Neidio i'r prif gynnwy

Yng Nghymru mae 60% o'r boblogaeth sy'n oedolion a 27% o blant pedair a phum mlwydd oed dros eu pwysau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yng Nghymru mae 60% o'r boblogaeth sy'n oedolion a 27% o blant pedair a phum mlwydd oed dros eu pwysau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd i helpu pobl yng Nghymru i gynnal pwysau iach ac mae am glywed barn pobl Cymru ar y camau gweithredu sydd wedi cael eu cynnig. 

Cafodd Pwysau Iach: Cymru Iach ei lansio gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd. Mae'n ymgynghoriad ar-lein gyda chyfres o ddigwyddiadau i ennyn diddordeb yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru yn ystod mis Ionawr, Chwefror a Mawrth.  Bydd y digwyddiadau cyntaf yn cael eu cynnal yn y Gogledd a bydd lansiad a chyfarfod cyhoeddus yng Ngwesty'r Quay yng Nghonwy ddydd Mawrth 29 Ionawr yn dechrau am 6:30pm. Bydd gan bobl gyfle i glywed mwy am y cynigion yn ogystal â rhannu eu syniadau eu hunain am y ffordd orau i daclo gordewdra yng Nghymru.  

Bydd gwybodaeth a chynrychiolwyr ar gael yn y lleoliadau canlynol i gasglu barn pobl: 

  • Dydd Mawrth 29 Ionawr, 6:30pm-8:30pm – Gwesty'r Quay, Conwy
  • Dydd Mercher 30 Ionawr, rhwng 9am-1pm – Marchnad Ffermwyr Conwy 
  • Dydd Iau 31 Ionawr, rhwng 9am-5pm – Prifysgol Bangor 
  • Dydd Gwener 1 Chwefror, rhwng 10am-4pm – Stryd Fawr, Bangor 
  • Dydd Sadwrn 2 Chwefror, rhwng 10am-4pm – Sgwâr y Frenhines, Wrecsam  
Mae bod yn ordew yn cynyddu'r risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol fel clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser. Mae hefyd yn risg i iechyd meddwl unigolion ac yn gallu bod yn ergyd i'w hunan-barch, ac achosi iselder a gorbryder.

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 

“Mae bod yn ordew yn fater iechyd y cyhoedd difrifol, ac mae llawer o bobl yn y Gogledd yn ei chael hi'n anodd cynnal pwysau iach. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio'n galed i adolygu ffyrdd newydd i helpu pobl i gynnal pwysau iach, a'u rhoi ar waith, er mwyn cefnogi plant ac oedolion. 

“Yn ogystal â hyn, mae timau yn gweithio gyda phartneriaid i annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff, fel rhan o fenter gydweithredol Beth am Symud a Chwaraeon Gogledd Cymru. Felly, rydyn ni’n croesawu'r cyfle i roi sylwadau ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach newydd ac annog partneriaid eraill i gymryd rhan yn y lansiad yn y Gogledd." 

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

“Mae hwn yn fater na allwn ei anwybyddu. Hon yw'r her iechyd y cyhoedd fwyaf i'n cenhedlaeth ni ac rwy'n annog pobl i gymryd mantais lawn o'r cyfle i gyflwyno sylwadau i'r ymgynghoriad hwn.”

Mae mynd i'r afael â gwraidd yr achosion pam mae pobl yn ordew yn fater cymhleth. Bydd yn galw am ymyrraeth ar bob lefel o'r maes iechyd. Allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau - does dim ateb hawdd i'r broblem hon. Mae'r cynigion a amlinellwyd yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael o'r hyn a allai weithio i newid y sefyllfa yn llwyr."

Mae ffocws cryf ar atal gordewdra yn y cynigion sydd wedi'u hamlinellu yn yr ymgynghoriad. Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r hyn sy'n gallu helpu pobl i gynnal pwysau iach yn cefnogi'r cynigon hynny. Bydd yr adborth a ddaw oddi wrth y cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i helpu i lunio'r strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach, y bwriedir ei chyhoeddi ym mis Hydref 2019.

Bydd y cyfnod ymgynghori i ben ar 12 Ebrill 2019. I ddarllen yr ymgynghoriad a'r cynigion yn llawn, yn ogystal ag ymateb, ewch i  https://beta.llyw.cymru/pwysau-iach-cymru-iach