Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu cynllun gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sector gweithgynhyrchu Cymru drwy ‘storm berffaith’ a achosir gan economi fyd-eang gythryblus. Bydd y cynllun hefyd yn sicrhau bod y sector yn barod i groesawu’r pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd y cynllun yn helpu i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn genedl weithgynhyrchu flaenllaw gydag economi fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd
  • Bwriad y Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu i Gymru ar ei newydd wedd yw sicrhau bod y sector mewn sefyllfa dda i groesawu’r newid technolegol a ddaw yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac elwa ar y newid hwnnw
  • Mae sector gweithgynhyrchu Cymru yn wynebu ‘storm berffaith’ a achosir gan siociau economaidd byd-eang, prinder llafur, cynnydd mewn prisiau ynni ac anawsterau yn y gadwyn gyflenwi

Mae oddeutu 150,000 o bobl yn gweithio yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru ac mae miloedd yn fwy o bobl yn cael eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Mae’n cyfrannu dros 16% i allbwn economaidd cenedlaethol Cymru, sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU, sef oddeutu 9%.

Mae’r sector yn cynnwys bwyd a diod, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), cemegion, electroneg, gwyddorau bywyd, adeiladu, metelau, ynni, moduron, rheilffyrdd, awyrofod, amddiffyn a diogelwch.

Mae rhai o’r cwmnïau gweithgynhyrchu mwyaf yn y byd wedi sefydlu gweithrediadau o bwys yng Nghymru, gan helpu i arddangos Cymru fel lle gwych i fuddsoddi ynddo. Mae cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru yn allforio eu nwyddau ar draws y byd.

Lansiwyd Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu gwreiddiol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2021. Roedd yn nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i ddatblygu sector gweithgynhyrchu gwerthfawr a chadarn gyda gweithlu hyfedr a hyblyg sy’n gallu darparu’r cynnyrch, y gwasanaethau a’r technolegau angenrheidiol ar gyfer economi’r dyfodol yng Nghymru.

Mae’r cynllun yn rhan allweddol o Genhadaeth Ailadeiladu a Chadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ailadeiladu economi Cymru er mwyn ei gwneud yn fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd.

Ers hynny, mae’r sector gweithgynhyrchu wedi, ac yn parhau i, wynebu ‘storm berffaith’ o ganlyniad i nifer o heriau mawr. Ymysg yr heriau hyn mae cystadleuaeth fyd-eang, ffrwydrad technolegol, Brexit a threfniadau masnachu newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID-19, argyfwng hinsawdd, cynnydd yng nghost ynni, oedi a achosir gan broblemau allforio sydd wedi amharu ar gadwyni cyflenwi byd-eang, prinder deunyddiau crai, cynnydd mewn prisiau a phroblemau difrifol o ran y gweithlu sydd ar gael.

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd cyn datblygu’r cynllun ar ei newydd wedd:

  • dywedodd 88% o’r gwneuthurwyr eu bod wedi wynebu anawsterau wrth recriwtio staff
  • dywedodd 79% eu bod wedi wynebu anawsterau yn y gadwyn gyflenwi
  • dywedodd 75% eu bod wedi wynebu pwysau a achosir gan gostau ynni cynyddol
  • dywedodd 70% eu bod yn teimlo bod angen iddynt uwchsgilio eu gweithlu
  • dywedodd 54% fod Brexit wedi cael effaith heriol ar eu busnes

Mae’r cynllun ar ei newydd wedd: Dyfodol gweithgynhyrchu i Gymru: win taith tuag at Gymru 4.0 yn canolbwyntio ar sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn genedl weithgynhyrchu flaenllaw. Mae hefyd yn canolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau, gan gynnwys:

  • Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy ddatgarboneiddio’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, a ategir gan fethodoleg Economi Gylchol
  • Datblygu’r amodau i angori cwmnïau gweithgynhyrchu allweddol yng Nghymru, gan gynnwys darparu seilwaith modern a chadwyni cyflenwi cadarn
  • Nodi a datblygu’r sgiliau angenrheidiol o ran arweinyddiaeth a’r gweithlu sydd eu hangen i gyflawni ‘Cymru 4.0’
  • Cryfhau cydweithio rhwng rhanddeiliaid er mwyn croesawu’r newid technolegol a darparu mwy o arloesi masnachol ar gyflymder
  • Ymgorffori egwyddorion cyflogaeth ‘Gwaith Teg’ yng Nghymru, gan hyrwyddo cynwysoldeb a diogelwch, a diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol
  • Rhoi cymorth busnes ar waith er mwyn galluogi gweithgynhyrchwyr o Gymru i ateb y galw yn y dyfodol am gynnyrch o bwysigrwydd strategol

Wrth lansio Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu ar ei newydd wedd Llywodraeth Cymru yn ystod ymweliad â Chanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru ym Mrychdyn, Sir y Fflint, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, fod y cynllun wedi’i ddylunio i sicrhau bod diwydiant Cymru mewn sefyllfa dda i groesawu’r heriau hyn, ac elwa arnynt. Un o’r heriau hyn yw’r newid technolegol a achosir gan y pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae gan Gymru dreftadaeth gyfoethog ym maes gweithgynhyrchu, a gall ymfalchïo yn y ffaith mai hi oedd gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd. Roedd Cymru wrth wraidd y chwyldro diwydiannol cyntaf, yn ganolfan allforio fyd-eang, ac yn arwain y ffordd wrth ddatblygu dulliau cynhyrchu a oedd yn defnyddio peiriannau mecanyddol a phŵer stêm.

