn hollbwysig o hyd at £30,000 i dalu am unrhyw gostau annisgwyl allai godi fel rhan o'r broses, gan sicrhau nad oes oedi a bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl.

Mae'r cyllid hwn ar ben cyllid mwy sylweddol o dros £300,000 a ddarparwyd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2018 gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn galluogi gwneud gwaith paratoadol pwysig ac arolygon, a bod modd talu costau'r dymchwel.

Cafodd y gwaith ei gefnogi yn Harlech oherwydd effaith negyddol y gwesty ar rinweddau arbennig y tirwedd yn yr ardal, sydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, yn ogystal â'r diwydiant twristiaeth.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Mae Harlech yn un o brif gyrchfannau y diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru, gyda'i draeth gwych, llwybr yr arfordir a'r castell byd-enwog. Mae hen Westy Dewi Sant wedi bod yn destun pryder yn y dref ers amser ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn eu gwaith o ddymchwel yr adeilad cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn hwb pellach i harddwch naturiol yr ardal.