Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud datblygiadau mawr yn ei chynlluniau i sefydlu ail Ganolfan Gweithgynhyrchu ac Ymchwil Uwch yng Ngogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Gweinidog yr Economi yn cadarnhau, yn dilyn cyfarfod ag Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy ar 13 Gorffennaf, bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bwriad i weithio gyda’r Ardal Fenter a’r Weinyddiaeth Amaeth o dan arweiniad Defence Electronics and Components Agency’s (DECA) i ddatblygu cynnig a fyddai’n golygu y bydd ail AMRI Cymru ar dir y Weinyddiaeth Amddiffyn ger Cyfnewidfa Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.  

Mae ail AMRI Cymru yn dilyn y cyntaf ym Mrychdyn sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd ac sydd i agor erbyn diwedd 2019.  

Wrth siarad cyn ei ymweliad â Sioe Awyr Farnborough, dywedodd Ken Skates:

“Mae’r newyddion bod DECA yn awyddus i gydweithio gyda ni i ddatblygu AMRI ar Lannau Dyfrdwy yn bositif ac yn gyffrous iawn, yn enwedig o ystyried pa mor adnabyddus yw DECA fel arweinydd rhyngwladol profi a thrwsio gwasanaethau cynnal cydrannau afioneg ac electronig.

“Rwyf i ac Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn teimlo’n galonogol iawn bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cefnogi, mewn egwyddor, ddefnyddio darn o dir mor amlwg a hygyrch ger y porth i Ogledd Cymru ar gyfer y prosiect cyffrous hwn, ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi hyn wrth imi deithio i Farnborough i ddathlu sector awyrofod llwyddiannus Cymru.  

“Wrth ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer ail AMRI i Gymru, rydym wedi gwrando’n astud ar anghenion busnes.  O ganlyniad i’r drafodaeth honno rydym yn bwriadu datblygu’r ail AMRI fel canolfan mynediad agored, fydd yn cynnwys canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ar draws y sectorau gweithgynhyrchu a deunyddiau uwch a thechnoleg.  Rydym yn darparu popeth o brentisiaethau i waith ymchwil ôl-ddoethuriaeth a bydd yn werthfawr iawn i ogledd Cymru.  

“Rwy’n hyderus y bydd yr ail AMRI yng Nghymru o fudd mawr i gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys y sector awyrofod, ac rwy’n edrych ymlaen at ddenu buddsoddwyr mewnol gwerth uchel amlwg i’r rhanbarth, nifer ohonynt yn dangos diddordeb eisoes.”  

Meddai Geraint Spearing, Prif Weithredwr Defence Electronics & Components Agency cyn mynd i Sioe Awyr Farnborough, ble y mae DECA yn arddangos:

“Yn dilyn cyhoeddi fis Tachwedd 2016 y bydd DECA a’i phartneriaid yn y diwydiant BAE Systems a Northop Grumman yn dod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer trwsio cydrannau F-35, rwy’n falch iawn o allu cefnogi Llywodraeth Cymru mewn egwyddor ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, wrth ddatblygu eu cynlluniau arfaethedig am ail AMRI yn DECA.

“Rwyf hefyd yn hynod falch, pe byddai’r cynnig hwn yn mynd ymlaen, y byddwn yn gallu parhau gydag ymrwymiad DECA i ddatblygu prentisiaethau a sgiliau gweithgynhyrchu lefel uwch nawr ac yn y dyfodol, gan gynnal swyddi yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, strategaethau gweithgynhyrchu uwch a sgiliau Llywodraeth Cymru ac Agenda Llewyrch Llywodraeth y DU.”

Mae Ysgrifennydd yr Economi yn ymweld â Farnborough i gyfarfod y prif gwmnïau yn y Sector Awyrofod ac i ddathlu llwyddiannau y cwmnïau o Gymru.  

Tra y bydd yn y sioe bydd yn cyfarfod cynrychiolwyr o amrywiol gwmnïau a sefydliadau Awyrofod gan gynnwys Raytheon, Thales, Dennis Ferrati, Otto Fuchs a DECCA.

Bydd Ysgrifennydd yr Economi hefyd yn ymweld â Stondin Qatar Airways sydd wedi dechrau hedfan yn ddyddiol yn ddiweddar rhwng Caerdydd a Doha.

Bydd y rhain, yn ogystal â hediadau uniongyrchol o Fanceinion i Ogledd Cymru, yn creu cysylltiadau twristiaeth rhwng Cymru a marchnadoedd bywiog yn y Dwyrain Canol, Awstralia, Seland Newydd, Tsieina ac India.