Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n hollbwysig ein bod yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen i'n plant a’n pobl ifanc i'w cadw'n ddiogel mewn byd ar-lein sy'n newid yn barhaus – Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn annog athrawon, rhieni a gofalwyr i ddarllen ei Chynllun Gweithredu Diogelwch Ar-lein (dolen allanol) sy'n darparu rhagor o gefnogaeth i ddiogelwch plant a phobl ifanc ar-lein.

Mae'n ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys diogelu, gwrthfwlio a seiberddiogelwch, ac mae'n ychwanegu at ddulliau presennol o addysgu diogelwch ar-lein fel Parth Diogelwch Ar-lein Hwb (dolen allanol) a 360 degree safe Cymru (dolen allanol).

Ddydd Mercher, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ag Ysgol Gyfun Porthcawl i'w llongyfarch ar gael dyfarniad 360 degree safe Cymru. Roedd yno hefyd i lansio'r cynllun yn swyddogol ac i wrando ar fyfyrwyr yn trafod eu profiadau ar-lein.

Dywedodd:

“Does dim byd yn bwysicach na diogelwch ein pobl ifanc  - p’un ai'n gorfforol neu ar-lein. Mae'r rhyngrwyd wedi gweddnewid addysg yn llwyr. Ychydig wythnosau'n ôl, fe wnes i lansio'r prosiect E-sgol cyntaf erioed yng Nghymru. Mae'n defnyddio  technoleg fideo, drwy'r dulliau gweithredu sydd ar gael ar Hwb, i gysylltu gwahanol ystafelloedd dosbarth. Dyma'r dyfodol, ond wrth i dechnoleg ddatblygu fel hyn, mae diogelwch ein dysgwyr yn gynyddol bwysig.

“Mae Cenhadaeth Ein Cenedl yn ymrwymo i roi sgiliau digidol uwch i bob dysgwr ac mae angen i ni sicrhau bod gwybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel ynghlwm â'r sgiliau hynny. Mae'n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i sicrhau eu bod yn ddiogel ar-lein a dw i'n annog pawb sy'n gofalu am blant neu'n eu haddysgu i ddarllen y cynllun gweithredu hwn.”

Er mwyn sicrhau bod y problemau go iawn sy'n wynebu unigolion ar-lein yn cael sylw, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r NSPCC ar brosiect 'llais disgyblion' a holodd  bobl ifanc ynghylch eu pryderon. Mae rhanddeiliaid allweddol eraill fel Barnardos, Estyn a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi bod yn rhan o lunio'r cynllun hwn.

Dywedodd Vivienne Laing, rheolwr polisi a materion cyhoeddus yr NSPCC yng Nghymru:

“Diogelwch ar-lein yw un o’r prif heriau wrth geisio diogelu plant yn yr 21ain ganrif. Mae plant yn aml mewn perygl o gael eu bwlio, o fod yn darged i rywun sydd am feithrin perthynas amhriodol, o gael eu cam-drin, neu o weld cynnwys anaddas ar-lein. Mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru ar flaen y gad yn ymdrechu i gadw pobl ifanc yn ddiogel ac mae'r cynllun hwn yn gam mawr ymlaen drwy rannu'r wybodaeth sydd ei hangen ar blant a rhieni.

“Nawr, rydym eisiau gweld sefydlu grŵp cynghori o arbenigwyr ar ddiogelwch ar-lein, sy'n cynnwys pobl ifanc, er mwyn sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei roi ar waith yn effeithiol a'i fod yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i fyd technoleg ddatblygu. Mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd a chyda chwmnïau technoleg, asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac elusennau i wneud y rhyngrwyd yn lle llawer mwy diogel i blant yng Nghymru.”

Dywedodd Arweinydd y Tŷ sydd â chyfrifoldeb dros dechnoleg ddigidol, Julie James:

“Rydym eisiau rho'r cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau digidol i'r eithaf. Mae hyn yn hanfodol iddyn nhw ac i'n heconomi. Roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yn lansiad Sefydliad Codio Cymru ychydig wythnosau'n ôl. Bydd hwn yn helpu i sicrhau bod sgiliau digidol o'r radd flaenaf ar gael i ysgolion. Ond mae gennym gyfrifoldeb hefyd i sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel pan fyddant ar-lein ac rwy'n annog pobl i ddarllen y Cynllun Gweithredu Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol.”