Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yn swyddogol gynigion 'Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol' Chwarae Teg, a osododd y camau y mae angen i'r llywodraeth eu cymryd er mwyn helpu i gyflawni ei nod o weld cymdeithas deg a chyfiawn yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'r adolygiad, cyhoeddodd Chwarae Teg nifer o adroddiadau gan gynnwys 'Gwneud Nid Dweud' a chynllun ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol.

Mae'r argymhellion hyn bellach wedi'u cymeradwyo gan Weinidogion Cabinet Llywodraeth Cymru ac mae'r cynlluniau ar gyfer eu rhoi ar waith eisoes wedi cychwyn, gan gynnwys ymchwil i ddeall sut y gellid atgyfnerthu hawliau a mesurau amddiffyn ymhellach.

Drwy dderbyn yr argymhellion, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gweithredu mewn ffordd groestoriadol, ac fe fydd yn ymestyn cwmpas y grŵp llywio Gweinidogol sy'n gweithio'n benodol i gryfhau cydraddoldebau a datblygu hawliau dynol i bawb yng Nghymru.

Bydd y grŵp – sy’n cynnwys sefydliadau sy'n gweithio mewn meysydd amrywiol fel hil, anabledd, LHDT+ a phobl ifanc – yn darparu cyfeiriad strategol ac yn goruchwylio'r gwaith gweithredu, yn ôl datganiad gan y Gweinidog sy'n arwain ar gydraddoldebau, Jane Hutt.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

Mae cydraddoldeb yn ganolog i waith y llywodraeth hon, ac fe fydd Adolygiad Chwarae Teg o Gydraddoldeb Rhywiol yn rhan allweddol o'n hymgais i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Rydyn ni wedi bod yn ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb ers cenedlaethau, ac rydyn ni'n cydnabod bod angen cynllun hirdymor ac ymrwymiad parhaus i symud ymlaen gyda'r argymhellion hyn.

Bydd ein cynllun gweithredu yn sicrhau bod modd i ni fonitro ac adolygu cynnydd, ac ar ben hynny yn caniatáu i ni gynnal y ffocws a'r momentwm.

Nawr rhaid i bawb fod yn rhan o’r gwaith er mwyn sicrhau'r lefel o newid rydyn ni i gyd am ei weld.

Dywedodd Prif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong:

Rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol a'r ymrwymiad i osod cynllun hirdymor i gyflawni'r newid sydd ei angen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad drwy fabwysiadu gweledigaeth newydd, uchelgeisiol ar gyfer cydraddoldeb rhywiol a fydd yn gofyn am newid radical yn ein gwaith a'n ffordd o weithio. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon am gydraddoldeb rhwng y rhywiau, rydyn ni wedi dweud yn glir bod angen i fwriadau da gael eu trosi yn gamau gweithredu ystyrlon. Rydyn ni felly yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i weithredu argymhellion yr Adolygiad.

Mae gennym ni yng Nghymru sylfeini cadarn i adeiladu arnynt, ond nawr yw'r amser i fod yn fentrus a gwneud pethau'n wahanol fel bod modd i Gymru arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywiol.

Yn gynharach eleni, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion o adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, yn ymrwymo i waith teg fel ffordd o adeiladu economi gryfach, fwy cynhwysol. Mae hefyd yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gychwyn dyletswydd economaidd-gymdeithasol Cymru fel rhan o'r Ddeddf Cydraddoldeb, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw i anghydraddoldebau wrth wneud penderfyniadau strategol.