Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pobl sy'n byw yn ne-orllewin Cymru yn cael cyfle i leisio eu barn am opsiynau trafnidiaeth yn eu hardal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe i ddatblygu cynigion ar gyfer Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.

Mae'r ymgynghoriad, sy'n rhedeg am 12 wythnos o heddiw (Mawrth 16eg) yn cyflwyno opsiynau ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yn ardal De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys mwy o wasanaethau strategol pellter hir, mwy o wasanaethau lleol o Orllewin Cymru i Gaerfyrddin ac Abertawe, gorsafoedd newydd a gwelliannau i orsafoedd presennol, a datblygu rhwydwaith Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Mae'r cynigion hyn yn edrych i'r dyfodol, ein hadferiad o Covid a datblygu system drafnidiaeth integredig o ansawdd uchel sy'n addas i'r diben.

"Mae nhw i gyd yn ymwneud â'i gwneud hi'n haws teithio, boed ar drên, bws, beic neu ar droed. Mae'n ymwneud â'i gwneud yn haws cyrraedd y gwaith neu'r ysgol, i'ch apwyntiad ysbyty neu i fynd allan gyda'r nos ac ar benwythnosau gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Ted Latham, hefyd yn Aelod Cabinet y Cyngor dros Y Gwasanaethau Stryd a Pheirianneg:

"Cydnabyddir yn eang bod tagfeydd ar ein rhwydwaith ffyrdd lleol a strategol yn broblem wirioneddol yn y rhanbarth yn ystod oriau brig. Rwy'n gobeithio y bydd prosiect Metro De-orllewin Cymru yn ceisio creu rhwydwaith trafnidiaeth modern a chynaliadwy i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth gymunedol a llwybrau teithio llesol i wireddu'r capasiti yn ein rhwydweithiau ffyrdd cyfyngedig."

Dywedodd y Cynghorydd Phil Baker Aelod Cabinet dros Seilwaith Cyngor Sir Penfro:

"Rydym yn croesawu'r ymgynghoriad hwn, gan y bydd yn galluogi pobl Sir Benfro i lunio'r prosiect trafnidiaeth sylweddol hwn. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig hwn bydd system drafnidiaeth gyhoeddus addas i'r diben yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall ein cymunedau deithio i'r gwaith, siopa a chymdeithasu – bydd hefyd yn cefnogi ein heconomi dwristiaeth hanfodol. Byddwn yn annog trigolion Sir Benfro i gymryd rhan."

Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, Cyngor Dinas a Sir Abertawe:

“Dyma gyfle i bobl yn Abertawe ar rhanbarth ehangach i ddweud neu dweud eu fynegi barn ar sut yr hoffent weld gwasanaethau trafnidiaeth yn cyflawni'r hyn meant eisiau yn y dyfodol.”

Dywedodd Y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i archwilio opsiynau ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau â Sir Gaerfyrddin ac ymhellach i'r gorllewin, gan alinio â'n dyheadau a'n cynlluniau ar gyfer y sir sy'n cynnwys adfywio wedi ei dargedu o’n trefi marchnad.”

Meddai James Price, Prif Weithredwr, Trafnidiaeth Cymru:

“Ein nod yw darparu rhwydwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn falch ohono ac i'n helpu i gyflawni hyn mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan gynifer o bobl â phosibl. Mae’n gyfle cyffrous i helpu i lunio cynlluniau trafnidiaeth yn ne orllewin Cymru a byddem yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”