Mae fersiwn ddrafft o'r ddeddfwriaeth a fydd yn gwahardd rasio milgwn yng Nghymru wedi ei chyhoeddi heddiw.
Eglurodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca Davies ei fod yn cyhoeddi fersiwn ddrafft y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) i roi cyfle i Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb weld y cwmpas a'r cyfeiriad arfaethedig cyn ei gyflwyno'n ffurfiol yn yr hydref.
Mae Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) yn ei gwneud yn drosedd gweithredu stadiwm neu leoliad tebyg yng Nghymru a'i ddefnyddio, neu gwybod eich bod yn caniatáu iddo gael ei ddefnyddio, i ‘rasio milgwn’.
Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud yn drosedd cymryd rhan mewn trefnu rasio milgwn yng Nghymru.
Mae'r gwaith o baratoi'r Bil yn parhau, ac mae'n debygol y bydd newidiadau cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Senedd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau'r Senedd ar ddarpariaethau'r Bil yn ystod y broses graffu ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno yn yr hydref."
Mae cyhoeddi'r Bil drafft heddiw yn dilyn cyflwyno grŵp gweithredu a gadarnhaodd Mr Irranca-Davies ym mis Gorffennaf.
Mae'r grŵp yn cael ei gadeirio gan Dr Emily Blackwell, Uwch Ddarlithydd mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn Ysgol Filfeddygol Bryste a bydd yn arwain y trawsnewidiad tuag at waharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru.
Mae'r grŵp yn cynnwys unigolion ymroddedig, sy'n cynrychioli sbectrwm eang o'r diwydiant rasio milgwn, iechyd a lles anifeiliaid, a sectorau cymdeithasol a chymunedol.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Rwyf am i Gymru gael ei chydnabod am ei safonau rhagorol o ran iechyd a lles anifeiliaid.
"Mae'r gwaharddiad yn un ffordd y gallwn weithio tuag at gyflawni'r nod hwnnw, ac mae gan y grŵp gweithredu rôl allweddol i'w chwarae.
"Bydd ei wybodaeth gyfunol yn ein helpu wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig hwn."
