Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gymuned fusnes rhag effaith COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 31 Rhagfyr, wedi cael ei estyn tan 31 Mawrth 2021.

Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n methu talu ei rent rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2021. Bydd y cam hwn yn helpu i leihau’r baich ar amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys manwerthu a lletygarwch, yn ystod cyfnod sy’n parhau i fod yn heriol iawn.

Ers dechrau’r pandemig mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r pecyn mwyaf hael o gymorth at ei gilydd i fusnesau unrhyw le yn y DU, sy’n werth bron i £2 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £340 miliwn sydd ar gael drwy gylch diweddaraf y Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

Er gwaethaf ein holl ymdrechion sy’n parhau i leihau lledaeniad y coronafeirws, mae achosion o’r feirws yn parhau i fod yn uchel ac yn destun pryder. Rydym yn cydnabod bod y cyfyngiadau sy’n parhau a’r newidiadau ehangach o ran ymddygiad yn rhoi pwysau sylweddol ar lawer o’n busnesau. Rydym yn gweithio’n galed i gefnogi ein busnesau yn gyflym gyda’r cynnig cymorth mwyaf hael sydd ar gael i fusnesau unrhyw le yn y DU.

Fel rhan o’r pecyn cymorth hwnnw, rwy’n fach ein bod hefyd yn gallu estyn mesurau i atal fforffedu prydles am beidio â thalu rhent. Bydd hyn yn diogelu llawer o fusnesau rhag cael eu troi allan ac yn helpu i ddiogelu swyddi, diogelu busnesau a gwarchod ein heconomi dros y misoedd allweddol sydd i ddod.

Byddwn ni’n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i roi cymorth ychwanegol wrth inni symud tuag at Gymru ffyniannus yn dilyn y pandemig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

Nid yw’n dasg hawdd cefnogi busnesau Cymru gan gadw cydbwysedd â’r angen i ddiogelu’r rhai sydd mwyaf agored i niwed ac atal lledaeniad y feirws. Mae sicrhau bod manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021 yn un o’r ffyrdd rydym yn helpu canol ein trefi nid yn unig i oroesi ond i ailgodi’n gryfach wrth iddynt barhau i fasnachu’n ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae sicrhau bod gan ein trefi ymdeimlad o le yn bwysicach nag erioed, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â phartneriaid, yn unol â’n hagenda Trawsnewid Trefi, i adeiladu canol trefi ar gyfer y dyfodol lle gall busnesau ffynnu.