Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i gynnig Llywodraeth y DU i osod cap o 6% ar gyfraddau llog benthyciadau Cynllun 2 a Cynllun 3 i fyfyrwyr o fis Medi 2026 ymlaen – ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 27.
Mae unrhyw benderfyniad ffurfiol i fwrw ymlaen â hyn yng Nghymru, gan gynnwys y Rheoliadau, yn fater i Lywodraeth nesaf Cymru, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.
Dywedodd Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch:
Rwy'n falch o gefnogi'r cap arfaethedig ar gyfraddau llog benthyciadau i fyfyrwyr gan y bydd yn diogelu myfyrwyr Cymru sydd â benthyciad. Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru wneud penderfyniad terfynol ar gymhwyso'r cap ar gyfraddau llog ar gyfer benthycwyr Cymru, yn dilyn etholiad y Senedd.
