Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cyflymu’r gwaith i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael eu gweld yn gynt ar gyfer cael triniaeth gan y GIG.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw’r addewid wrth i ffigurau newydd a ryddhawyd heddiw ddangos bod 666,700 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth y GIG, er bod y ffigur hwn yn ostyngiad o 21,300 ym mis Mawrth o gymharu â mis Chwefror.

Roedd ychydig o dan 2,600 o lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd, gostyngiad o 1,928 o’r mis blaenorol. Yr amser aros cyfartalog am driniaeth erbyn hyn yw ychydig dros 15 o wythnosau.

Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn glir bod llawer iawn mwy i’w wneud. Dywedodd: 

Mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd. Dyna’r realiti ac mae’n fater ry’n ni’n benderfynol o’i ddatrys.

Ry’n ni’n siarad am fywydau pobl, a fy swydd i yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Iechyd i sicrhau bod pobl sydd angen triniaethau yn eu cael yn llawer cynt.

Mae’n hollbwysig ein bod yn gweld gwelliannau o ran rhestrau aros, amseroedd aros a mynediad at wasanaethau ambiwlans ac adrannau brys, ac rwyf am gydnabod ymroddiad staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sy’n gweithio i sbarduno’r cynnydd ry’n ni gyd angen ei weld.

Heddiw, bydd y Gweinidog yn ymweld ag uned llawdriniaeth Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ei ymweliad cyntaf ers ymgymryd â’i swydd, lle y bydd yn cyfarfod â staff rheng flaen y GIG.

Er mwyn mynd i’r afael ag amseroedd aros, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, yn ei 100 diwrnod cyntaf, i gomisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad y GIG yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar effaith rhestrau aros ar iechyd y boblogaeth.

Bydd grŵp tasg arbenigol newydd hefyd yn cael ei sefydlu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer hyd at 10 hwb gofal wedi’i gynllunio newydd ledled Cymru. Bwriedir cyhoeddi cynllun cyflawni erbyn diwedd 2026.

Ychwanegodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal:

Mi ddes i i’r rôl hon yn gwybod beth yw profiadau pobl o ran aros am driniaethau gan y Gwasanaeth Iechyd.

Mae ffigurau heddiw yn fan cychwyn. Mi fyddwn ni’n onest â phobl Cymru ynglŷn â’r cynnydd ry’n ni’n ei wneud, ac mi fyddwn ni’n cael ein barnu’n gwbl briodol o ran y canlyniadau. Ry’n ni’n bwriadu mynd i’r afael â maint yr her sydd o’n blaenau.