Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip achub ar y cyfle i ddweud “Diolch” wrth lawer o wirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth yng Nghymru eleni, a chyhoeddi cronfa grant newydd gwerth £4m ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ystod eang o waith gwirfoddol a gweithredu cymunedol wedi bod yn allweddol i ymateb Cymru i bandemig COVID-19, yn enwedig i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned.

Mae'r cymorth hwn wedi bod yn hanfodol i gynnal iechyd a lles llawer o bobl. Mae wedi helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, ac felly wedi achub bywydau.

Dywedodd Jane Hutt:

Hoffwn ddiolch i'r holl bobl anhygoel sydd, ac sydd wedi bod yn gweithio yn ein cymunedau ledled Cymru.

Rydych eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws cymunedau Cymru. Mae grwpiau cymunedol wedi dangos pa mor dda y mae gwirfoddolwyr yn cydweithio, a hoffwn gymeradwyo a dathlu'r ymdrechion hynny. Mae'n wych clywed am y ffyrdd dyfeisgar a chreadigol y mae cymunedau wedi cefnogi’i gilydd. Mae ymdrechu gyda’n gilydd yn creu canlyniadau bythgofiadwy, a gall gwirfoddoli gael effaith enfawr ac effaith fuddiol ar y gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n cael eu cymorth.

Mae gweithredu gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru wedi canolbwyntio'n gryf ar gefnogi pobl sy'n agored i niwed a'r grwpiau a'r cymunedau y mae COVID-19 yn effeithio fwyaf arnynt, gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl. 

Mae cynllun cyllid grant tymor byr newydd gwerth £4m bellach wedi'i lansio. Bydd yn helpu i sicrhau bod y gwaith hanfodol hwn yn parhau gan gefnogi'r ardaloedd daearyddol a'r cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yn hyrwyddo partneriaeth rhwng cyrff cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector i gael yr effaith fwyaf posibl.

Bydd yr arian hwn yn cynnal gwirfoddoli a gweithredu cymunedol wrth i ni adfer ar ôl argyfwng COVID-19, gan helpu’r rhai sy’n cael grantiau i gyflwyno systemau a threfniadau newydd a datblygu gwasanaethau cymorth cymunedol tymor hir.

Aeth Jane Hutt ymlaen i ddweud:

Bydd y cynllun grant hwn yn cael effaith gadarnhaol yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Bydd yn cryfhau cymunedau lleol, yn meithrin cydlyniant cymunedol, ac yn darparu cymorth hirdymor i'r rhai mwyaf agored i niwed.

Drwy'r gydol y cyfyngiadau eleni, daeth gwirfoddolwyr, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol ynghyd i ddangos ysbryd ac argyhoeddiad er mwyn cefnogi cymunedau lleol. Ni fyddem wedi gallu parhau i ymdopi cystal heb eich help, eich cefnogaeth a'ch gwaith caled.

Daliwch ati wneud beth bynnag y gallwch i gefnogi eich ardal leol – mae'r cyfan yn gwneud gwahaniaeth. Cofiwch gadw'n ddiogel, aros yn lleol, a dilyn canllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, fe wnawn gadw Cymru'n ddiogel.

Dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Eleni, mae gwirfoddolwyr wedi bod ar flaen y gad wrth ymateb i'r pandemig yn  y gymuned yng Nghymru, ac mae hyn yn wir ledled y byd. Ers dechrau 2020, mae dros 22,000 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Mae'r gwirfoddolwyr hyn wedi rhoi cymorth hanfodol i doreth o unigolion, sydd wedi helpu i leddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae CGGC wedi gweld enghreifftiau gwirioneddol anhygoel o wirfoddoli a'r effaith y mae'r cymorth hwn wedi'i gael, ac felly hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un sydd wedi gwirfoddoli yn ystod y flwyddyn heriol hon.

Mae'r sector gwirfoddol hefyd wedi cael trafferthion ariannol enfawr yn ystod y pandemig, ac felly mae cyllid fel y Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws yn hanfodol er mwyn sicrhau bod mudiadau gwirfoddol yn gallu parhau i weithredu. Bydd CGGC yn parhau i gydweithio mewn partneriaeth agos â chyrff yn y sector cyhoeddus a’r Chynghorau Gwirfoddol Sirol er mwyn sicrhau bod y sector yn cael y cyllid a’r cymorth y mae dirfawr angen amdano.