Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Biliau newydd ar agenda blwyddyn olaf tymor y Senedd hon, gan ganolbwyntio ar gyfreithiau a fydd yn cyflawni i bobl Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pedwar Bil allweddol a fydd yn ceisio gwella safonau ledled Cymru. Maent yn cynnwys:

  • Mesurau newydd i gryfhau atebolrwydd Aelodau o’r Senedd.
  • Bil a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i lety ymwelwyr fodloni set berthnasol o safonau i helpu i roi hyder i ymwelwyr o ran eu diogelwch a gwella profiadau ymwelwyr, gan gynnal twristiaeth, rhan hanfodol o economi Cymru.
  • Deddfwriaeth i wahardd rasio milgwn.
  • Biliau cydgrynhoi i symleiddio cyfreithiau cynllunio, gan eu gwneud yn gliriach i bawb.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi datblygu Biliau sy’n cyflawni i Gymru, gan gynnwys pasio deddf i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal a chyflwyno Bil i wella gwasanaethau bysiau.

Cyflwynodd y Gweinidog Cyflawni, Julie James, y datganiad gerbron y Senedd. Dywedodd:

Bydd blwyddyn olaf ein rhaglen ddeddfwriaethol yn dangos bod Cymru yn barod i arwain a hynny drwy ein gwaharddiad ar rasio milgwn, mater y mae’r holl bleidiau yn ei gefnogi.

“Rydyn ni’n cyflwyno mesurau i gryfhau atebolrwydd Aelodau i’w hetholwyr, a bydd rheoleiddio llety ymwelwyr yn rhoi hwb i’n heconomi a phrofiadau twristiaeth. Bydd sicrhau bod cyfreithiau cynllunio yn fwy hygyrch hefyd yn helpu i gyflymu penderfyniadau a thyfu'n heconomi.