Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn gwahodd cwmnïau a sefydliadau ymchwil i wneud cais i rannu cyllid i wneud y bwyd a’r diod sydd ar gael i blant yn fwy iach a hefyd yn rhatach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Erbyn iddynt gyrraedd 11 oed, mae mwy na 40% o blant yng Nghymru naill ai’n ordew neu dros eu pwysau. Dengys ymchwil fod y rhan helaeth o blant gordew yn tueddu i dyfu’n oedolion sy’n ordew.

Mae effaith gordewdra ar yr  economi yn sylweddol. Yn 2011, amcangyfrifwyd bod y GIG yng Nghymru wedi gwario £73 miliwn ar ordewdra yn unig, gyda rhwng £1.40 miliwn a £1.65 miliwn yn cael ei wario’n wythnosol ar drin afiechydon o ganlyniad i ordewdra.

Mae cwmnïau’n cael eu gwahodd i gyflwyno atebion sy’n canolbwyntio ar leihau lefelau’r halen, y siwgr a’r braster dirlawn yn ogystal â chynyddu lefelau’r fitaminau, y mwynau  a’r ffibr a roddir mewn bwyd a diod a ddarperir i blant.

Mae gan ysgolion ran allweddol i chwarae wrth ddarparu bwyd iachus a maethlon i blant. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn edrych am ffyrdd newydd i wella gwerth y maeth sydd mewn prydau ysgol a lleihau’r gost er mwyn sicrhau y gall teuluoedd fforddio’r opsiwn o brynu prydau ysgol.

Lansiwyd y gystadleuaeth yn y digwyddiad bwyd mawr cyntaf i’w gynnal yng Nghymru, sef Blas Cymru. Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru yn dod â chynrychiolwyr y diwydiant bwyd a diod ledled Cymru a phrynwyr dylanwadol byd-eang ynghyd.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:  

“Mae’r rhaglen hon yn galw ar arloeswyr ym maes bwyd yng Nghymru i ddod atom i helpu iechyd ein plant drwy ddarparu bwyd maethlon o ansawdd, sy’n rhad i’w wneud.  Gall y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ymfalchïo yn ei hanes o arloesi, o lansio cynnyrch newydd a chodi safonau. Rwy’n gofyn i chi nawr ddefnyddio’ch sgiliau, eich talent a’ch creadigrwydd er mwyn mynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf un – gwella deiet ein plant heddiw er mwyn eu galluogi i fod yn oedolion ifanc iach yn y dyfodol.”

Bydd y rheini sy’n cyflwyno’u syniadau ar gyfer yr arian yn dod o hyd i atebion arloesol megis y defnydd o dechnolegau prosesu newydd, technegau ail-lunio a galluogi, dyluniadau peirianneg newydd a phrosesau gweithgynhyrchu hyblyg er mwyn cadw’r costau’n isel.

Yn ogystal â gwella deiet plant disgwylir i’r rhaglen gael effeithiau llesol ehangach, fel arbed arian i ysgolion, hybu’r diwydiant bwyd yng Nghymru a gwneud mwy dros enw da’r diwydiant o ran ymchwil ac arloesi.

Darperir y cyllid drwy Fenter Ymchwil Busnesau Bach, gan Lywodraeth Cymru ac Innovative UK.