Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau i adeiladu canolfan gofal integredig newydd sbon i bobl Aberteifi wedi cael eu cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan fod cytundeb ffurfiol wedi’i roi, bydd gwaith yn dechrau ar hen safle’r Baddondy yn ystod gwanwyn 2018. Disgwylir i’r ganolfan agor ddiwedd 2019, diolch i £23.8m o gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd yn rhan o gytundeb cyllid dwy flynedd gyda Phlaid Cymru.

Yn ogystal â darparu gwasanaeth gofal iechyd modern, sy’n addas i’r diben i’r boblogaeth leol – gan gynnwys meddygfa, gwasanaeth deintyddol a fferyllfa – bydd y ganolfan newydd yn sicrhau gofal yn agosach at y cartref ac yn y gymuned.

Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y trydydd sector, yr awdurdod lleol a sefydliadau partner.

Bydd y gymuned leol hefyd yn manteisio ar y canlynol:

  • Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
  • Gwasanaeth Mân Anafiadau gyda chysylltiad telefeddygaeth at yr Adran Frys
  • Cyfle i gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau 7 diwrnod
  • Mwy o wasanaethau diagnostig gan gynnwys asesiadau cyn llawdriniaethau
  • Gwell canlyniadau i gleifion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Mae’n bleser cyhoeddi’r cyllid ar gyfer Canolfan Gofal Integredig Aberteifi, a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gofal mae pobl ardal Aberteifi yn ei dderbyn, yn agosach i’w cartrefi ac yn eu cymunedau.

“Mae’n rhaid i bobl gael eu trin mewn canolfannau modern, ac fe fydd y prosiect hwn yn helpu i wella’r ddarpariaeth gofal iechyd yn y gymuned, y cyfan dan un to.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Sirol Cymru Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Peter Skitt: 

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gytuno’n ffurfiol i brosiect Canolfan Aberteifi. Dyma benllanw sawl blwyddyn o waith i sicrhau bod modd i ni ofalu am gleifion Aberteifi mewn ffordd ddiogel, gynaliadwy ac integredig drwy ddarparu canolfan sy’n addas i’r diben nawr ac ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni’n cydnabod bod y broses gynllunio wedi bod yn go hir a llafurus ar adegau, ond roedd yn hanfodol gwneud yn siŵr fod y prosiect yn cael ei wneud yn iawn y tro cyntaf. Hoffwn i ddiolch unwaith eto i’n rhanddeiliaid – yn arbennig pobl leol, cleifion a’n staff – am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”

Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bernardine Rees OBE: 

“Rydyn ni’n cydnabod bod poblogaeth Aberteifi wedi bod yn amyneddgar iawn, ac mae’r ganolfan hon wedi wynebu heriau yn sicr, ond mae’r bwrdd iechyd nawr yn falch iawn o gael symud ymlaen gyda’r datblygiad pwysig hwn.

“Hoffwn i dalu teyrnged i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith, am eu hymrwymiad a’u gwaith caled i sicrhau bod y ganolfan newydd yn cyflawni ein nod o ddarparu gofal integredig mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy i’n poblogaeth leol.”