Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi cyflwyno cynigion i ddiogelu hawliau gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Gorffennaf diwethaf, bu Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar gynlluniau i godi gwaharddiad ledled y DU ar ddefnyddio gweithwyr asiantaethau i wneud gwaith gweithwyr sy'n cymryd camau gweithredu diwydiannol. Mae Llywodraeth Cymru am i'r gwaharddiad hwn barhau, gan gadw'r sefyllfa bresennol.

Wrth lansio'r ymgynghoriad heddiw, dywedodd Mark Drakeford:

“Mae gennym draddodiad balch yng Nghymru o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol adeiladol. Mae Llywodraeth Cymru'n cydweithio'n effeithiol â chyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac undebau llafur, ac rydyn ni wedi osgoi llawer o'r gweithredu diwydiannol niweidiol a welwyd yn Lloegr.

“Ond, os bydd gweithredu diwydiannol yn digwydd, mae perygl y bydd cynigion llywodraeth y DU yn arwain at anghydfodau estynedig, hir, mwy o wrthdrawiadau a mwy o darfu ar rai o'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddefnyddir gan y bobl fwyaf agored i niwed.

“Dyna pam rwyf wedi cyflwyno cynigion heddiw i barhau i atal gweithwyr asiantaethau rhag cael eu defnyddio i wneud gwaith gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus sy'n cymryd camau gweithredu diwydiannol, ac rwy'n ceisio barn pobl ar y cynigon hynny.

“Hoffwn annog pawb y byddai hyn yn effeithio arnynt i ddweud eu dweud ac i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad.”