“Mae gweithgynhyrchu yr un mor bwysig i Gymru heddiw ag y bu erioed ac mae’n parhau i fod rhan annatod o’n hunaniaeth genedlaethol. Mae gennym gyfrifoldeb unigryw i ddiogelu’r sector hanfodol hwn a rhaid inni gydweithio â’r diwydiant a’n partneriaid cymdeithasol i sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu ymhell i’r dyfodol.”

“Mae ein hymrwymiad i gefnogi ein sector gweithgynhyrchu yn parhau’n ddiwyro. Dyna pam roedd yn iawn inni gynnal adolygiad o’r cynllun i sicrhau ein bod yn parhau i wneud y gorau o’n hadnoddau ar y cyd, a hynny er mwyn ymateb i’r meysydd sydd angen yr help mwyaf. Bydd y cynllun gweithredu ar ei newydd rwy’n ei lansio heddiw yn helpu i deilwra gallu presennol i’r dyfodol, manteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol ac ymateb i rai o’n heriau hirdymor mwyaf.

“Er bod y sector yn wynebu heriau sylweddol, mae’r rhain hefyd yn darparu cyfleoedd. Gall y ffordd rydym yn mynd i’r afael â’r heriau hyn a’u goresgyn gyda’n gilydd roi mantais gystadleuol wirioneddol i Gymru. Rwy’n hyderus y bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn genedl weithgynhyrchu o’r radd flaenaf.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

Rydym yn croesawu'r cynllun ar ei newydd wedd ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau swyddi gweithgynhyrchu o ansawdd da lle mae undebau llafur yn cael eu cydnabod ledled Cymru. Drwy ymgynghori â chyflogwyr a gweithwyr, mae'r cynllun yn nodi dyfodol cynaliadwy i'r sector sydd wrth wraidd economi Cymru.

"Yn amlwg mae'r sector yn wynebu heriau mawr, gan gynnwys yr angen i ddatgarboneiddio, effaith Brexit a phrisiau ynni. Mae'r cynllun hwn yn cydnabod y rhain ac yn nodi sut mae gweithgynhyrchu yn ffitio mewn economi fodern yng Nghymru, gyda gweithlu medrus iawn sy'n elwa o waith teg, sy'n talu'n dda.”

Dywedodd Janis Richards, Cyfarwyddwr Aelodaeth Make UK yng Nghymru:

Mae cynllun cryf ar gyfer y diwydiant sy’n meithrin hyder ac yn sefydlu uchelgais glir yn hanfodol ar gyfer ysgogi twf yn economi Cymru – mae Make UK yn croesawu’r cyhoeddiad hwn yn llwyr.

“Yn benodol, dylid cymeradwyo Llywodraeth Cymru am ymgynghori mor helaeth ag aelodau Make UK, gan sicrhau bod y cynllun hwn yn canolbwyntio ar y materion go iawn sydd bwysicaf iddynt.”

Dywedodd yr Athro Keith Ridgway, Cadeirydd Diwydiant Cymru:

Mae Diwydiant Cymru yn croesawu diddordeb parhaus Llywodraeth Cymru yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, a’i chefnogaeth barhaus iddo. Rydym yn croesawu’r adnewyddiad hwn sy’n berthnasol ac yn amserol o ystyried y pwysau economaidd presennol sy’n wynebu ein diwydiannau a’r gymuned ehangach.

“Er bod nifer o’r problemau a wynebir yn rhai sy’n wynebu’r DU a’r byd, mae llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi’r diwydiant yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer mwy o gynhyrchiant, sgiliau, arloesi a datblygu’r gadwyn gyflenwi. Yn benodol, drwy gysylltu datblygiad y gadwyn gyflenwi â’n hanghenion o ddydd i ddydd, mae cyfle i drawsnewid economi ein gwlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd dull trawslywodraethol o ymdrin â pholisi, caffael a phrosiectau yn angori ac yn ysgogi cadwyn gyflenwi gadarn a chynaliadwy wrth alluogi ansawdd cyflogaeth ym mhob un o’n rhanbarthau.

“Ar ran holl sectorau’r diwydiant, rydym yn croesawu’r ffocws a’r blaenoriaethu hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda’r holl randdeiliaid i roi’r Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu ar waith.”

Dywedodd Katherine Bennett, Prif Swyddog Gweithredol High Value Manufacturing Catapult sy'n gweithio i gyflymu cysyniadau newydd mewn gweithgynhyrchu i realiti masnachol:

Mae gweithgynhyrchu yn elfen allweddol o economi Gymreig lwyddiannus. Mae'r Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu amgylchedd lle gall y sector groesawu'r manteision a'r cyfleoedd sy'n cael eu creu gan dechnolegau newydd. Mae High Value Manufacturing Catapult yn edrych ymlaen at weithio gyda chwmnïau ledled Cymru i'w helpu i arloesi a thyfu."

Dywedodd cynullydd Unite yn Airbus, Daz Reynolds:

Mae Unite yn croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru o'i chynllun gweithredu gweithgynhyrchu. Calon economi Cymru yw ein sector gweithgynhyrchu. Mae aelodau medrus iawn Unite sy’n gweithio mewn cwmnïau fel Airbus, GE a TATA yn cynhyrchu nwyddau sy'n cael eu hallforio ar draws y byd.

“Mae cynnal ein cryfder gweithgynhyrchu yn heriol mewn byd sy'n newid yn gyflym, ond gellir cyflawni hyn os ydym yn parhau i gydweithio drwy strwythurau partneriaethau cymdeithasol Cymru.

“Mae swyddi gweithgynhyrchu da ac undebol, sy'n talu'n dda, yn cefnogi miloedd o deuluoedd a chymunedau ar draws Cymru gyfan. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl weithgynhyrchu fywiog yn uchelgais y mae Unite yn ei chefnogi'n llawn.”