Bydd Cyllideb Derfynol 2026-27 yn darparu £1.2bn yn fwy ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau ar draws Cymru nag yn y flwyddyn ariannol hon.
Mae'n gwneud £400m o ddyraniadau newydd ers i'r Gyllideb Ddrafft gael ei chyhoeddi ym mis Hydref.
Mae hyn yn cynnwys £300m o gyllid refeniw ar gyfer llywodraeth leol a'r GIG, wedi ei sicrhau drwy gytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae hefyd yn cynnwys £100m arall o gyllid refeniw a chyfalaf, a fydd yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bysiau, prentisiaethau, addysg bellach, gwaith atal llifogydd, a gwaith cynnal a chadw adeiladau ysgolion.
Bydd gan bob adran yn Llywodraeth Cymru o leiaf yr un lefel o gyllid mewn termau real yn 2026-27 â'r flwyddyn ariannol hon, gyda chynnydd ar gyfer chwyddiant a thâl, i helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a diogelu swyddi.
Mae Cyllideb Derfynol 2026-27 yn darparu £27.5bn yn 2026-27.
Mae dyraniadau allweddol yn cynnwys:
- £112.8m o gyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, a phob cyngor yn cael cynnydd o 4% neu fwy.
- £180m o gyllid ychwanegol ar gyfer y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddod â chyfanswm y gyllideb refeniw i fwy na £12.6bn.
- £116m o becyn cymorth i fusnesau dros ddwy flynedd i helpu gydag effaith yr ymarfer i ailbrisio ardrethi annomestig yn 2026.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Mae'r Gyllideb Derfynol hon yn darparu adnoddau ychwanegol i gefnogi'r gwasanaethau y mae Cymru'n dibynnu arnyn nhw. Mae pob adran wedi cael ei diogelu gydag o leiaf yr un lefel o gyllid mewn termau real ag eleni, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer chwyddiant a thâl. Mae hyn yn cydnabod gwaith hanfodol ein gweithlu gwasanaethau cyhoeddus.
"Drwy weithio ar draws y Senedd, rydyn ni'n rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus nawr, wrth sicrhau bod gan Lywodraeth nesaf Cymru yr adnoddau sydd ei hangen arni i gyflawni ei blaenoriaethau o'r cychwyn cyntaf."
Cynhelir y ddadl a'r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn y Senedd ar 27 Ionawr 2026.
